Darganfod Llyfrau

Gwobrau Tir na n-Og 2020

Mae darllenwyr bob amser yn chwilio am lyfr da ond lle mae cael hyd i argymhellion? Mae clywed am lyfrau mae ffrindiau, teulu neu gydweithwyr wedi’u mwynhau bob amser yn ddefnyddiol ac mae ‘na nifer o wefannau, blogiau a chylchgronnau sy’n adolygu teitlau hen a newydd – Sôn Am Lyfra, er enghraifft,  i blant a phobl ifanc. 

Arwydd da arall yw teitl sydd wedi cyrraedd rhestr fer ar gyfer un o’r nifer o wobrau sy’n cael eu dyfarnu’n flynyddol i lyfrau. Ers 1976, mae’r Cyngor Llyfrau wedi bod yn anrhydeddu’r llyfrau gorau i blant a phobl ifanc gyda Gwobrau Tir na n-Og. Rydyn ni hefyd yn cefnogi Llenyddiaeth Cymru sy’n cynnal  gwobrau blynyddol Llyfr y Flwyddyn. 

Gallwch hefyd bori am ysbrydoliaeth yn ein catalogau o deitlau newydd sy’n cael eu cyhoeddi’n rheolaidd yn ystod y flwyddyn, canfod pa lyfrau sy’n mynd â bryd siopau llyfrau yn ein rhestr misol o werthwyr gorau, a gweld pa lyfrau sydd wedi’u dewis yn Llyfr y Mis.