Pa wasanaeth a gynigir?
Y Swyddogion Maes
*Noder bod ein swyddogion maes yn gweithio o gartref yn ystod cyfnod cyfyngiadau Covid-19.*
Mae swyddogion maes y Cyngor fel rheol yn teithio trwy Gymru gyfan yn ymweld â Llyfrgelloedd Cymru er mwyn dangos y llyfrau diweddaraf sydd ar gael ac i gasglu archebion. Mae gan ein swyddogion y profiad a’r wybodaeth leol i argymell pa lyfrau fyddai’n gweithio orau mewn llyfrgelloedd gwahanol.
Gellir hefyd chwilio am wybodaeth am yr holl lyfrau sydd ar gael ar gronfa ddata’r Cyngor Llyfrau ar y we yn ogystal ag archebu drwy ein safle www.llyfrgell.gwales.com yn ogystal ac ar liniaduron y swyddogion.
Caiff archebion eu prosesi trwy siop leol o ddewis y llyfrgell, sy’n helpu cefnogi’r diwydiant a’r gymdeithas leol.
Yn ogystal â Llyfrgelloedd mae’r swyddogion hefyd yn ymweld â Llyfrwerthwyr ac Ysgolion trwy Gymru gyfan.
I drefnu ymweliad cysylltwch â’r Adran Werthu:
01970 624455 e-bost: gwerthu@llyfrau.cymru
Mae Adran Plant a Hyrwyddo Darllen y Cyngor Llyfrau hefyd yn gweithio gyda llyfrgelloedd er mwyn hyrwyddo digwyddiadau arbennig fel Diwrnod y Llyfr, Sialens Ddarllen yr Haf, Gwobrau Tir na n-Og ac ymgyrchoedd eraill.