Fi a Joe Allen yn rhoi Cymru ar y Map… ond beth am Llyfr Glas Nebo?

Fi a Joe Allen yn rhoi Cymru ar y Map… ond beth am Llyfr Glas Nebo?

Cyhoeddir enwau enillwyr Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2019 Cyngor Llyfrau Cymru o lwyfan Eisteddfod yr Urdd, Caerdydd a’r Fro, brynhawn Iau, 30 Mai.

Fi a Joe Allen yn rhoi Cymru ar y Map... ond beth am Llyfr Glas Nebo?

Cyhoeddir enwau enillwyr Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2019 Cyngor Llyfrau Cymru o lwyfan Eisteddfod yr Urdd, Caerdydd a’r Fro, brynhawn Iau, 30 Mai.

Enillwyr y categori cynradd  yw Elin Meek o Gaerfyrddin a Valériane Leblond o Langwyryfon, am y gyfrol  Cymru ar y Map  (Rily), llyfr atlas darluniadol sy’n dangos Cymru ar ei gorau.

Enillydd y categori uwchradd  yw Manon Steffan Ros, a hynny gyda’i chyfrol  Fi a Joe Allen  (Y Lolfa), sy’n cynnig y cyfle i ail-fyw cyffro’r Ewros ym 2016 wrth i ni ddilyn Marc Huws, bachgen o Fangor, a’i dad ar antur fythgofiadwy yn Ffrainc.

Dywedodd Bethan Mair, Cadeirydd y Panel Beirniaid: “Doedd dim amheuaeth ymhlith holl aelodau’r panel ynghylch enillydd y categori cynradd  –  roedd Cymru ar y Map yn ddewis unfrydol gennym oll. Dyma lyfr gwirioneddol wreiddiol, arloesol a rhagorol, a ddyluniwyd yn fendigedig, sy’n cyfuno cynifer o agweddau ar iaith, hanes, daearyddiaeth, diwylliant, treftadaeth a chelf Cymru, nid yn unig ar gyfer yr oedran cynradd, ond i bawb.”

Ychwanegodd “Fe sylwodd Bethan Gwanas yn ei blog am y wobr eleni nad oeddem ni’r beirniaid wedi rhannu’r rhestr fer yn llyfrau cynradd ac uwchradd. Y gwir oedd ein bod ni’n ei gweld hi’n anodd categoreiddio am fod cynifer o’r llyfrau ar y rhestr  –  a’r ddau lyfr buddugol yn enwedig  –  yn pontio oedrannau a chyfnodau. Un peth oedd yn amlwg oedd bod  Fi a Joe Allen  yn llyfr a gyffyrddodd yn ddwfn ymhob un ohonom.”

Dywedodd hefyd: “O ystyried cymaint o glod haeddiannol a bentyrrwyd ar  Llyfr Glas Nebo,  bydd rhai’n siŵr o ddweud ein bod ni’n wallgo i beidio â gwobrwyo’r gyfrol honno. Dyma fy ymateb i: Os ydych chi wedi mwynhau unrhyw gyfrol arall gan Manon, darllenwch  Fi a Joe Allen  –  boed blentyn, arddegyn neu oedolyn  –  a phenderfynwch drosoch eich hun!”

Fi a Joe Allen yn rhoi Cymru ar y Map… ond beth am Llyfr Glas Nebo?

Catherine Fisher a’i nofel The Clockwork Crow yn cipio gwobr llenyddiaeth plant Tir na n-Og

Dirgelwch hudolus llawn eira a sêr gan storiwraig feistrolgar.

Catherine Fisher a'i nofel The Clockwork Crow yn cipio gwobr llenyddiaeth plant Tir na n-Og

Mewn digwyddiad arbennig a gynhaliwyd eleni yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, Prifysgol Caerdydd ar 16 Mai, fel rhan o Gynhadledd CILIP Cymru (Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth Proffesiynol Cymru), cyflwynwyd y wobr i Catherine Fisher am ei nofel  The Clockwork Crow, a gyhoeddir gan Wasg Firefly.

