Bu miloedd o blant ym mhob rhan o’r wlad yn cymryd rhan yn y sialens ddarllen yn 2019 i ddathlu ugain mlynedd ers ei sefydlu. Y thema oedd y ras ofod, a hynny i nodi hanner can mlynedd ers glanio ar y Lleuad, gyda gwaith celf pwrpasol gan y darlunydd plant poblogaidd Adam Stower.
Llwyddodd sialens ddarllen The Reading Agency a’r llyfrgelloedd cyhoeddus i gyrraedd 37,469 o blant ledled Cymru yn ystod gwyliau haf yr ysgolion. Mae’r sialens yn cael ei chymeradwyo gan rieni, athrawon, Cyngor Llyfrau Cymru a Llywodraeth Cymru.
Gyda phwysau cynyddol ar y system llyfrgelloedd cyhoeddus o ran staffio ac adnoddau, mae’n galonogol bod llyfrgelloedd yn dal i allu cynorthwyo llawer iawn o blant i ddarllen yn ystod gwyliau’r haf, gyda 62% yn mynd ymlaen i gwblhau’r sialens a darllen chwech neu ragor o lyfrau.
Dyma’r ffigurau i gyd i chi mewn un rhestr dwt!
- 37,369 o blant ledled Cymru yn cymryd rhan
- 2,563 o’r rhain o dan 4 oed ac yn cymryd rhan gyda deunyddiau cyn-ysgol arbennig
- Cwblhaodd 23,174 o blant y sialens drwy ddarllen o leiaf 6 llyfr llyfrgell (62%)
- Dim ond 1 ym mhob 4 bachgen sy’n darllen y tu allan i’r ystafell ddosbarth bob dydd.
- Roedd 45% o ddarllenwyr y sialens yn fechgyn
- Ymunodd 3,240 o blant â’r llyfrgell fel aelodau newydd
- Bu 33,240 o blant mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau mewn llyfrgelloedd
Bu’n rhaid cynnwys Sialens Ddarllen yr Haf arlein yn 2020 oherwydd cyfyngiadau’r pandemig.
