Prosiect Caru Darllen Ysgolion yn rhoi hwb i ddarllenwyr ifanc

Prosiect Caru Darllen Ysgolion yn rhoi hwb i ddarllenwyr ifanc

Prosiect Caru Darllen Ysgolion yn rhoi hwb i ddarllenwyr ifanc

Ym mis Tachwedd 2021, cyhoeddwyd buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd gan Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, i hybu diddordeb mewn darllen… a dyna gychwyn ar y prosiect rhoi llyfrau mwyaf uchelgeisiol i ni ei reoli erioed! Nod rhaglen Caru Darllen Ysgolion oedd rhoi llyfr i’w gadw i bob plentyn yn ysgolion gwladol Cymru, yn ogystal â darparu llyfrau ychwanegol ar gyfer llyfrgell pob ysgol. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, gyda 438,245 o lyfrau a 168,870 o docynnau llyfrau wedi eu darparu i 1,490 o ysgolion, cafodd y prosiect ei gwblhau ym mis Rhagfyr 2023.

Mae ysgolion, banciau bwyd, cyhoeddwyr, siopau llyfrau a Chyngor Llyfrau Cymru wedi cydweithio i gyflawni’r rhaglen, a hoffem ddiolch o galon i bawb am eu cefnogaeth ac am gymryd rhan yn y cynllun i sicrhau bod pob plentyn yn gallu dethol a dewis llyfr personol yn rhad ac am ddim. Rydym hefyd yn falch iawn o rannu rhai o ganfyddiadau’r adroddiad gwerthuso, sydd wedi dangos gwahaniaeth mor bwysig y mae’r cynllun hwn wedi’i wneud i blant a phobl ifanc ledled Cymru.

Pwrpas y cynllun oedd annog plant a phobl ifanc i fwynhau darllen er pleser, a sicrhau bod pob darllenwr yn cael yr un cyfle i ddewis o amrywiaeth eang o deitlau atyniadol a safonol. Mae’n hysbys bod darllen er pleser yn cynyddu lles ac empathi, yn datblygu’r dychymyg ac yn cefnogi cyrhaeddiad addysgol, yn ogystal â darparu cyfle i ystyried syniadau a phrofiadau newydd.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: “Mae darllen yn agor y drws i sgiliau newydd, yn hybu dychymyg ac yn chwarae rhan bwysig yn natblygiad plentyn. Mae’r ymgyrch Caru Darllen Ysgolion yn dathlu pŵer darllen, ac yn cefnogi dysgwyr, ysgolion, rhieni a gofalwyr i’w annog a’i fwynhau. Rydym am sicrhau bod pob plentyn yn cael y cyfle i elwa ar ddarllen ac mae’n wych gweld yr ymgyrch hon yn helpu i danio angerdd gyda deunydd o ansawdd uchel.”

Cafodd y rhaglen ei chyflawni mewn pedwar cam:

  • Derbyniodd pob plentyn yn ysgolion cynradd gwladol Cymru lyfr yn rhodd. Anfonwyd detholiad o lyfrau i ysgolion, er mwyn i’r disgyblion gael dewis o’u plith.
  • Rhoddwyd tocyn llyfr gwerth £7 i bob dysgwr 11–16 oed yn ysgolion uwchradd gwladol Cymru. Dosbarthwyd y tocynnau llyfrau i’r ysgolion a chawsant eu rhannu ymhlith y disgyblion. Gweithiodd rhai ysgolion mewn partneriaeth â siopau llyfrau lleol i drefnu ffair lyfrau neu i ymweld â siop lyfrau er mwyn helpu myfyrwyr i brynu llyfr.
  • Derbyniodd pob ysgol wladol becyn o 50 o lyfrau a oedd yn dathlu amrywiaeth, ar gyfer eu rhoi yn llyfrgell yr ysgol neu’r dosbarth.
  • Cafodd 66,775 o lyfrau eu dosbarthu i fanciau bwyd a grwpiau cymunedol er mwyn i ddefnyddwyr y gwasanaethau ddewis llyfrau yn ystod eu hymweliadau. Darparwyd cyflenwadau o lyfrau ym mis Tachwedd 2022 a mis Tachwedd 2023, yn barod at y Nadolig.

Llyfrau yn rhodd mewn Ysgolion Cynradd – canfyddiadau
Cafwyd 231 o ymatebion unigol i’r arolwg gan 226 o ysgolion cynradd, yn ogystal â grwpiau trafod. Mae’r adborth i gyd yn cynnwys adborth gan staff yr ysgol, dysgwyr a rhieni/gofalwyr.

  • Roedd 100% o’r ysgolion yn cytuno bod y llyfrau o safon uchel ac o ansawdd da, ac yn bwysicaf oll, dywedodd 95% bod y plant wedi hoffi’r dewis o lyfrau.

 Cawsom brynhawn o bori drwy’r llyfrau. Trefnwyd y llyfrau gan roi sachau eistedd o amgylch pob arddangosfa er mwyn i’r plant allu symud o gwmpas a dewis llyfr ar ôl edrych arno, darllen y broliant, darllen y dudalen gyntaf ac ati.” Cynrychiolydd ysgol gynradd, arolwg

Manteisiodd llawer o ysgolion ar y cyfle i wneud y rhoddion llyfrau yn ddigwyddiad arbennig, er mwyn helpu’r plant i edrych ar y detholiad oedd ar gael a dewis pa lyfr roedden nhw am ei gadw. Cynigiodd un ysgol ‘brynhawn o bori’, a chafodd un arall ‘bicnic llyfrau’. Cyfunodd rhai ysgolion yr achlysur â gweithgareddau eraill fel Dydd Gŵyl Dewi neu Ddiwrnod y Llyfr.

