Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Chyngor Llyfrau Cymru yn dyfarnu ysgoloriaeth PhD ym maes Llenyddiaeth Plant

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Chyngor Llyfrau Cymru yn dyfarnu ysgoloriaeth PhD ym maes Llenyddiaeth Plant

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Llyfrau Plant (Ebrill 2ail), mae’n bleser gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant mewn partneriaeth â Chyngor Llyfrau Cymru gyhoeddi eu bod wedi dyfarnu ysgoloriaeth PhD ym maes rhyngwladoli llenyddiaeth plant i Megan Farr o Benarth.

Dros gyfnod o dair blynedd, bydd Megan Farr yn datblygu strategaeth ar gyfer rhyngwladoli straeon i blant ar gyfer y sector cyhoeddi yng Nghymru.

Bydd yn ymchwilio’r strategaethau priodol sydd angen i’r sector gyhoeddi yng Nghymru eu datblygu er mwyn cryfhau ei gweithredu ar lefel ryngwladol ym maes straeon i blant. Bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar dair agwedd benodol: sef mewnforio; allforio a chyd-gynhyrchu.

Mae gan Megan brofiad helaeth o weithio yn y diwydiant cyhoeddi ac wrth ei bodd yn cael y cyfle i gyfrannu at dwf y maes drwy ei gwaith ymchwil.

“Wedi gweithio yn y diwydiant llenyddiaeth a chyhoeddi yng Nghymru dros y chwe blynedd diwethaf, ac am flynyddoedd lawer yn Lloegr cyn hynny, rwy’n ddiolchgar am y cyfle a ddaw yn sgil yr ysgoloriaeth hon i mi gynyddu a chydgrynhoi fy ngwybodaeth a dysgu sgiliau newydd,” meddai Megan. “Gyda ffocws cynyddol Llywodraeth Cymru ar dyfu’r sector creadigol yng Nghymru ac allforio diwylliant Cymru, gobeithio y bydd yr ymchwil hon yn ddefnyddiol i’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru a thu hwnt.”

Wrth drafod yr ymchwil unigryw hwn, meddai’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant: “Dyma brosiect hynod gyffrous ac amserol iawn i’r sector cyhoeddi yng Nghymru gyda phwyslais o’r newydd ar weithgaredd rhyngwladol. Fel tîm goruchwylio, rydym yn falch iawn o’r bartneriaeth hon gyda’r Cyngor Llyfrau ac wrth ein boddau ein bod wedi denu rhywun o brofiad a sgiliau Megan i dderbyn yr ysgoloriaeth.”

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn falch iawn o’r bartneriaeth hon gyda’r Drindod Dewi Sant ac yn edrych ymlaen at gydweithio gyda Megan ar y gwaith ymchwil rhyngwladol hwn.

“Gall stori dda deithio’r byd ac nid oes ffiniau yn perthyn iddi,” meddai Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru.

“Drwy noddi ymchwil doethur Megan Farr, y nod yw canfod pa lyfrau plant o Gymru sy’n teithio orau a pham. Beth yw’r themâu oesol sy’n denu darllenwyr ifanc a pha arddulliau sydd fwyaf llwyddiannus? Mae gan Megan dros 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiant cyhoeddi rhyngwladol a bydd casgliadau ei hymchwil yn ein galluogi ni i ddatblygu talent o Gymru ymhellach yn y maes pwysig yma yn ogystal â chael ein hysbrydoli gan lenyddiaeth o’r tu hwnt i’n gwlad ein hunain,” atega Helgard Krause.

Mae’r ysgoloriaeth hon yn un o ddwy a ddyfarnwyd yn ddiweddar ym maes y diwydiannau creadigol gan Y Drindod Dewi Sant. Mae’r ysgoloriaeth yn cynnwys ffioedd ynghyd â grant blynyddol cychwynnol o £14,628. Mae Megan Farr bellach wedi dechrau ar ei chynllun PhD a gyllidir gan Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS) Dwyrain.

