Awduron

Does dim angen dweud bod awduron yn holl bwysig i ffyniant y diwydiant cyhoeddi. Eu straeon a’u sgwennu nhw yn amlach na heb sy’n ein denu ni i ddarllen ac i brynu neu fenthyg llyfrau. 

Fel Cyngor, rydyn ni’n cefnogi gwaith awduron drwy ein gwaith gyda’r cyhoeddwyr a’r fasnach lyfrau’n gyffredinol. Daw cyhoeddwyr aton ni gyda’u ceisiadau am gefnogaeth o’n cynllun grantiau a nhw sy’n delio’n uniongyrchol gydag awduron ac yn comisiynu gwaith ganddynt. 

Mae Llenyddiaeth Cymru yn cynnig cefnogaeth i awduron, yn cynnwys ysgoloriaethau, cyrsiau a chynlluniau mentora. 

Mae manylion pellach i’w cael yn ein cwestiynau cyffredin i awduron a’r dolenni eraill isod.