Cyhoeddi enillydd cystadleuaeth darlunio llyfr stori-a-llun i blant

Cyhoeddi enillydd cystadleuaeth darlunio llyfr stori-a-llun i blant

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn falch o gyhoeddi enillydd cystadleuaeth arbennig a drefnwyd gydag Urdd Gobaith Cymru i ganfod talent newydd ym maes darlunio llyfrau plant. Dyfarnwyd y wobr i Lily Mŷrennyn, 24 oed o’r Rhondda, am ei gwaith celf ‘neilltuol o gain’ a’i ‘meistrolaeth ar y grefft o gyfleu naratif drwy lun’. Y dasg i ymgeiswyr rhwng 18 a 25 oed oedd creu gwaith celf gwreiddiol i gyd-fynd â stori fer i blant gan un o brif awduron Cymru, Manon Steffan Ros. Creadur mawr dychmygol, llwglyd o’r enw’r Soddgarŵ yw testun y naratif ac, fel rhan o’r wobr, mae’r llyfr stori-a-llun yn cael ei gyhoeddi gan gwmni Atebol yr wythnos hon. Bydd Y Soddgarŵ ar gael mewn siopau llyfrau a llyfrgelloedd ar hyd a lled Cymru, yn ogystal ag ar ffurf e-lyfr drwy wefan ffolio.cymru y Cyngor Llyfrau. Dywedodd Lily Mŷrennyn, a raddiodd o gwrs Darlunio yng Ngholeg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn 2020: “Mae wedi bod mor gyffrous i gael fy newis i weithio ar y prosiect hwn, yn enwedig yn ystod amser mor ansicr i raddedigion newydd. Rydw i’n teimlo’n lwcus iawn i gael cyfle i ddechrau fy ngyrfa greadigol gyda llyfr mewn print.” Dywedodd beirniad y gystadleuaeth, Derek Bainton, artist graffeg proffesiynol sy’n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd: “Dyma artist sy’n dangos dealltwriaeth, hyder a meistrolaeth ar y grefft o greu naratif drwy lun. Mae’r gwaith celf yn neilltuol o gain, ac yn cyfuno nifer o sgiliau medrus fel technegau traddodiadol a digidol. Mae naws bersonol a chynnes i’r palet lliw, sy’n clymu’r cyflwyniad at ei gilydd yn hyfryd mewn modd cydlynus, proffesiynol a gwreiddiol.” Dywedodd Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen Cyngor Llyfrau Cymru, Helen Jones: “Llongyfarchiadau gwresog i Lily Mŷrennyn a diolch yn fawr i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r gystadleuaeth arbennig hon. Mae darluniadau yn gallu gwneud cyfraniad anfesuradwy at y grefft o adrodd stori gan ehangu apêl llyfrau, yn enwedig felly llyfrau plant. Mae’n hollbwysig ein bod yn meithrin a hybu safon a thalent newydd yn y maes yma yng Nghymru.” Dywedodd Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd: “Mae wedi bod yn bleser cydweithio â Chyngor Llyfrau Cymru ar y gystadleuaeth yma a’i chynnwys yn ein Rhestr Testunau, ar gyfer Eisteddfod yr Urdd 2020 yn wreiddiol. Prif bwrpas Eisteddfod yr Urdd yw rhoi cyfleoedd celfyddydol newydd i bobl ifanc, ac felly rydym yn hynod falch o gael cyhoeddi enw’r enillydd, Lily Mŷrennyn, a dathlu cyhoeddi’r llyfr Y Soddgarŵ yn ystod Eisteddfod T eleni.” Dywedodd Rachel Lloyd, Golygydd Creadigol a Phennaeth Cyhoeddi Atebol: “Mae wedi bod yn fraint cael arwain ar y prosiect hwn. Mae’r llyfr yn ychwanegiad gwerthfawr i’n rhaglen o gyhoeddiadau fel gwasg. Fel rhan o’n meddylfryd i hyrwyddo a meithrin awduron a darlunwyr newydd, mae’r prosiect hwn wedi bod yn gyfle gwych i fuddsoddi mewn talent ifanc, newydd. Bu cydweithio â Lily yn bleser llwyr.” Bydd y Cyngor Llyfrau yn gweithio gyda’r Urdd i gynnal ail gystadleuaeth i ddarlunwyr ifanc yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2022. Caiff y manylion eu cyhoeddi yn y Rhestr Testunau ym mis Medi 2021.