Am wybodaeth bellach ynglŷn â’r gwaith ymchwil hwn, e-bostiwch Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones elin.jones@uwtsd.ac.uk

Ac i ddysgu mwy am Gyngor Llyfrau Cymru, ewch i http://www.cllc.org.uk/

Siopau Llyfrau Lleol sy’n Gwerthu Ar-lein

Siopau Llyfrau Lleol sy’n Gwerthu Ar-lein

Wrth i ni hunan-ynysu ac ymbellhau’n gymdeithasol, bydd nifer ohonon ni’n estyn am lyfr da. Ac er bod siopau llyfrau annibynnol ar hyd a lled Cymru wedi cau eu drysau dros dro yn unol â’r canllawiau swyddogol, y newyddion da yw bod nifer yn dal i gynnig gwasanaeth postio llyfrau arlein.

Rydyn ni’n wedi tynnu’r manylion ynghyd ar y dudalen yma ac fe fyddwn yn diweddaru’r rhestr wrth i ni dderbyn gwybodaeth newydd. Gan fod hon yn sefyllfa sy’n datblygu’n gyflym, mae’n bosib na fydd y manylion diweddaraf gennym ni bob amser felly gwiriwch gyda’ch siop lyfrau leol.

Os ydych chi’n llyfrwerthwr yng Nghymru sydd am ychwanegu neu ddiweddaru eich manylion, ebostiwch post@llyfrau.cymru.

Awen Meirion, Y Bala – www.awenmeirion.com / @AwenMeirion / www.facebook.com/awenmeirion / Siop wedi cau am y tro

Awen Menai, Porthaethwy – www.facebook.com/awen.menai, arystrydfawr.co.uk, awenmenai@gmail.com / 01248 715532 / Siop wedi cau i’r cyhoedd am y tro / Modd archebu ar-lein neu ar y ffôn / Gwasanaeth postio

Awen Teifi, Aberteifi – www.awenteifi.com www.facebook.com/Awen-Teifi Siop wedi cau am y tro

Book-ish, Crickhowell – www.bookish.co.uk / @Bookishcrick / 01873 811 256 / Siop wedi cau i’r cyhoedd am y tro. / Modd archebu ar-lein neu ar y ffôn / Gwasanaeth postio

Browsers Bookshop, Porthmadog – https://www.facebook.com/Browsers-Bookshop-114707588547811/ / 01766 512066 / Siop wedi cau i’r cyhoedd am y tro / Modd archebu ar-lein neu ar y ffôn / Gwasanaeth postio

Burway Books, Church Stretton – www.burwaybooks.co.uk / 01694 723388 / Siop wedi cau i’r cyhoedd am y tro / Modd archebu ar lein neu ar y ffôn / Gwasanaeth postio a chludo lleol.

Bys a Bawd, Llanrwst – Siop ar gau am y tro

Caban, Caerdydd – https://www.facebook.com/CabanPontcanna / Siop wedi cau am y tro.

Cant a Mil, Caerdydd – www.cantamil.com / @siopcantamil / jo@cantamil.com / Siop yn gweithredu ar agor ond o tu ôl i ddrysau caeedig i’r cyhoedd / Modd archebu trwy’r wefan, trwy ebost a thrwy’r cyfryngau cymdeithasol / Gwasanaeth postio

Cover to Cover, Mwmbwls – www.cover-to-cover.co.uk / https://twitter.com/CovertoCoverUK?lang=en / 01792 366363 / Siop wedi cau i’r cyhoedd / Gallu archebu stoc sydd ar gael arlein, dros y ffôn neu drwy’r cyfryngau cymdeithasol / Gwasanaeth postio a chludo lleol

Cowbridge Books, Y Bontfaen –cowbridgebookshop@btconnect.co.uk / https://www.facebook.com/thecowbridgebookshop/ 01446 775105 / Siop wedi cau. / Modd archebu dros y ffôn/facebook / Gwasanaeth postio a chludo lleol.

Chepstow Books, Chepstow – www.chepstowbooks.co.uk / @chepstowbooks / 01291 625 011 / Siop wedi cau i’r cyhoedd am y tro / Modd archebu dros y ffôn ac ar y we / Gwasanaeth postio

Cwpwrdd Cornel, Llangefni – Siop ar gau am y tro

Debbie’s Jewllers, Castell Newydd Emlyn – https://www.facebook.com/AnrhegionCymraeg/ Siop wedi cau am y tro.

