Mae cyfres o sesiynau celf i blant gan un o brif gartwnwyr Cymru wedi cael eu gwylio dros 30,000 o weithiau ers eu lansio ar-lein ar ddechrau’r cyfnod o gau ysgolion oherwydd Coronafeirws.

Mae cyfres o sesiynau celf i blant gan un o brif gartwnwyr Cymru wedi cael eu gwylio dros 30,000 o weithiau ers eu lansio ar-lein ar ddechrau’r cyfnod o gau ysgolion oherwydd Coronafeirws.

Partneriaeth yw’r Criw Celf rhwng dau o gylchgronau plant Cymru sef Cip a Mellten, y darlunydd Huw Aaron, Urdd Gobaith Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru.

Bob prynhawn am 3 o’r gloch, mae Huw Aaron yn cynnal sesiwn fyw neu’n llwytho fideo newydd i fyny i YouTube sy’n dangos i blant sut mae arlunio lluniau dwl neu gartŵns, a sut mae dweud stori trwy luniau.

Nawr bydd pob fideo ar gael mewn un lle, sef gwefan yr Urdd, fydd hefyd yn cynnig llwyth o weithgareddau ar eu tudalennau urdd.cymru/criw.

Mae Huw yn gosod her ddyddiol i blant ac yn creu taflenni gweithgaredd yn gysylltiedig â’r fideos fel eu bod yn gallu parhau i ddatblygu eu sgiliau oddi ar lein.

Cafodd y gwasanaeth cyfrwng Cymraeg ei lansio ddydd Llun 23 Mawrth 2020 yn sgil penderfyniad Llywodraeth Cymru i gau ysgolion dros dro oherwydd y pandemig.

Erbyn hyn, mae dros 30 o fideos wedi’u rhannu ar-lein yn rhad ac am ddim, a’r rheiny wedi’u gwylio dros 30,000 o weithiau hyd yma.

Wrth drafod ei sianel Criw Celf, dywedodd Huw Aaron: “Fel cartwnydd ac arlunydd llyfrau plant, dwi wedi dysgu ambell i beth am sut i dynnu llun, ac o’n i’n meddwl y bydde fe’n hwyl i rannu peth o hyn gyda chynulleidfa ehangach. Mae’r fideos byr dyddiol yma yn gyfle i blant (a’u rhieni!) gael joio gweithgaredd hwyliog trwy gyfrwng y Gymraeg, a gobeithio dysgu ambell i sgil newydd ar yr un pryd.

“Mae’r ymateb wedi bod yn hyfryd ac yn galonogol dros ben – gyda llawer yn ymuno i arlunio ac i rannu eu gwaith yn falch ar y cyfryngau cymdeithasol. Felly codwch bensil a darn o bapur, ac ymunwch gyda’r #criwcelf – beth bynnag eich oed!”

Caiff y sesiynau dyddiol (Llun-Gwener) eu noddi gan Urdd Gobaith Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru.

Dywedodd Pennaeth Grantiau’r Cyngor Llyfrau, Arwel Jones: “Yn y cyfnod cythryblus hwn, mae angen meddwl yn ddychmygus am sut mae diddanu – ac addysgu – plant gartref. Mae dawn darlunio ac afiaith Huw yn denu cynulleidfa’n ddyddiol ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn iddo am greu cynnwys o safon uchel sy’n cael ei werthfawrogi gan blant, rhieni a gofalwyr fel ei gilydd. Mae cynnwys digidol o’r fath yn arbennig o bwysig ar adeg pan nad yw’n bosib argraffu cylchgronau traddodiadol fel Mellten a Cip.”

Mae’r gwaith hefyd yn ffurfio rhan o adnoddau ar-lein yr Urdd ac yn cael eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol eraill y mudiad a’r Cyngor Llyfrau.

Meddai Mari Williams, Rheolwr Cyfathrebu’r Urdd: “Mae Huw Aaron eisoes yn cyfrannu’n fywiog i gylchgronau’r Urdd ac rydyn ni wrth ein boddau yn gallu cefnogi’r gweithdai digidol yma sydd ar gael yn rhad ac am ddim i unrhyw un. Maen nhw’n adnodd gwych ac yn amlwg yn denu ac yn diddanu plant bach a mawr dros y cyfnod yma.”

Bydd Huw Aaron yn parhau i gynnal sesiynau byw Criw Celf ar YouTube am rai wythnosau eto ac fe fydd modd gwylio pob un o’i fideos o hyn ymlaen ar wefan yr Urdd urdd.cymru/criw.