Cefnogi banciau bwyd a grwpiau cymunedol drwy roi llyfr yn anrheg

Cefnogi banciau bwyd a grwpiau cymunedol drwy roi llyfr yn anrheg

Llywodraeth Cymru yn cefnogi banciau bwyd a grwpiau cymunedol lleol drwy roi llyfr yn anrheg i blant a phobl ifanc ledled Cymru

 

Mae grwpiau cymunedol a banciau bwyd ledled Cymru wedi ychwanegu llyfrau plant at y rhestr o adnoddau a chymorth y gallant eu darparu i deuluoedd o’r gwanwyn hwn ymlaen.

Fel rhan o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru ar gyfer ymgyrch rhoi llyfr yn anrheg, mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyflenwi dros 40,000 o lyfrau i’r banciau bwyd, sefydliadau cymunedol a grwpiau lleol eraill er mwyn sicrhau bod llyfrau ar gael i blant a phobl ifanc yn eu cymunedau lleol.

Mae meithrin cariad at ddarllen yn greiddiol i waith Cyngor Llyfrau Cymru. Ers dechrau pandemig Covid-19, mae wedi cynnal nifer o ymgyrchoedd rhoi llyfr yn anrheg gyda grwpiau dethol megis teuluoedd, gofalwyr ifanc a phlant sy’n derbyn gofal. Roedd darparu llyfrau ac adnoddau yn un ffordd o gefnogi plant a theuluoedd trwy effeithiau’r pandemig, sef gorfod ynysu’n gymdeithasol a’r effaith ar eu lles a’u hiechyd meddwl a’u canlyniadau addysgol.

Un o brif amcanion y rhaglen Caru Darllen Ysgolion a rhoi llyfr yn anrheg i blant yw darparu dewis o adnoddau darllen deniadol o ansawdd uchel i deuluoedd eu defnyddio gartref.

Dywedodd Shoned Davies, Rheolwr Caru Darllen Ysgolion Cyngor Llyfrau Cymru: “Mae wedi bod yn wych cael cydweithio gyda’n cyfeillion a’n partneriaid yn y Trussell Trust, FareShare Cymru, IFAN (Independent Food Aid Network – y Rhwydwaith Cymorth Bwyd Annibynnol) a nifer o grwpiau cymunedol ledled Cymru i ddosbarthu’r llyfrau i’r plant a’r bobl ifanc. Dewiswyd y llyfrau hyn, sydd i gyd yn llyfrau o ansawdd uchel, o blith y llyfrau gan gyhoeddwyr yng Nghymru a werthodd orau i gynnwys ystod eang o ran oedran, pynciau a theitlau fel y gall pawb ddewis y llyfr iawn ar eu cyfer nhw. Hoffem ddiolch i’r holl gyhoeddwyr sydd wedi gweithio mor galed i sicrhau bod y llyfrau hyn ar gael i blant ledled Cymru eu mwynhau.”

 

“… elwa ar y pleser a geir o ddarllen”

Dywedodd Susan Lloyd-Selby, Arweinydd Rhwydwaith y Trussell Trust yng Nghymru: “Rydym mor ddiolchgar am y miloedd o lyfrau a ddarparwyd ar gyfer ein banciau bwyd gan Gyngor Llyfrau Cymru. Diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru, mae’r fenter hon wedi galluogi’r banciau bwyd yn ein rhwydwaith ledled Cymru i ddarparu llyfrau i blant y gallai eu teuluoedd ei chael hi’n anodd eu fforddio fel arall. Roedd ansawdd ac amrywiaeth y llyfrau a ddarparwyd yn wych ac mae wedi bod yn hyfryd clywed pa mor gyffrous mae’r plant wedi bod i dderbyn eu llyfrau. Y llynedd, darparodd banciau bwyd y Trussell Trust dros 54,000 o barseli bwyd brys i blant yng Nghymru. Nid yw’n iawn i unrhyw un orfod dibynnu ar fanc bwyd, ac mae’r fenter hon wedi helpu i sicrhau bod plant y mae eu teuluoedd yn cael trafferthion ariannol yn gallu elwa ar y pleser a geir o ddarllen.”

 

“Llawer o blant a rhieni hapus”

Dywedodd Tom Mogford, Cydlynydd Aelodau Bwyd Cymunedol, FareShare Cymru: “Mae’r adborth gan ein haelodau yn wych. Mae llawer wedi sôn am y croeso mawr a roddwyd i’r llyfrau hyn, gyda llawer o blant a rhieni hapus. I deuluoedd na fyddent fel arall yn gallu fforddio neu gael mynediad at lyfrau fel hyn, roedd yn anrheg i’w chroesawu’n fawr. Rydym yn ddiolchgar am y rhodd gan Gyngor Llyfrau Cymru, ac ar ran ein haelodau a’u cymunedau, hoffem ddiolch yn fawr i bawb fu’n gysylltiedig â gwireddu’r cynllun!”

Dyma’r cam cyntaf wrth i Gyngor Llyfrau Cymru gyflawni cynllun rhoi llyfr yn anrheg Llywodraeth Cymru. Cam nesaf y buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd i ymgysylltu â darllen fydd rhoi llyfr yn anrheg i bob dysgwr rhwng 3 ac 16 oed drwy bob ysgol wladol yng Nghymru, a chynllun Rhoi Llyfr yn Anrheg i Ysgolion, lle bydd pob ysgol wladol yn derbyn detholiad arbennig o lyfrau ar gyfer eu llyfrgell.

Bydd y cynllun Caru Darllen Ysgolion yn golygu bod pob dysgwr ledled Cymru yn cael mynediad cyfartal at ystod amrywiol o lenyddiaeth apelgar o safon, yn y Gymraeg a’r Saesneg, sydd wedi’i dewis yn arbennig ar gyfer plant a phobl ifanc.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: “Mae darllen yn sgìl sylfaenol ym mron pob agwedd ar fywyd. Rwyf am danio’r angerdd tuag at ddarllen ar gyfer ein holl blant a theuluoedd. Drwy’r cynllun cyffrous hwn i roi llyfr yn anrheg, fel rhan o’r buddsoddiad ychwanegol o £5m gan Lywodraeth Cymru, rwyf am sicrhau bod gan bob dysgwr yng Nghymru ei lyfr ei hun i’w gadw.”