Bob blwyddyn ers ei sefydlu ym 1976, mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi dathlu’r teitl Saesneg gorau ac iddo gefndir Cymreig dilys.

Mae The Clockwork Crow yn stori afaelgar am swyn a pherthyn, wedi’i gosod mewn plasty rhewllyd dan eira yng nghanolbarth Cymru. Ar noson oer iawn mewn gorsaf reilffordd Fictoraidd, mae dieithryn yn rhoi parsel papur newydd i Seren Rhys ond does ganddi’r un syniad am gynnwys helbulus y pecyn dan sylw.

Mae Catherine Fisher yn fardd ac yn awdur llyfrau plant o fri sy’n byw yng Nghasnewydd. Enillodd gradd mewn Saesneg o Brifysgol Cymru a bu’n gweithio ym meysydd addysg ac archeoleg a hefyd fel darlithydd ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Morgannwg. Mae’n Gymrawd yr Academi Gymreig ac yn 2013, fe’i penodwyd yn Awdur Ieuenctid Cymru.

Mae Catherine wedi ennill nifer o wobrau a llawer o glod beirniadol am ei gwaith gan gynnwys Gwobr Tir Na n-Og 1995 am The Candleman. Yn 2018, dyfarnwyd  The Clockwork Crow  gan Wales Arts Review fel enillydd Llyfrau Cymru ar gyfer Pobl Ifanc, ac eleni fe’i rhoddwyd ar restr fer Gwobrau Llyfrau Blue Peter.

Nododd Sioned Jacques, Cadeirydd Panel Saesneg Tir na n-Og, “Yn nhyb y panel, mae’r nofel hon yn ddychmygus, yn ddisgrifiadol ac yn swynol ac mae’n adleisio llawer o deitlau clasurol tebyg i The Chronicles of Narnia, C.S. Lewis. Ac eto, mae’n unigryw ac yn nodweddiadol o’r safon uchel a ddisgwylir gan awdur eithriadol o dalentog fel Catherine Fisher.”

Ychwanegodd, “Mae’r prif gymeriad wedi’i ysgrifennu mewn ffordd sy’n creu awydd yn y darllenydd i fod yn hi ac i uniaethu â hi. Mae’r llyfr wedi’i olygu’n dda gyda darluniau prydferth ac mae’n cynnwys rhai disgrifiadau atmosfferig iawn o gefn gwlad Cymru.”

Dywedodd Catherine Fisher, “Rwy’n falch iawn o ennill Gwobr Tir na-n Og. Mae  The Clockwork Crow  yn nofel sy’n gwneud defnydd o lên gwerin Cymru a’r tirlun Cymreig. Ond rwy’n gobeithio hefyd y bydd yn apelio at bob darllenydd ym mhob man, fel y dylai pob ffuglen ddychmygus.”

Yn ôl Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, “Roedd yr holl deitlau ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Tir na n-Og o safon eithriadol uchel eleni. Mae hynny’n adlewyrchu ansawdd y llyfrau sydd ar gael i blant ac oedolion ifanc ar hyn o bryd. Hoffwn estyn ein llongyfarchiadau gwresocaf i Catherine Fisher a Gwasg Firefly ar eu camp.”

Noddir Gwobr Saesneg Tir na n-Og – sy’n cydnabod ansawdd eithriadol llyfrau Saesneg i blant a phobl ifanc ac iddynt gefndir Cymreig – gan CILIP Cymru.

Dechreuodd y digwyddiad gyda thrafodaeth banel ddifyr yng nghwmni pob un o’r llenorion ar y rhestr fer, ac fe’i cadeiriwyd gan y darlledwr a’r awdur Lucy Owen. Gwahoddwyd criw o ddarllenwyr ifanc brwd i holi’r awduron fel rhan o’r cynllun cysgodi eleni. Roedd pecynnau adnoddau am ddim hefyd ar gael ar-lein fel y gallai ysgolion ymddwyn fel beirniaid answyddogol.