Elfair, Rhuthun – Siop ar gau am y tro

Great Oak Bookshop, Llanidloes – https://greatoakbooks.co.uk / https://www.facebook.com/TheGreatOakBookshop?fref=ts / Siop wedi cau am y tro / Gwasanaeth postio

Griffin Books, Penarth – www.griffinbooks.co.uk / info@griffinbooks.co.uk / 02020 706455 / Siop wedi cau i’r cyhoedd / Modd archebu dros y ffôn, ar y we a drwy cyfryngau cymdeithasol / Gwasanaeth postio a chludo lleol

Giggles, Y Bari – www.facebook.com/Giggles-Barry-479792188748220/ / Siop wedi cau am y tro.

Gwisgo, Aberaeron – www.gwisgobookworm.co.uk / info@gwisgobookworm.co.uk / www.facebook.com/Gwisgo Bookworm / 01545 238282 / Siop wedi cau i’r cyhoedd am y tro / Modd archebu unrhywbeth sydd mewn stoc / Ffonio rhwng 11 a 4 dros y ffôn neu drwy adael neges

Hintons, Conwy – @hintons.conwy / Siop wedi cau i’r cyhoedd am y tro / Modd archebu drwy Instagram

Igam Ogam, Llandeilo – www.igamogamgifts.co.uk / Siop ar gau.

Inc, Aberystwyth – https://www.facebook.com/Siop-Inc-121059026497 / mail@siopinc.com / 01970 626200 / 07834957158 / Siop ar gau ond yn postio a dosbarthu’n lleol o ran beth sydd mewn stoc

Llên Llŷn, Pwllheli – 01758 612907 / Siop yn gweithredu ar agor ond o du ôl i ddrysau cäedig i’r cyhoedd / Modd archebu dros ffôn / Gwasanaeth postio

Na Nog, Caernarfon – www.na-nog.com / @SiopNanog / www.facebook.com/nanog.gymraeg / 01286 676946 / Siop wedi cau i’r cyhoedd am y tro / Modd archebu ar-lein neu ar y ffôn / Gwasanaeth postio

No 1 High St, Y Drenewydd – www.no1highstreet.co.uk / 07866259710 / Siop wedi cau i’r cyhoedd am y tro / Gall gynnig gwasanaeth postio

Palas Print, Caernarfon – www.palasprint.com / @PalasPrint / eirian@palasprint.com / Siop yn gweithredu ar agor ond o du ôl i ddrysau cäedig i’r cyhoedd / Modd archebu dros y ffôn, drwy’r cyfryngau cymdeithasol ac ar y we / Gwasanaeth postio

Pen’rallt, Machynlleth – www.penralltgallerybookshop.co.uk / penralltbooks@gmail.com / 01654 700559 / Siop yn gweithredu ar agor ond o du ôl i ddrysau cäedig i’r cyhoedd / Modd archebu drwy’r wefan neu ebostio neu ffonio. / Gwasanaeth postio

Pethe Powys – https://www.facebook.com/Pethe-Powys-107932897356116/ / Siop wedi cau am y tro

Siop Clwyd, Dinbych – www.facebook.com/Siop-Clwyd-468077820051483 / Siop wedi cau am y tro

Siop Cwlwm, Croesoswallt – www.siopcwlwm.co.uk / Siop wedi cau am y tro / Modd archebu ar lein / Gwasanaeth postio

Siop Eifionydd, Porthmadog – Siop ar gau am y tro

Siop y Felin, Caerdydd – siopyfelin@gmail.com / Siop wedi cau i’r cyhoedd am y tro / Modd archebu dros y ffôn, drwy’r cyfryngau cymdeithasol ac ar e-bost / Gwasanaeth postio

Siop Lyfrau’r Hen Bost, Blaenau Ffestiniog – Siop ar gau am y tro

Siop Lewis, Llandudno – www.facebook.com/sioplewis/ / www.sioplewis.cymru / @sioplewis / Siop wedi cau i’r cyhoedd am y tro / Modd archebu drwy Facebook ac Instagram.

Siop Ogwen, Bethesda – @siopogwen / https://www.facebook.com/siopogwen/ / siop@ogwen.org / Siop wedi cau am y tro

Siop y Pentan, Caerfyrddin – https://www.facebook.com/SiopYPentan/ / Busnes@ypentan.co.uk / 07951 610278 / Siop ar gau / Gwasanaeth postio o’r hyn sydd mewn stoc / Derbyn archebion ffôn, gwefan ac e-bost.

