Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Llyfrau Plant (Ebrill 2ail), mae’n bleser gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant mewn partneriaeth â Chyngor Llyfrau Cymru gyhoeddi eu bod wedi dyfarnu ysgoloriaeth PhD ym maes rhyngwladoli llenyddiaeth plant i Megan Farr o Benarth.

Dros gyfnod o dair blynedd, bydd Megan Farr yn datblygu strategaeth ar gyfer rhyngwladoli straeon i blant ar gyfer y sector cyhoeddi yng Nghymru.

Bydd yn ymchwilio’r strategaethau priodol sydd angen i’r sector gyhoeddi yng Nghymru eu datblygu er mwyn cryfhau ei gweithredu ar lefel ryngwladol ym maes straeon i blant. Bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar dair agwedd benodol: sef mewnforio; allforio a chyd-gynhyrchu.

Mae gan Megan brofiad helaeth o weithio yn y diwydiant cyhoeddi ac wrth ei bodd yn cael y cyfle i gyfrannu at dwf y maes drwy ei gwaith ymchwil.

“Wedi gweithio yn y diwydiant llenyddiaeth a chyhoeddi yng Nghymru dros y chwe blynedd diwethaf, ac am flynyddoedd lawer yn Lloegr cyn hynny, rwy’n ddiolchgar am y cyfle a ddaw yn sgil yr ysgoloriaeth hon i mi gynyddu a chydgrynhoi fy ngwybodaeth a dysgu sgiliau newydd,” meddai Megan. “Gyda ffocws cynyddol Llywodraeth Cymru ar dyfu’r sector creadigol yng Nghymru ac allforio diwylliant Cymru, gobeithio y bydd yr ymchwil hon yn ddefnyddiol i’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru a thu hwnt.”

Wrth drafod yr ymchwil unigryw hwn, meddai’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant: “Dyma brosiect hynod gyffrous ac amserol iawn i’r sector cyhoeddi yng Nghymru gyda phwyslais o’r newydd ar weithgaredd rhyngwladol. Fel tîm goruchwylio, rydym yn falch iawn o’r bartneriaeth hon gyda’r Cyngor Llyfrau ac wrth ein boddau ein bod wedi denu rhywun o brofiad a sgiliau Megan i dderbyn yr ysgoloriaeth.”

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn falch iawn o’r bartneriaeth hon gyda’r Drindod Dewi Sant ac yn edrych ymlaen at gydweithio gyda Megan ar y gwaith ymchwil rhyngwladol hwn.

“Gall stori dda deithio’r byd ac nid oes ffiniau yn perthyn iddi,” meddai Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru.

“Drwy noddi ymchwil doethur Megan Farr, y nod yw canfod pa lyfrau plant o Gymru sy’n teithio orau a pham. Beth yw’r themâu oesol sy’n denu darllenwyr ifanc a pha arddulliau sydd fwyaf llwyddiannus? Mae gan Megan dros 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiant cyhoeddi rhyngwladol a bydd casgliadau ei hymchwil yn ein galluogi ni i ddatblygu talent o Gymru ymhellach yn y maes pwysig yma yn ogystal â chael ein hysbrydoli gan lenyddiaeth o’r tu hwnt i’n gwlad ein hunain,” atega Helgard Krause.

Mae’r ysgoloriaeth hon yn un o ddwy a ddyfarnwyd yn ddiweddar ym maes y diwydiannau creadigol gan Y Drindod Dewi Sant. Mae’r ysgoloriaeth yn cynnwys ffioedd ynghyd â grant blynyddol cychwynnol o £14,628. Mae Megan Farr bellach wedi dechrau ar ei chynllun PhD a gyllidir gan Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS) Dwyrain.

Am wybodaeth bellach ynglŷn â’r gwaith ymchwil hwn, e-bostiwch Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones elin.jones@uwtsd.ac.uk

Ac i ddysgu mwy am Gyngor Llyfrau Cymru, ewch i http://www.cllc.org.uk/