Llyfrwerthwyr

Ffenest siop lyfrau

Mae siopau llyfrau annibynnol yn gwneud cyfraniad pwysig i economi Cymru ac i’w cymunedau lleol, ac fel Cyngor Llyfrau rydym ni yma i’w cefnogi ar hyd y daith.

Rydym yn derbyn ac yn prosesu archebion gan lyfrwerthwyr drwy’n Canolfan Ddosbarthu, ac yn cynnig gwasanaeth dosbarthu effeithiol i bob rhan o Gymru.

Rydym hefyd yn gweinyddu grantiau bach i siopau drwy ein Cynllun Ymestyn er mwyn cefnogi’r gwaith o fynychu digwyddiadau a mynd â llyfrau allan i’r gymuned ac at gynulleidfa ehangach.

Mae manylion pellach am ein gwasanaethau gwahanol i’w cael isod ac mae croeso bob amser i lyfrwerthwyr gysylltu gyda’n Adran Gwerthu a Gwybodaeth.

Manylion cyswllt

Ffôn: 01970 624455

E-bost: gwerthu@llyfrau.cymru