Siop y Pethe, Aberystwyth – www.siopypethe.cymru / post@siopypethe.cymru / 01970 617 120 / Siop wedi cau i’r cyhoedd am y tro / Modd archebu dros y ffôn, drwy’r wefan ac ar e-bost / Gwasanaeth postio

Siop Tŷ Tawe, Abertawe – https://www.facebook.com/Ysioptytawe/ / Siop wedi cau dros dro

Siop Sian, Cymych – https://www.facebook.com/SiopSian/ / Siop wedi cau dros dro.

Siop y Siswrn, Yr Wyddrug – https://www.facebook.com/siopysiswrn/ / Siop wedi cau am y tro / Modd archebu dros e-bost neu drwy’r wefan / Gwasanaeth postio

Siop Siwan, Wrecsam – https://www.facebook.com/siopsiwan/ / Siop wedi cau am y tro / Gwasanaeth postio a cludo lleol

Siop y Smotyn Du, Llanbed – Siop ar gau am y tro

St David’s Bookshop, Tyddewi – Siop wedi cau am y tro

Tenby Bookshop, Dinbych y Pysgod – https://www.facebook.com/tenbybookshop / 01834 843514 / Siop ar gau am y tro ond yn cymryd archebion dros y ffôn.

T-Hwnt, Caerfyrddin – Siop wedi cau am y tro

Tŷ’r Gwrhyd, Pontardawe – www.facebook.com/Tyrgwrhyd/ / 07990153730 / Siop wedi cau am y tro

Verzon Bookshop Gallery – www.facebook.com/VerzonBookshopGallery / Siop wedi cau am y tro.

Victoria Bookshop, Haverfordwest – https://www.facebook.com/VictoriaBookshop / 01437 762750 / Siop ar gau am y tro

The Hours, Aberhonddu – www.thehoursbrecon.co.uk / Siop ar gau am y tro

Cwtsh, Pontyberem – www.facebook.com/Y Cwtsh / Siop ar gau am y tro.

Seaways, Abergwaun – Seawaysorders@gmail.com / 01348 873433 / Siop ar gau am y tro ond yn cymryd archebion ffôn/peiriant ateb/e-bost ac yn postio.

Dragon’s Garden, Llandeilo – www.facebook.com/Books at the Dragon’s Garden / www.dragons-garden.com / mandy@dragons-garden.com / Siop ar gau ond modd archebu ar-lein o’r wefan neu e-bostio.

College Street Books, Rhydaman – 07434 975578 / www.facebook.com/CollegeStreetBooks / Siop ar gau am y tro / Postio unrhywbeth sydd mewn stoc yn y siop.

Cyfoes, Rhydaman – www.facebook.com/Cyfoes / Siop ar gau am y tro

Ystwyth Books, Aberystwyth – 01970 639479 / 07590 764115 / www.facebook.com/Ystwyth Books / Siop ar gau am y tro

Rhiannon, Tregaron – www.facebook.com/Canolfan Rhiannon Centre / www.rhiannon.co.uk / Siop ar gau am y tro / Archebu ar-lein

Anrhegaron, Tregaron – www.anrhegaron.cymru / Siop ar gau am y tro

Goldstones, Caerfyrddin – www.goldstonebooks.co.uk / www.facebook.com/Goldstone Books / Siop ar gau am y tro / Archebu ar lein

Llyfrau’r Enfys, Merthyr Tudful – Siop ar gau am y tro

Cofion Cynnes, Ystradgynlais – Siop ar gau am y tro

Ffab, Llandysul – www.ffabcymru.co.uk / Siop ar gau am y tro

Narberth Museum Bookshop – www.narberthmuseum.co.uk / 01834 861719 / Siop ar gau am y tro ond yn derbyn archebion ar lein

Siopau Llyfrau Lleol sy’n Gwerthu Ar-lein

Cyllid Brys i’r Sector Llyfrau yng Nghymru

Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi croesawu cyllid brys o £150,000 gan Lywodraeth Cymru i helpu’r sector llyfrau yn ystod yr argyfwng coronafeirws presennol.

Caiff y gronfa ei gweinyddu gan y Cyngor Llyfrau, yr elusen genedlaethol sy’n gyfrifol am gefnogi’r diwydiant llyfrau a hyrwyddo darllen yng Nghymru.

