Stori Sydyn
Cyfres o lyfrau byrion, gafaelgar a all apelio at ddarllenwyr o bob math a gallu – a hynny am £1 yr un yn unig.
Un o brif amcanion cyfres Stori Sydyn yw annog darllenwyr llai hyderus i afael mewn llyfr a rhoi cynnig arni. Cyhoeddir 4 teitl yn flynyddol – 2 yn y Gymraeg a 2 yn Saesneg – ar amrywiaeth eang o themâu. Cydllynir y cynllun gan Gyngor Llyfrau Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.
Llyfrau byr, cyffrous, wedi’u hanelu at oedolion sy’n cael trafferth i ddarllen neu sydd wedi colli’r arfer o ddarllen. Maen nhw’n wych hefyd ar gyfer darllenwyr sy’n brin o amser!
Cyhoeddi teitlau Stori Sydyn 2022
Cafodd llyfrau Stori Sydyn 2022 eu cyhoeddi fel e-lyfrau ac fel llyfrau print. Mae’r llyfrau ar gael i’w prynu yn eich siop lyfrau leol neu gallwch eu benthyg o’ch llyfrgell gyhoeddus agosaf.
Un Noson – Llio Elain Maddocks (Y Lolfa).
Dau Frawd, Dwy Gêm: Stori’r Cabangos – Dylan Ebenezer (Y Lolfa).
Return to the Sun – Tom Anderson (Graffeg)
The Replacement Centre – Fflur Dafydd (Graffeg).