Datgelir y teitlau Cymraeg buddugol yn y categorïau cynradd ac uwchradd ar 30 Mai yng Nghanolfan y Mileniwm fel rhan o Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerdydd a’r Fro 2019.

Fi a Joe Allen yn rhoi Cymru ar y Map… ond beth am Llyfr Glas Nebo?

Horatio Clare, Syr Simon Jenkins a Clare Mackintosh yw prif berfformwyr ail Ŵyl Llên Maldwyn

Mae manylion y rhaglen lawn ar gyfer  Gŵyl Llên Maldwyn  eleni wedi’u rhyddhau, gyda rhestr ddisglair o awduron blaenllaw yn cynnwys Horatio Clare, Syr Simon Jenkins a Clare Mackintosh.

Datganiad i’r wasg

Bellach yn ei hail flwyddyn, bydd Gŵyl Llên Maldwyn 2019 yn cael ei chynnal yn ystod y penwythnos 14-16eg Mehefin ym mhlas gwych ac hanesyddol Gregynog, ger y Drenewydd.

Fel yr Ŵyl agoriadol y llynedd, mae’r digwyddiad yn dathlu awduron sydd â chysylltiadau personol a llenyddol â Chymru a’r Gororau:

  • • Dewch i glywed barn Simon Jenkins sy’n aml yn ddadleuol ar bensaernïaeth Cymru.
  • • Cyfarfod â’r awdures lwyddiannus, Clare Mackintosh, a fydd yn siarad am ei gwaith a’i nofel newydd sbon, After the End.
  • • Dysgu am sut y mae canolbarth Cymru wedi ysbrydoli, ac yn parhau i ysbrydoli, awduron mor amrywiol ag Alan Garner a Tom Bullough.
  • • Gwrando ar straeon am anturiaethau ysgrifennu Horatio Clare o amgylch y byd, a sut y maen nhw wedi dylanwadu ar ei waith.
  • • Dysgu gan Andrew Green am sut y mae hanes Cymru’n gallu cael ei adrodd drwy 100 o’i gwrthrychau pwysicaf – a gweld rhai ohonyn nhw drosoch chi’ch hun
  • • Ystyried deilliant gwahanol i laniad D-Day yng nghwmni’r hanesydd milwrol, Peter Caddick-Adams.
  • • Cael eich ysbrydoli gan enillwyr Gwobrau Ysgrifennu y New Welsh Review 2019 mewn sgwrs â’r awdur Cynan Jones a golygydd NWR, Gwen Davies.

…a mwy.

Gall egin awduron fanteisio ar ddwy sesiwn amser cinio, un gyda’r asiant llenyddol gwych Cathryn Summerhayes, a’r ail yn ginio gweithio ymarferol gyda Gwen Davies a Julia Forster o’r New Welsh Review.

Meddai Simon Baynes, sefydlydd yr ŵyl: “Dwi wrth fy modd ein bod ni wedi gallu dod â’r fath amrywiaeth o ddoniau llenyddol i’r Ŵyl eleni. O awduron nofelau ias a chyffro i ysgrifenwyr yn y Gymraeg; o bensaernïaeth Cymru i hanes milwrol ‘beth petai’; o Bowys mewn ffuglen i’r talent ysgrifennu Cymreig mwyaf newydd, mae gan yr Ŵyl eleni yn sicr rywbeth at ddant pawb. ’Dyn ni hefyd wrth ein boddau’n cael cydweithio â Phlas Gregynog, cefnlen hollol addas ar gyfer straeon a darlleniadau, trafodaethau a pherlau llenyddol.”

Bydd yr Ŵyl hefyd yn rhyddhau ei rhaglen i’r plant cyn bo hir, yn cynnwys sesiynau gydag awduron a darlunwyr, a theithiau dan oruchwyliaeth drwy erddi Gregynog.

