Adrannau

Mae’r Cyngor Llyfrau yn cyflogi o ddeutu 40 o staff llawn a rhan-amser, gyda’r mwayfrif yn gweithio yn ein swyddfeydd yng Nghastell Brychan yn Aberystwyth neu’r Ganolfan Ddosbarthu ar gyrion y dref. Mae gennym bump swyddog gwerthu sy’n gweithio yn y maes ac yn cydlynu gydag ysgolion a llyfrwerthwyr ar hyd a lled Cymru. Mae manylion pellach isod am ein hadrannau gwahanol.