Dylunio

Peidiwch â barnu llyfr yn ol ei glawr medden nhw. Ond gall delwedd dda ddenu darllenydd. Mae creu cloriau deniadol felly ymhlith y gwasasnaethau mae’n Hadran Ddylunio yn eu cynnig i gyhoeddwyr ar draws Cymru. Bob blwyddyn, bydd hyd at 100 o deitlau gwahanol yn mynd trwy ddwylo’r Adran.

Mae’r Adran Ddylunio yn cynnig y gwasanaethau canlynol:

  • Dylunio cloriau llyfrau
  • Dylunio llyfrau o glawr i glawr
  • Darparu deunydd gweledol, megis darluniau a ffotograffau, ar gyfer llyfrau.

Mae’r Uwch-Swyddog Dylunio a’r Swyddogion Dylunio yn ddylunwyr graffig profiadol. Er eu bod yn ymgymryd â rhan sylweddol o waith yr Adran eu hunain, maen nhw hefyd yn cydweithio â rhwng 30 a 40 o ddylunwyr, darlunwyr a ffotograffwyr allanol, gan fanteisio ar eu harbenigedd yn y gwahanol feysydd.

Yr Adran sy’n gyfrifol am ddylunio holl gyhoeddiadau mewnol Cyngor Llyfrau Cymru.

Gwahoddir dylunwyr a darlunwyr a fyddai’n hoffi gweithio ar lyfrau i gysylltu â ni.

Manylion Cyswllt

Uwch Swyddog Ddylunio – Sion Ilar  sion.ilar@llyfrau.cymru

Swyddog Dylunio – Olwen Fowler  olwen.fowler@llyfrau.cymru

Swyddog Dylunio – Tanwen Haf  tanwen.haf@llyfrau.cymru

Adran Ddylunio
Castell Brychan
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 2JB

Ffôn: 01970 624151
Facs: 01970 625385