Mae’r arian ychwanegol ar gyfer y sector llyfrau yn rhan o becyn cynhwysfawr o gymorth gwerth £18m ar gyfer y sector diwylliant, celfyddydau a chwaraeon yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ddydd Mercher 1 Ebrill 2020.

Wrth gyhoeddi’r gronfa, dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas: “Rydym wedi gwrando ar ein rhanddeiliaid yn y sectorau bregus hyn. Rydym yn deall bod hwn yn gyfnod ansicr i fusnesau a sefydliadau ar draws Cymru ac yn llawn cydnabod yr heriau anferthol a digynsail i wead bywyd Cymru a ddaw yn sgil coronafeirws. Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o wneud pob dim posib i gefnogi’r gwytnwch, y creadigrwydd a’r bartneriaeth sy’n cael eu hamlygu gan y sector.

“Bydd y cam ychwanegol hwn yn galluogi’r sector i wrthsefyll y cyfnod anodd hwn a, gobeithio, i ffynnu o’r newydd – gan ddod â chymunedau ynghyd unwaith eto pan fydd yr argyfwng yma drosodd.”

Bydd y gronfa argyfwng yn cynnwys cymorth ar gyfer siopau llyfrau brics-a-morter annibynnol yng Nghymru i’w helpu i ymateb i bwysau llif arian a lleihau effaith coronafeirws.

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, Helgard Krause: “Rydym yn croesawu’n fawr y cyllid brys a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw i gefnogi’r sector llyfrau yng Nghymru. Mae’r rhain yn ddyddiau gofidus i unrhyw fusnes ac rydym yn arbennig o bryderus am yr effaith ar siopau llyfrau annibynnol sy’n gwneud cyfraniad mor bwysig i’n cymunedau a’n heconomi, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda nhw a’r sector cyhoeddi ehangach i gefnogi ein diwydiant trwy gydol y cyfnod anodd hwn.”

Mae’r gronfa argyfwng yn ychwanegol at y cymorth ar gyfer busnesau a’r hunangyflogedig a gyhoeddwyd eisoes gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Bydd y Cyngor Llyfrau yn ymgynghori yn awr â’r diwydiant cyhoeddi ehangach i nodi’r meysydd eraill sy’n dioddef fwyaf o ganlyniad i’r pandemig.

“Yn y cyfnod cythryblus hwn mae’n rhaid i iechyd a lles pobl fod yn brif flaenoriaeth ond mae angen i ni hefyd sicrhau, pan ddown ni drwy’r pandemig hwn, bod gennym ni ddiwydiant cyhoeddi ffyniannus yng Nghymru o hyd. Mae’n gwneud cyfraniad sylweddol nid yn unig i’n heconomi a’n diwydiannau creadigol, ond yn ogystal â hynny mae un astudiaeth ar ôl y llall wedi amlygu buddion ehangach darllen o ran ein hiechyd meddwl yn ogystal â datblygu sgiliau allweddol a gwybodaeth,” ychwanegodd Ms Krause.

Gwefan lyfrau gwales.com

Cadarnhaodd Cyngor Llyfrau Cymru hefyd y bydd ei wefan lyfrau gwales.com yn ailagor ar gyfer archebion unigol gan y cyhoedd o ddydd Mercher, 1 Ebrill 2020 ymlaen.

Y nod yw helpu’r diwydiant cyhoeddi yn ogystal â chwrdd â’r galw am lyfrau yn ystod y cyfnod o hunanynysu, ar adeg pan mae llawer o siopau llyfrau wedi gorfod cau eu drysau dros dro.

Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau leol a fydd wedyn yn derbyn ei chomisiwn arferol ar gyfer bob gwerthiant.

Mae mwy nag 11,000 o deitlau Cymraeg neu deitlau am Gymru ar wefan gwales.com, a bydd pa lyfrau sydd ar gael yn dibynnu ar lefelau stoc presennol y Ganolfan Ddosbarthu gan na ellir derbyn stoc o’r newydd ar hyn o bryd ac mae rhai amserlenni cyhoeddi yn cael eu hadolygu.

Mae rhestr o siopau llyfrau annibynnol yng Nghymru sy’n cynnig gwasanaeth postio llyfrau ar-lein ar gael ar wefan y Cyngor Llyfrau.