Mae rhai o’n plant wedi dweud mai dyma’r llyfr cyntaf iddyn nhw fod yn berchen arno erioed y gallen nhw ei gadw ac na fyddai’n rhaid iddyn nhw ei roi yn ôl. Roedd yn hyfryd gweld plant yn cario eu llyfrau i’r iard i’w darllen amser egwyl a pha mor falch oedden nhw o fynd â nhw gartref a dweud eu bod yn ‘llyfrau i’w cadw am byth’.” Cynrychiolydd ysgol gynradd, arolwg

  • Roedd dros 95% o ysgolion yn cytuno bod y rhaglen wedi cynyddu cyfleoedd i ddysgwyr ddarllen er pleser, a dywedodd bron i 80% bod y llyfrau wedi annog darllen gartref.

Roedd y rhieni yn ddiolchgar iawn am y llyfrau. Does gan lawer o’n plant ddim llyfrau gartref felly roedden nhw wrth eu bodd yn cael llyfr i fynd adref gyda nhw.” – Cynrychiolydd ysgol gynradd, arolwg

Tocynnau llyfr mewn Ysgolion Uwchradd – canfyddiadau
Cafwyd 68 o ymatebion unigol i’r arolwg gan 61 o ysgolion uwchradd, yn ogystal â grwpiau trafod. At ei gilydd, casglwyd adborth gan staff, dysgwyr a rhieni/gofalwyr.

Rhoddwyd tocyn llyfr gwerth £7 i ddysgwyr hŷn mewn ysgolion uwchradd i’w galluogi i ddewis unrhyw lyfr naill ai trwy fynd i siop lyfrau neu wrth i siop lyfrau ddod i’r ysgol. Roeddem hefyd yn gobeithio y byddai’r dull hwn yn meithrin perthynas rhwng siopau llyfrau ac ysgolion, yn ogystal â chyflwyno’r siop lyfrau leol i’r dysgwyr.

  • Dywedodd dros 90% o’r ymatebwyr o ysgolion uwchradd fod dysgwyr yn gwerthfawrogi derbyn eu tocynnau llyfrau ac roedd 88% yn cytuno bod y tocynnau llyfrau a ddarparwyd wedi annog darllen gartref.

Mae’n hwb gwych i’r disgyblion. Fe wnes i fwynhau gweld ymateb a phleser y disgyblion o ddewis a ‘phrynu’ eu llyfr eu hunain. Roedd yn rhaid darbwyllo rhai disgyblion bod y cynllun yn wir a’u bod nhw wir yn gallu cael llyfr iddyn nhw eu hunain.” – Cynrychiolydd ysgol uwchradd, arolwg

Roeddem yn falch iawn o weld bod pob dysgwr ysgol uwchradd a gymerodd ran yn y gwerthusiad yn teimlo bod y rhaglen wedi cynyddu eu hawydd i ddarllen er pleser, a’u bod bellach yn darllen llawer mwy ar ôl cymryd rhan yn y cynllun. Dangoswyd bod galw am lyfrau Cymraeg hefyd, a dywedodd dysgwyr eu bod yn fwy tebygol o ddarllen llyfrau Cymraeg ers cymryd rhan yn y rhaglen, gan ddweud bod ganddynt fwy o ddiddordeb mewn darllen o ganlyniad i’r fenter.

Oedd rhai llyfrau Cymraeg oedd angen ymladd drost achos oedd llwyth o bobl eisiau eu darllen!” – Dysgwr mewn ysgol uwchradd, grŵp trafod

  • Roedd 95% yn cytuno’n gryf neu’n cytuno bod y rhaglen wedi cynyddu’r cyfleoedd i ddarllen er pleser, a 95% yn cytuno bod y rhaglen yn gwella mynediad at lyfrau.

Cydweithio â banciau bwyd
Cymerodd tri banc bwyd ran yn yr arolwg i roi adborth, ac roedd pob un o’r tri wedi dod o hyd i ffyrdd gwahanol o rannu’r llyfrau gyda’u defnyddwyr gwasanaeth – cafwyd arddangosfeydd gyda chyfle i bori, a rhannwyd llyfrau gydag ysgolion lleol. Roedd pob un o’r banciau bwyd a ymatebodd yn nodi canlyniadau cadarnhaol gallu rhoi llyfr am ddim i deuluoedd ar gyfer eu plentyn/plant.

Roedd yn hyfryd gweld plant yn mynd oddi yma gyda’r llyfrau ac yn eu trin fel trysor.” – Staff/gwirfoddolwr Banc Bwyd, trafodaeth

Disgrifiwyd y llyfrau fel rhai ‘hardd’, ‘o ansawdd uchel’ gyda dewis ar gyfer pob oedran. Nododd cyfranogwyr hefyd fod cael llyfrau dwyieithog yn fuddiol i deuluoedd.

Os hoffech chi wybod mwy am raglen Caru Darllen Ysgolion, mae gwybodaeth am y cynllun ar gael yma. Mae gennym hefyd gyfres o flogiau ‘Dwi’n Caru Darllen!’ gan enwogion Cymreig gan gynnwys Jess Fishlock, Mel Owen, James Hook ac eraill.