Cwestiynau Cyffredinol i Gyhoeddwyr

Rwyf am fod yn gyhoeddwr. Sut gall y Cyngor Llyfrau fy helpu?

Mae cyngor ar gael gan sawl Adran yn y Cyngor Llyfrau. Cysylltwch â’r Adran Datblygu Cyhoeddi yn y lle cyntaf trwy glicio ar ‘Cysylltu’ uchod ac fe all yr Adran eich cyfeirio at Adrannau eraill yn ôl y galw. Cliciwch ar ‘Grantiau’ uchod am fanylion pellach.

Rwyf yn gyfieithydd sydd wedi cyfieithu llyfr. Oes unrhyw grantiau ar gyfer cyhoeddi

Nid yw’r Cyngor Llyfrau yn cynnig grantiau yn uniongyrchol i awduron na chyfieithwyr. Os oes gennych lyfr wedi ei gyfieithu yn barod, dylech ei gynnig i gyhoeddwr, a fydd yn ei dro yn gallu gwneud cais am grant cyhoeddi. Nid yw’r Cyngor ychwaith yn cynnig grantiau yn uniongyrchol tuag at gyfieithu, ond gall cyhoeddwr wneud cais am gefnogaeth tuag at y gost os yw’n dymuno. Dylech drafod hyn gyda’r cyhoeddwr.

Rwyf yn gyhoeddwr ond yn chwilio am help i hyrwyddo fy llyfr.

Mae’r Cyngor Llyfrau yn dyfarnu grantiau marchnata i hyrwyddo llyfrau Cymraeg a Saesneg (o Gymru), ond ddim ond dan amgylchiadau penodol, a gyda targedau penodol am beth sydd angen eu cyflawni.

Rwy’n rhedeg cylchgrawn neu wefan yn ymwneud a Chymru neu faterion Cymreig. Oes unrhyw gefnogaeth ar gael i mi?

Mae grantiau cylchgronau a gwefannau yn cael eu dosbarthu bob pedair blynedd drwy broses o dendro cyhoeddus a dan reolaeth panel penodol. Nid ydym yn gallu ystyried ceisiadau am grantiau rhwng y rhaglenni yma. Mae grantiau blynyddol ar gael ar gyfer cylchgronau bychain yn Saesneg. Gweler yr adran ‘Tendrau’ am fanylion.

Pa mor aml mae'r is-bwyllgor datblygu cyhoeddi yn cwrdd?

Mae’r is-bwyllgorau’n cwrdd yn rheolaidd yn ystod y flwyddyn . Gweler yr adran ‘Dyddiadau Cau’ am fanylion.

 

Pwy sy'n cael gwneud cais am grant?

Yn gyffredinol, cyhoeddwyr yng Nghymru yn unig sy’n gymwys i dderbyn grantiau. Rhaid bod ganddynt raglenni cyhoeddi rheolaidd, neu gynlluniau cadarn i sefydlu rhaglen, a’r gallu i werthu eu cynnyrch trwy Gymru gyfan a thu hwnt. Nid yw awduron yn cael ymgeisio’n uniongyrchol ar gyfer grantiau gan y Cyngor Llyfrau. Gweler Gwybodaeth i Awduron.

Mae Cyngor Llyfrau Cymru hefyd yn gweinyddu cynlluniau grantiau i lyfrwerthwyr. Gweler Gwybodaeth i Lyfrwerthwyr.

Sut mae'r drefn ymgeisio yn gweithio?

Dyfernir grantiau i gyhoeddwyr gan is-bwyllgor o arbenigwyr sy’n cyfarfod yn rheolaidd yn ystod y flwyddyn. Cyhoeddir dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau ymlaen llaw. Am ragor o wybodaeth, gweler ‘Dyddiadau Cau’ a ‘Canllawiau ac Amodau’.

A yw Cyngor Llyfrau Cymru yn cynnig grantiau neu fenthyciadau ar gyfer prosiectau sy'n debyg o wneud elw?

Yn gyffredinol, cyfraniadau tuag at golledion disgwyliedig yw grantiau cyhoeddi Cyngor Llyfrau Cymru. Nid yw’r Cyngor yn cynnig benthyciadau.

Ai Cyngor Llyfrau Cymru yw'r unig gorff sy'n rhoi grantiau i gyhoeddwyr?

Cyngor Llyfrau Cymru, bellach, yw’r brif ffynhonnell gymhorthdal ar gyfer cyhoeddiadau cyffredinol a chyhoeddiadau llenyddol yn Gymraeg. Y ffynonellau eraill y gall cyhoeddwyr wneud ceisiadau iddynt yw:

Yr Adran Addysg a Sgiliau (ADaS)
Dyma’r corff sy’n gyfrifol am gomisiynu deunydd addysgol Cymraeg a dwyieithog ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol.

Cydbwyllgor Addysg Cymru (CBAC)
Mae gan y corff hwn raglen o gyhoeddiadau ar gyfer ysgolion a cholegau.

Cyngor Celfyddydau Cymru
Mae’r corff hwn yn cynnig grantiau ym meysydd hyfforddi, cyfnewid rhyngwladol (trwy ei asiantaeth, Celfyddydau Cymru Rhyngwladol), gweithgarwch sy’n cyfuno nifer o’r celfyddydau, gweithgarwch cymryd rhan, amrywiaeth diwylliannol a rhai meysydd eraill. Nid yw’n ariannu cynhyrchu yn ymwneud â chyhoeddi.

Mae grantiau a chefnogaeth arall ar gael ar gyfer busnesau bychan yn gyffredinol. Gweler Sut mae cychwyn fel cyhoeddwr? isod.

A yw'r Cyngor Llyfrau yn cynnig cefnogaeth i gyhoeddwyr ar wahân i'w gynlluniau grantiau?

Mae pob cyhoeddwr yng Nghymru yn rhydd i ddefnyddio’r gwasanaethau golygu, dylunio, cyfanwerthu a dosbarthu a ddarperir gan y Cyngor. Cliciwch yma am y manylion llawn.

Sut mae cychwyn fel cyhoeddwr?

Gellir gweld manylion ynglŷn â sut i ddechrau fel cyhoeddwr rhaglen yng nghanllawiau ac amodau Grant Rhaglen y Cyngor. Yn ogystal â hynny, mae’r Publishers Association a’r Independent Publishers Guild yn cynnig gwybodaeth (llawer ohoni’n ddi-dâl) a gwasanaethau i’r sawl sy’n dymuno sefydlu a datblygu busnes cyhoeddi neu ddilyn gyrfa yn y maes. Mae Menter Ddiwylliannol www.cultural-enterprise.com  yn cynnig cyngor busnes i gwmnïau a grwpiau diwylliannol a chelfyddydol yng Nghymru. Ceir gwybodaeth am grantiau, hyfforddiant a phob cymorth arall sydd ar gael i fusnesau bychain yn gyffredinol trwy gysylltu â www.businessconnect.org.uk.

 

Mae Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru a Cyhoeddi Cymru yn gymdeithasau ar gyfer cyhoeddwyr Cymraeg .