Dylunio a Golygyddol

DYLUNIO A GOLYGYDDOL

Mae Adran Ddylunio Cyngor Llyfrau Cymru yn cynnig gwasanaeth dylunio i gyhoeddwyr yng Nghymru.

Gall yr adran gynnig y gwasanaethau dylunio canlynol:

 

  • Dylunio cloriau llyfrau
  • Dylunio llyfrau o glawr i glawr
  • Darparu deunydd gweledol, megis darluniau a ffotograffau, ar gyfer llyfrau

Arweinir yr adran gan Arweinydd Maes ac mae dau Swyddog Dylunio profiadol yn rhan o’r tîm yn ogystal.

Mae’r adran hefyd yn cydweithio â dylunwyr, arlunwyr a ffotograffwyr llawrydd i gynorthwyo gwaith cyhoeddwyr Cymru.

Gwahoddir dylunwyr a darlunwyr a fyddai’n hoffi gweithio ar lyfrau i gysylltu â’r adran.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â sut y gall yr adran eich cynorthwyo chi, cysylltwch â:

Dafydd Owain
Arweinydd Maes: Dylunio
Ebost: dylunio@llyfrau.cymru
Ffôn: 01970 629559

 

 

GOLYGYDDOL

Mae’r Tîm Golygyddol yn gwasanaethu cyhoeddwyr Cymru, ac yn delio â hyd at 180 o deipysgrifau bob blwyddyn, y rhan fwyaf ohonynt yn Gymraeg.

Deunydd darllen hamdden a dderbynnir; ni fydd yr Adran yn ymdrin â deunydd addysgol.

I gyhoeddwyr, mae’r Adran yn cynnig gwasanaeth golygyddol am bris gostyngol yn y Gymraeg a’r Saesneg, h.y. golygu teipysgrifau a chywiro proflenni. Bydd yn gweithredu yn y modd hwn ar ran hyd at 20 o gyhoeddwyr, gan fanteisio ar gymorth tîm bychan o olygyddion allanol profiadol yn ôl yr angen. Rhoddir blaenoriaeth bob amser i lyfrau sydd wedi derbyn rhai o grantiau cyhoeddi’r Cyngor Llyfrau.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â sut y gall yr adran eich cynorthwyo chi, cysylltwch â:

Dr Alaw Mai Edwards
Arweinydd Maes: Golygyddol
Ebost: golygyddol@llyfrau.cymru
Ffôn: 01970 629561