Actorion Arad Goch yn dod â llyfrau Tir na n-Og yn fyw

Actorion Arad Goch yn dod â llyfrau Tir na n-Og yn fyw

Mae Cyngor Llyfrau Cymru a Chwmni Theatr Arad Goch wedi dod at ei gilydd i gynhyrchu darlleniadau o’r llyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc ar restr fer Gwobrau Tir na n-Og 2020.

Mae Cyngor Llyfrau Cymru a Chwmni Theatr Arad Goch wedi dod at ei gilydd i gynhyrchu darlleniadau o’r llyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc ar restr fer Gwobrau Tir na n-Og 2020.

Yn sgil gohirio pob cynhyrchiad theatrig yn ystod cyfnod clo’r coronafeirws, mae actorion Arad Goch yn Aberystwyth wedi bod yn perfformio ac yn recordio’u lleisiau dros y we.

Gyda phawb yn cyfrannu o’u cartrefi a Jeremy Turner yn cyfarwyddo o bell, mae’r actorion wedi bod yn darllen detholiadau o’r chwe llyfr Cymraeg a gyrhaeddodd y brig yng ngwobrau llenyddiaeth plant a phobl ifanc Tir na n-Og eleni – tri yn y categori ar gyfer plant oedran cynradd a thri yn y categori uwchradd.

Mae’r darlleniadau a recordiwyd ar Zoom ar gael yn rhad ac am ddim o ddydd Llun 29 Mehefin 2020 ar sianel #carudarllen y Cyngor Llyfrau ar blatfform amam.cymru yn ogystal ag ar Hwb, gwefan dysgu digidol Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Helen Jones, Pennaeth Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen Cyngor Llyfrau Cymru: “Mae ansawdd llyfrau Tir na n-Og wedi bod yn arbennig o uchel unwaith eto eleni ac mae rhannu’r gwaith creadigol yma gyda phlant a phobl ifanc yn hollbwysig. Mewn cyfnod pan fo’r llyfrgelloedd a’r ysgolion ynghau, rydyn ni’n hynod ddiolchgar i Arad Goch am weithio gyda ni i greu cynnwys Cymraeg gwreiddiol ac unigryw sydd ar gael yn ddigidol ac yn rhad ac am ddim. Ein gobaith yw y bydd y darlleniadau yma’n adnodd gwerthfawr i ysgolion a rhieni yn y cyfnod hwn a thu hwnt, ac yn dod â mwynhad i blant a phobl ifanc ar draws Cymru. Hoffem ddiolch i Arad Goch, i’r cyhoeddwyr Atebol a’r Lolfa, ac i’r awduron am eu cefnogaeth frwd.”

Dywedodd Jeremy Turner, Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Theatr Arad Goch: “Mae gan Gwmni Theatr Arad Goch hanes hir a llwyddiannus o weithio mewn partneriaeth a chydgynhyrchu gyda sefydliadau yng Nghymru a thramor, gan gynnwys y Cyngor Llyfrau sawl gwaith yn y gorffennol. Yn ogystal, rydyn ni wedi creu cynyrchiadau theatraidd o sawl stori a llyfr. Rydyn ni felly wedi bod yn falch iawn o’r cyfle i gydweithio â’r Cyngor Llyfrau unwaith eto yn ystod y cyfnod rhyfedd hwn i greu recordiadau o’r llyfrau gwych sydd wedi cael eu henwebu ar gyfer y gwobrau eleni. Fe fwynheais i ddarllen pob un ohonyn nhw a hoffwn ddiolch i’n hactorion, ein technegwyr a’n golygydd am eu gwaith. Diolch hefyd i Gyngor y Celfyddydau am ei gefnogaeth yn ystod y cyfnod ansicr hwn.”

Ymhlith y darllenwyr mae’r actorion Ffion Wyn Bowen, Lynwen Haf Roberts, Gruffydd Evans ac Ioan Gwyn, gydag Eugene Capper yn dechnegydd sain a Carwyn Blayney yn gyfrifol am y gwaith golygu.

Bydd enwau enillwyr Cymraeg Gwobrau Tir na n-Og 2020 yn cael eu cyhoeddi ar raglen Heno ar S4C am 6.30yh nos Wener, 10 Gorffennaf, gydag enillydd y categori Saesneg yn cael ei gyhoeddi ar raglen y Radio Wales Arts Show nos Wener, 3 Gorffennaf 2020.

Datganiad Cyngor Llyfrau Cymru – 19 Mehefin 2020

Datganiad Cyngor Llyfrau Cymru – 19 Mehefin 2020

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn croesawu’n gynnes gyhoeddiad y Prif Weinidog bod siopau llyfrau ymhlith y busnesau a fydd yn cael ailagor o ddydd Llun 22 Mehefin 2020.

Diogelwch staff a chwsmeriaid sy’n dod yn gyntaf ar bob cyfrif, wrth gwrs, ac rydym wedi bod yn gweithio gyda llyfrwerthwyr wrth iddynt baratoi i ailagor yn ddiogel yn unol â chanllawiau Covid-19. Nid pob siop efallai fydd yn dewis agor ei drysau’n syth ac fe fydd nifer ohonynt yn addasu eu horiau a’u ffyrdd o weithio. Er bod y cyhoeddiad yn un i’w groesawu, cam arall yw hwn ar y ffordd hir tuag at normalrwydd newydd a’n rôl ni fel Cyngor yw cefnogi’r sector drwy gydol yr amser.

Mae hwn yn gyfnod hynod heriol i ni i gyd, a thros y misoedd diwethaf rydym wedi gweld siopau llyfrau ar draws Cymru yn canfod ffyrdd dychmygus, dan amgylchiadau anodd, o barhau i gynnig gwasanaeth personol i’w cwsmeriaid. Mae nifer ohonynt wedi bod yn trefnu gweithgareddau ar-lein arbennig yn ogystal â gwerthu llyfrau drwy’r we neu dros y ffôn, gan ddanfon parseli drwy’r post neu â llaw yn lleol.

Hoffem ddiolch i’r holl lyfrwerthwyr am eu hymroddiad a’u dyfalbarhad, yn enwedig ar adeg pan mae llyfrau a darllen yn bwysicach nag erioed. Rydym yn ddiolchgar hefyd i Gymru Greadigol am hwyluso cyllid argyfwng ychwanegol i’r sector llyfrau gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi helpu i gynnal siopau yn ogystal â chyhoeddwyr yn ystod y cyfnod anodd hwn.

A ninnau ar drothwy Wythnos Siopau Annibynnol (20–27 Mehefin), dyma gyfle o’r newydd i ni i gyd ddangos ein cefnogaeth i lyfrwerthwyr a dathlu eu cyfraniad pwysig i’n heconomi a’n cymunedau.

Mae manylion holl siopau llyfrau Cymru i’w cael ar gwales.com.

Pedwar o E-lyfrau Byr a Bachog ar gael am ddim

Pedwar o E-lyfrau Byr a Bachog ar gael am ddim

Bydd casgliad o lyfrau byr a bachog gan awduron o Gymru ar gael i’w lawrlwytho am ddim yr haf hwn.

O stori garu i gariad at gŵn anhygoel, ac o heriau rhedeg eithafol i fyd coll, mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi trefnu bod y pedwar teitl diweddaraf yn y gyfres boblogaidd Stori Sydyn ar gael fel e-lyfrau mewn cydweithrediad â chyhoeddwyr y gyfres, y Lolfa a Rily.

Ac am gyfnod o un mis yn unig rhwng 8 Mehefin ac 8 Gorffennaf 2020, bydd modd eu lawrlwytho yn rhad ac am ddim oddi ar blatfform digidol newydd amam.cymru.

Ymhlith yr awduron mae’r anturiaethwr eithafol Huw Jack Brassington, yr awdur Cynan Llwyd, y newyddiadurwr a’r darlithydd Ifan Morgan Jones, a’r awdur a newyddiadurwraig Alison Stokes.

Nod y cynllun Stori Sydyn/Quick Reads yw annog darllen yng Nghymru trwy gyfrwng teitlau byrion, gafaelgar sydd hefyd ar gael fel llyfrau clawr meddal o siopau llyfrau ac o wefan gwales.com am £1 yr un, neu drwy lyfrgelloedd.

Dywedodd Angharad Wyn Sinclair, Rheolwr Cynlluniau Hyrwyddo Darllen gyda’r Cyngor Llyfrau: “O ganlyniad i gyfyngiadau Covid-19, rydyn ni am y tro cyntaf yn cynnig llyfrau Stori Sydyn am ddim am gyfnod o fis fel e-lyfrau. Mae’r teitlau yma’n benthyg eu hunain yn berffaith i’r cyfnod anarferol hwn. Maen nhw’n dal ein dychymyg ac yn ein tywys i fyd arall, ond maen nhw’n ddigon byr i’w darllen mewn diwrnod neu eu codi’n achlysurol a’u mwynhau un bennod ar y tro. Beth sydd hefyd yn arbennig am y llyfrau Stori Sydyn yw eu bod yn addas ar gyfer ystod eang o ddarllenwyr yn ogystal â phobl sy’n llai tebygol o godi llyfr fel arfer.”

