Amdani – Dysgwyr

Dyma gyfres ddifyr o lyfrau darllen yn arbennig ar gyfer oedolion sy’n dysgu Cymraeg. Mae’r llyfrau wedi eu graddoli ar bedair lefel – Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch.

Nod y gyfres yw llenwi bwlch trwy roi cyfle i ddysgwyr Cymraeg fwynhau darllen am amrywiaeth o bynciau a themâu cyfoes.

Mae blas o’r llyfrau gwahanol i’w gael isod ac mae modd prynu’r teitlau yn eich siop lyfrau lleol neu eu benthyg o’ch llyfrgell leol.

Os ydych chi’n chwilio am wybodaeth am gyrsiau dysgu Cymraeg, cysylltwch gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

 

Lefel Mynediad

Cyfres Amdani: Am Ddiwrnod!

Llyfr o gyfres Amdani, i ddysgwyr Lefel Mynediad. Mae’r nofel yn sôn am ddiwrnod ym mywyd Sophie, sydd ar ei ffordd i fod yn ecstra mewn ffilm, ond mae nifer o ddigwyddiadau yn ei rhwystro rhag cyrraedd y set. Mae’n gorfod ymweld â swyddfa’r heddlu sawl gwaith, ond does dim ots ganddi, oherwydd mae’n ffansïo’r plismon yno!

Cyfres Amdani: Wynne Evans – O Gaerfyrddin i Go Compare

Llyfr o gyfres Amdani, i ddysgwyr Lefel Mynediad. Bywgraffiad Wynne Evans. Darlun personol a gonest iawn o hanes Wynne a’i deulu, ei brofiadau fel tenor enwog, a’i ymdrech fel oedolyn i ddysgu Cymraeg.

Cyfres Amdani: Ditectif Elsa B

Llyfr o gyfres Amdani, i ddysgwyr Lefel Mynediad. Mae Elsa Bowen yn gweithio fel ditectif preifat; fel arfer mae’n ymchwilio i dwyll yswiriant. Ond mae hynny’n newid ar y bore Mercher yma. Mae sylw Elsa B ar siop lyfrau Cymraeg yn nhre Caernarfon lle mae pethau annisgwyl yn digwydd.

Cyfres Amdani: Stryd y Bont

Llyfr o gyfres Amdani, i ddysgwyr Lefel Mynediad. Mae Stryd y Bont yn dilyn hanes pobl sy’n byw ar yr un stryd mewn tref yng Nghymru. Pa gyfrinachau sydd ganddyn nhw? Pwy sy’n adnabod pwy? Ac a ydy cymeriadau Stryd y Bont yn adnabod eu cymdogion o gwbl?

 

Lefel Sylfaen

Cyfres Amdani: Y Stryd

Llyfr o gyfres Amdani, i ddysgwyr Lefel Sylfaen. Un noson. Un stryd. Ac mae gan bob person ym mhob tŷ broblem. Sut mae Nina yn mynd i ddweud ei newyddion wrth Dafydd? Pam mae Magi yn gorfod ail feddwl am Xavier? Beth mae Sam yn mynd i wneud am y broblem fawr? Sut mae bywyd Huw yn mynd i newid am byth? Bydd un nos Wener yn newid popeth.

Cyfres Amdani: Y Fawr a’r Fach – Straeon o’r Rhondda

Llyfr o gyfres Amdani, i ddysgwyr Lefel Sylfaen. Cyfrol o straeon byrion sy’n ymwneud â rhyw hanesyn o bentre penodol yn y Rhondda.

Cyfres Amdani: Teithio drwy Hanes

Llyfr o gyfres Amdani, i ddysgwyr Lefel Sylfaen. Casgliad o 40 o ysgrifau byrion am brif ddigwyddiadau a themâu hanes Cymru, gyda map ar ddechrau’r llyfr yn dangos y teithiau.

 

Lefel Canolradd

Cyfres Amdani: Y Llythyr

Llyfr o gyfres Amdani, i ddysgwyr Lefel Canolradd. Ym mhentref bach Treddafydd yng Nghymoedd de Cymru, mae Megan a Huw yn dod yn gariadon. Ond a fydd eu cariad yn ddigon cryf i oroesi’r amgylchiadau? Mae marwolaeth, eu teuluoedd, a’r blynyddoedd ar wahân i gyd yn eu herbyn nhw.

Cyfres Amdani: Gêm Beryglus

Llyfr o gyfres Amdani, i ddysgwyr Lefel Canolradd. Addasiad Cymraeg Pegi Talfryn o Man Hunt gan Richard MacAndrew. Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn enwog am ei harddwch naturiol ac am y llwybrau cerdded. Ond mae’r lle yn cyrraedd y newyddion am reswm arall; mae pobl yn cael eu lladd yn yr ardal.

Cyfres Amdani: Croesi’r Bont

Llyfr o gyfres Amdani, i ddysgwyr lefel Canolradd. Cyfrol o straeon byrion amrywiol sy’n llawn hiwmor, gan awdures sydd wedi dysgu Cymraeg ei hun. Ymysg y straeon mae stori antur, stori dditectif a stori wyddonias.

 

Lefel Uwch

Cyfres Amdani: Cofio Anghofio

Llyfr o gyfres Amdani, i ddysgwyr Lefel Uwch. Stori deimladwy am ymdrech dwy chwaer i ddod i delerau â dementia eu mam, a’i effaith ar eu bywydau. Addasiad Cymraeg Elin Meek o Forget to Remember gan Alan Maley.

Cyfres Amdani: Trwy’r Ffenestri

Llyfr o gyfres Amdani, i ddysgwyr Lefel Uwch. Addasiad Cymraeg gan Manon Steffan Ros o Windows of the Mind gan Frank Brennan. Dyma gasgliad o straeon byrion difyr a fydd yn siwr o wneud i chi feddwl. Dewch i adnabod cymeriadau cymhleth, lleoliadau pell, a straeon fydd yn aros yn eich meddwl am amser maith.

Cyfres Amdani: Cyffesion Saesnes yng Nghymu

Llyfr o gyfres Amdani, y ddysgwyr Lefel Uwch. Mae Katie newydd symud i Gymru gyda’i gŵr newydd, Dylan. Yn ôl Dylan roedden nhw am fyw mewn tŷ enfawr ond mae pethau’n mynd o’i le ac mae’n rhaid i’r ddau symud i fyw gyda’i rieni. Sut fydd teulu Dylan yn ymdopi gyda’r ymyrwriag yn eu plith a hithau’n Saesnes hollol ddi-glem?

Mae’n bwysig bod ein dysgwyr yn cael digon o gyfleoedd i ymarfer defnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r dosbarth, er mwyn datblygu eu sgiliau a magu hyder.  Bydd y gyfres fywiog hon o lyfrau deniadol yn adnodd gwerthfawr iawn, yn enwedig gan fod y llyfrau wedi’u teilwra ar gyfer gwahanol lefelau’r sector Dysgu Cymraeg. 

Helen Prosser

Cyfarwyddwr Strategol, Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol