Cyhoeddi Enillwyr Gwobrau Llyfrau Tir na n-Og ym mis Gorffennaf

Cyhoeddi Enillwyr Gwobrau Llyfrau Tir na n-Og ym mis Gorffennaf

Bydd enillwyr gwobrau llenyddiaeth plant a phobl ifanc Tir na n-Og yn cael eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf 2020.

Bydd dewis y beirniaid ar gyfer y llyfr gorau yn Saesneg gyda chefndir Cymreig dilys yn cael ei ddatgelu ar y BBC Radio Wales Arts Show am 6.30yh nos Wener 3 Gorffennaf 2020.

Caiff y cyfrolau buddugol yn y categorïau Cymraeg ar gyfer oedrannau cynradd ac uwchradd eu cyhoeddi ar raglen gylchgrawn Heno ar S4C am 7yh nos Wener 10 Gorffennaf 2020.

Dan ofal Cyngor Llyfrau Cymru, mae’r seremonïau gwobrwyo blynyddol fel arfer yn cael eu cynnal ym mis Mai, ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ac yn ystod cynhadledd llyfrgellwyr CILIP Cymru, sy’n noddi’r gwobrau.

Eleni, bu’n rhaid gwneud trefniadau o’r newydd ar gyfer cyhoeddi’r enillwyr ar y radio a’r teledu oherwydd pandemig y coronafeirws.

Dywedodd Helen Jones, Pennaeth Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen Cyngor Llyfrau Cymru: “Rydym wrth ein bodd bod Heno ar S4C a’r BBC Radio Wales Arts Show wedi camu i’r adwy i gynnig platfform uchel ei broffil i anrhydeddu enillwyr gwobrau Tir na n-Og 2020. Mae’r gwobrau blynyddol hyn yn amlygu safon uchel llenyddiaeth i blant a phobl ifanc yng Nghymru a thu hwnt.”

Cafodd y rhestr fer ar gyfer gwobrau Tir na n-Og 2020 ei datgelu ym mis Mawrth, gyda dau gategori ar gyfer llyfrau Cymraeg, ac un wobr ar gyfer y llyfr gorau yn Saesneg â chefndir Cymreig dilys.

Rhestr Fer Gymraeg (Cynradd)

Y Ddinas Uchel – Huw Aaron (Atebol)

Genod Gwych a Merched Medrus – Medi Jones-Jackson (Y Lolfa)

Pobol Drws Nesaf – Manon Steffan Ros a Jac Jones (Y Lolfa)

Rhestr Fer Gymraeg (Uwchradd)

Byw yn fy Nghroen – Gol. Sioned Erin Hughes (Y Lolfa)

Tom – Cynan Llwyd (Y Lolfa)

Madi – Dewi Wyn Williams (Atebol)

Rhestr Fer Saesneg

The Secret Dragon – Ed Clarke (Puffin)

Max Kowalski Didn’t Mean It – Susie Day (Puffin)

Storm Hound – Claire Fayers (Macmillan Children’s Books)

Where Magic Hides – Cat Weatherill (Gomer)

Gellid prynu’r teitlau ar restr fer Tir na n-Og drwy siopau llyfrau lleol sy’n cynnig gwasanaeth postio, drwy wefan gwales.com y Cyngor Llyfrau a llyfrwerthwyr ar-lein eraill.

Gwybodaeth bellach am restr fer Gwobrau Tir na n-Og 2020

Bydd yr enillwyr yn derbyn gwobr ariannol o £1,000 yr un ynghyd â cherdd wedi’i chomisiynu a’i darlunio’n arbennig i ddathlu eu llwyddiant.

Bardd Plant Cymru Gruffudd Owen sy’n cyfansoddi’r cerddi Cymraeg, â’r Children’s Laureate Wales Eloise Williams yn gofalu am y gerdd Saesneg.

Mwy o Lyfrau Iechyd Meddwl ar gael yn y Gymraeg

Mwy o Lyfrau Iechyd Meddwl ar gael yn y Gymraeg

Mae hunangofiant yr awdur arobryn Matt Haig am ei brofiad o iselder wedi’i gyfieithu i’r Gymraeg fel rhan o gynllun arloesol Darllen yn Well – Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl.

Mae Reasons to Stay Alive gan Matt Haig, sydd i’w weld yn gyson ar restrau’r gwerthwyr gorau, ymhlith y cyfrolau hunangymorth diweddaraf i’w cyhoeddi yn y Gymraeg i helpu pobl i reoli cyflyrau iechyd meddwl cyffredin neu i ddelio â theimladau a phrofiadau anodd.

Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, mae’r teitlau newydd eraill yn y gyfres Darllen yn Well – Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl yn cynnwys Ymwybyddiaeth Ofalgar: Canllaw Pen-tennyn (A Mindfulness Guide for the Frazzled) gan Ruby Wax, Llawlyfr ar gyfer Dolur Calon (A Manual for Heartache) gan Cathy Rentzenbrink a Rheoli Straen (Stress Control) gan Jim White.

Erbyn hyn, mae cyfanswm o 20 o deitlau iechyd meddwl ar y rhestr Gymraeg ac, am y tro cyntaf, bydd nifer fawr o’r llyfrau hefyd ar gael fel e-lyfr.

The Reading Agency sydd wedi datblygu’r cynllun mewn partneriaeth â llyfrgelloedd cyhoeddus ar draws Cymru a Lloegr, gyda Chyngor Llyfrau Cymru’n sicrhau bod detholiad o’r llyfrau ar gael yn y Gymraeg diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, Helgard Krause: “Mae gofalu am ein hiechyd meddwl yn hanfodol ac mae hynny’n fwy perthnasol ar hyn o bryd nag erioed o’r blaen, gyda mwy a mwy ohonom yn troi at lyfrau yn ystod y cyfnod heriol hwn. Beth sy’n wych am y cynllun Darllen yn Well – Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl yw fod y llyfrau i gyd wedi’u dewis a’u hargymell gan arbenigwyr yn y maes, ac mae’n hollbwysig sicrhau bod y deunydd hynod werthfawr hwn ar gael yn y Gymraeg.”

Dywedodd Debbie Hicks MBE, Cyfarwyddwr Creadigol gyda The Reading Agency: “Bydd un ymhob pedwar ohonom ni yn wynebu problem iechyd meddwl rhywbryd yn ein bywydau. Mae cyhoeddi’r teitlau newydd yma’n amserol iawn ac rydym wrth ein bodd bod rhagor o siaradwyr Cymraeg yn cael mynediad at rym darllen i ddeall a rheoli eu lles a’u hiechyd meddwl. Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Chyngor Llyfrau Cymru a llyfrgelloedd cyhoeddus i sicrhau bod llyfrau Darllen yn Well ar gael yng Nghymru, gan sicrhau bod y cynllun yn cyrraedd hyd yn oed mwy o bobl yn y Gymraeg a’r Saesneg.”

Un sydd wedi cael budd o’r cynllun Darllen yn Well – Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl yw’r awdur llyfrau plant Sharon Marie Jones, sy’n byw gydag iselder ers 2014, â’r cyflwr wedi dwysáu yn dilyn marwolaeth ei mab Ned mewn damwain car yn 2016.

“Mae’r llyfrau wedi bod yn help i mi ddeall yn well y salwch meddwl sydd wedi effeithio arna i,” meddai Sharon. “Mae un yn benodol – Llythyrau Adferiad – ar ffurf llythyrau gan bobl sydd wedi dioddef efo iselder. Dydi o ddim yn ateb ond mae’n un o’r pethau sy’n gallu helpu.”

Mae teitlau’r cynllun Darllen yn Well – Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl ar gael i’w benthyg am ddim o lyfrgelloedd cyhoeddus pan fyddan nhw’n ailagor, neu drwy fynd at wefannau llyfrgelloedd am ganllawiau ar lawrlwytho’r e-lyfrau.

Dywedodd Nia Gruffydd, Rheolwr Llyfrgelloedd Gwynedd: “Rydym wedi gweld galw mawr am y llyfrau Darllen yn Well – Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl trwy lyfrgelloedd Cymru, ac mae nifer y llyfrau sydd wedi cael eu benthyg hyd yma yn brawf o hynny. Beth sy’n arbennig o braf yw y gall pawb fenthyg y llyfrau hyn yn rhad ac am ddim a heb unrhyw rwystr trwy eu llyfrgell leol. Mae’n hanfodol bod y llyfrau hyn ar gael yn y Gymraeg, gan alluogi ein defnyddwyr i ddarllen am bynciau sydd mor bwysig a phersonol iddyn nhw yn eu mamiaith.”

Gall gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol hefyd argymell y llyfrau ar bresgripsiwn fel rhan o driniaeth unigolyn, neu gellir eu prynu drwy siopau llyfrau, gwales.com a gwefannau eraill.

Mae’r cynllun Darllen yn Well – Llyfrau ar Bresgripsiwn hefyd yn cynnwys detholiad eang o lyfrau hunangymorth ar gyfer pobl â dementia a’u gofalwyr, ac mae rhestr lawn o’r teitlau i’w chael ar wefan Darllen yn Well.

Gwylio Mawr ar Wersi Celf Ar-lein i Blant

Gwylio Mawr ar Wersi Celf Ar-lein i Blant

Mae cyfres o sesiynau celf i blant gan un o brif gartwnwyr Cymru wedi cael eu gwylio dros 30,000 o weithiau ers eu lansio ar-lein ar ddechrau’r cyfnod o gau ysgolion oherwydd Coronafeirws.

Mae cyfres o sesiynau celf i blant gan un o brif gartwnwyr Cymru wedi cael eu gwylio dros 30,000 o weithiau ers eu lansio ar-lein ar ddechrau’r cyfnod o gau ysgolion oherwydd Coronafeirws.

Partneriaeth yw’r Criw Celf rhwng dau o gylchgronau plant Cymru sef Cip a Mellten, y darlunydd Huw Aaron, Urdd Gobaith Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru.

Bob prynhawn am 3 o’r gloch, mae Huw Aaron yn cynnal sesiwn fyw neu’n llwytho fideo newydd i fyny i YouTube sy’n dangos i blant sut mae arlunio lluniau dwl neu gartŵns, a sut mae dweud stori trwy luniau.

Nawr bydd pob fideo ar gael mewn un lle, sef gwefan yr Urdd, fydd hefyd yn cynnig llwyth o weithgareddau ar eu tudalennau urdd.cymru/criw.

Mae Huw yn gosod her ddyddiol i blant ac yn creu taflenni gweithgaredd yn gysylltiedig â’r fideos fel eu bod yn gallu parhau i ddatblygu eu sgiliau oddi ar lein.

Cafodd y gwasanaeth cyfrwng Cymraeg ei lansio ddydd Llun 23 Mawrth 2020 yn sgil penderfyniad Llywodraeth Cymru i gau ysgolion dros dro oherwydd y pandemig.

Erbyn hyn, mae dros 30 o fideos wedi’u rhannu ar-lein yn rhad ac am ddim, a’r rheiny wedi’u gwylio dros 30,000 o weithiau hyd yma.

Wrth drafod ei sianel Criw Celf, dywedodd Huw Aaron: “Fel cartwnydd ac arlunydd llyfrau plant, dwi wedi dysgu ambell i beth am sut i dynnu llun, ac o’n i’n meddwl y bydde fe’n hwyl i rannu peth o hyn gyda chynulleidfa ehangach. Mae’r fideos byr dyddiol yma yn gyfle i blant (a’u rhieni!) gael joio gweithgaredd hwyliog trwy gyfrwng y Gymraeg, a gobeithio dysgu ambell i sgil newydd ar yr un pryd.

“Mae’r ymateb wedi bod yn hyfryd ac yn galonogol dros ben – gyda llawer yn ymuno i arlunio ac i rannu eu gwaith yn falch ar y cyfryngau cymdeithasol. Felly codwch bensil a darn o bapur, ac ymunwch gyda’r #criwcelf – beth bynnag eich oed!”

Caiff y sesiynau dyddiol (Llun-Gwener) eu noddi gan Urdd Gobaith Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru.

Dywedodd Pennaeth Grantiau’r Cyngor Llyfrau, Arwel Jones: “Yn y cyfnod cythryblus hwn, mae angen meddwl yn ddychmygus am sut mae diddanu – ac addysgu – plant gartref. Mae dawn darlunio ac afiaith Huw yn denu cynulleidfa’n ddyddiol ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn iddo am greu cynnwys o safon uchel sy’n cael ei werthfawrogi gan blant, rhieni a gofalwyr fel ei gilydd. Mae cynnwys digidol o’r fath yn arbennig o bwysig ar adeg pan nad yw’n bosib argraffu cylchgronau traddodiadol fel Mellten a Cip.”

Mae’r gwaith hefyd yn ffurfio rhan o adnoddau ar-lein yr Urdd ac yn cael eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol eraill y mudiad a’r Cyngor Llyfrau.

Meddai Mari Williams, Rheolwr Cyfathrebu’r Urdd: “Mae Huw Aaron eisoes yn cyfrannu’n fywiog i gylchgronau’r Urdd ac rydyn ni wrth ein boddau yn gallu cefnogi’r gweithdai digidol yma sydd ar gael yn rhad ac am ddim i unrhyw un. Maen nhw’n adnodd gwych ac yn amlwg yn denu ac yn diddanu plant bach a mawr dros y cyfnod yma.”

Bydd Huw Aaron yn parhau i gynnal sesiynau byw Criw Celf ar YouTube am rai wythnosau eto ac fe fydd modd gwylio pob un o’i fideos o hyn ymlaen ar wefan yr Urdd urdd.cymru/criw.