Dan ofal Cyngor Llyfrau Cymru, caiff cynllun Stori Sydyn/Quick Reads ei gefnogi’n ariannol gan Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod deunydd gwreiddiol ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg sydd o ddiddordeb i gynulleidfa yng Nghymru.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams “Rwy’n falch iawn bod Cyngor Llyfrau Cymru yn darparu’r teitlau hyn yn ddigidol ac am ddim yng ngoleuni’r pandemig cyfredol. P’un a yw’r rhain yn cael eu defnyddio fel ffordd o gefnogi dysgu, neu ddim ond fel ffordd o ddianc rhag realiti bob dydd, gall darllen fod yn rym pwerus, yn enwedig yn yr amseroedd rhyfedd a chythryblus hyn..

“Rhan o’n Cenhadaeth Genedlaethol yw darparu sgiliau llythrennedd lefel uchel i bob dysgwr sy’n ffurfio sylfeini pob dysgu ac y gellir eu trosglwyddo i fywyd pob dydd a byd gwaith. Bydd llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol o fewn Cwricwlwm Cymru 2022.”

O’r pedwar teitl sy’n cael eu cyhoeddi eleni, mae dau yn Gymraeg a dau yn Saesneg, gydag un llyfr ffuglen ac un ffeithiol yn y naill iaith a’r llall.

Herio i’r Eithaf – Huw Jack Brassington (Y Lolfa). Mae Huw Jack Brassington yn herio’i gorff a’i feddwl i’r eithaf mewn rasys anhygoel o anodd ar draws y byd, fel y 47 Copa, y Pioneer a’r Coast to Coast. Mae ei stori’n mynd â ni i fyd triathlon, rhedeg a seiclo, ac mae’n dysgu gwersi caled ar hyd y daith.

Pobl Fel Ni – Cynan Llwyd (Y Lolfa). Mae digwyddiadau’r nofel yn ymestyn dros gyfnod o tua 24 awr mewn dinas yng Nghymru yn y dyfodol agos, gydag agweddau a rhethreg hiliol, gwleidyddiaeth asgell dde a sefyllfa economaidd fregus yn gefnlen. Mae’n dilyn hanes Nathan a Sadia, sy’n gariadon, wrth iddyn nhw fynychu cyngerdd. Yn ystod y cyngerdd daw ffrwydrad ac mae’r ddau’n cael eu gwahanu.

Hidden Depths – Ifan Morgan Jones (Rily). Mae Rees wedi bod yn rhedeg i ffwrdd ar hyd ei oes. Ond pan wêl mai ffaith yn hytrach na ffuglen yw chwedl o’i blentyndod, mae’n cael ei dynnu’n ddyfnach i fyd cudd sy’n datgelu gwirionedd cythryblus – nid yn unig am ei bresennol, ond am ei orffennol hefyd. Mae’r dewis yn glir: dal yn ôl neu aros ac ymladd.

Dogs for Life – Alison Stokes (Rily). Yn aml, ein cŵn yw’n ffrindiau gorau ac maen nhw’n rhannu cwlwm arbennig gyda ni. Ond beth petai’ch ci yn fwy nag anifail anwes yn unig? Mae’r llyfr yma yn rhannu straeon am anifeiliaid sydd â swyddi pwysig iawn i’w gwneud, ac yn dangos sut mae rhai anifeiliaid anhygoel yn newid bywydau’r bodau dynol sy’n eu caru.

Bydd y teitlau ar gael i’w lawrlwytho am ddim o blatfform amam.cymru rhwng 8 Mehefin ac 8 Gorffennaf, gyda chopïau clawr meddal ar gael i’w prynu am £1 o siopau llyfrau ar hyd a lled Cymru neu o wefan gwales.com y Cyngor Llyfrau.

Gellir benthyg detholiad eang o lyfrau Stori Sydyn o lyfrgelloedd hefyd, naill ai fel e-lyfrau neu gopïau caled pan fyddan nhw’n ail gychwyn eu gwasanaeth.