Sialens Ddarllen yr Haf

Sialens Ddarllen yr Haf

Caiff Sialens Ddarllen yr Haf ei chynnal bob blwyddyn yn ystod gwyliau’r ysgol, ar yr union adeg y gall diddordeb plant mewn llyfrau a darllen bylu os nad ydynt yn cael eu hannog i ddarllen er mwyn pleser.

Yng Nghymru mae’r Sialens wedi helpu i gael dros 39,000 o blant i lyfrgelloedd bob blwyddyn i gadw eu sgiliau darllen a’u hyder, gan annog plant rhwng 4 ac 11 oed i ddarllen chwe llyfr yn ystod gwyliau’r haf.

Fel arfer, gellir ymuno yn yr hwyl drwy gofrestru gyda’ch llyfrgell leol, yna dewis a darllen chwe llyfr o’r llyfrgell er mwyn cwblhau’r sialens ond yn sgil cyfyngiadau Covid-19, cafodd tipyn o’r gweithgaredd ei symud arlein ar gyfer Haf 2020.

Y Reading Agency sy’n gyfrifol am Sialens Ddarllen yr Haf ac mae’n gweithio mewn parterniaeth â Llyfrgelloedd Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a’r Cyngor Llyfrau. Am fwy o wybodaeth ewch i cymru.summerreadingchallenge.org.uk.