Mae llety ar gyfer y penwythnos yn ogystal ag amrywiaeth gwych o fwyd a diod ar gael ym Mhlas Gregynog. Ac unwaith eto bydd Siop Lyfrau Booka Croesoswallt yn rhedeg siop lyfrau’r Ŵyl.

Sut i gael gwybod mwy

Mae tocynnau ar werth ar-lein a manylion y rhaglen gyfan ar gael drwy wefan yr Ŵyl: https://montylitfest.wordpress.com/tickets/ .

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen, ceisiadau am gyfweliadau, bywgraffiadau a lluniau’r siaradwyr, cysylltwch â: baynes@bodfach.com.

Mae tocynnau’r wasg ar gael am y penwythnos. Cysylltwch â baynes@bodfach.com.

Amdanom ni

Ymddiriedolaeth Gŵyl Llen Maldwyn sy’n rhedeg Gŵyl Llên Maldwyn. Ei nod yw dathlu ysgrifennu yng Nghymru a’r Gororau, gyda gŵyl flynyddol yn cylchdroi ymysg lleoliadau allweddol yn Sir Drefaldwyn. Cynhaliwyd yr Ŵyl gyntaf yn 2018 yn Neuadd Bodfach, Llanfyllin ac, yn 2020 bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yn nhref Trefaldwyn.

https://montylitfest.wordpress.com

Fi a Joe Allen yn rhoi Cymru ar y Map… ond beth am Llyfr Glas Nebo?

Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2019

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw pa gyfrolau sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2019 yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw pa gyfrolau sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2019 yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Dyfernir y Gwobrau i’r gweithiau gorau ym meysydd ysgrifennu creadigol a beirniadaeth lenyddol o fewn tri chategori: Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol Greadigol.
Mae’r rhestrau byrion Cymraeg a Saesneg eleni yn cynnwys rhai o awduron amlycaf Cymru. Yn eu mysg mae Prifeirdd, Prif Lenorion, a Phrif Ddramodydd; enillwyr gwobrau megis y Somerset Maugham Award, y Sunday Times Business Book of the Year, yr Orange Prize a’r Costa Poetry Award, ymysg eraill. Yn mynd benben â’r cewri llenyddol hyn mae awduron ar ddechrau eu gyrfaoedd, gan gynnwys rhai sy’n cyhoeddi gwaith am y tro cyntaf.
Wrth ddechrau ar y broses o feirniadu, dywedodd Idris Reynolds ei fod yn chwilio am “gyfrol a fydd yn aros yn y cof ymhell ar ôl cau’r cloriau”.

Y teitlau sydd wedi eu dethol ar gyfer Rhestr Fer Gymraeg Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2019 yw:

Gwobr Farddoniaeth
Twt Lol, Emyr Lewis (Gwasg Carreg Gwalch)
Cyrraedd a Cherddi Eraill, Alan Llwyd (Cyhoeddiadau Barddas)
Stafell fy Haul, Manon Rhys (Cyhoeddiadau Barddas)

Gwobr Ffuglen Prifysgol Aberystwyth
Ynys Fadog, Jerry Hunter (Y Lolfa)
Llyfr Glas Nebo, Manon Steffan Ros (Y Lolfa)
Esgyrn, Heiddwen Tomos (Y Lolfa)

Gwobr Ffeithiol Greadigol
Cymru mewn 100 Gwrthrych, Andrew Green (Gwasg Gomer)
Y Gymru ‘Ddu’ a’r Ddalen ‘Wen’, Lisa Sheppard (Gwasg Prifysgol Cymru)
Rhyddhau’r Cranc, Malan Wilkinson (Y Lolfa)

Ar y panel beirniadu Cymraeg eleni mae’r darlledwr adnabyddus ac awdur chwaraeon, Dylan Ebenezer; Pennaeth Adran Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth, Cathryn Charnell-White; a’r bardd ac awdur Idris Reynolds, cyn-enillydd Llyfr y Flwyddyn 2017 am ei gofiant i Dic Jones, Cofio Dic (Gwasg Gomer).

Mae’r panel beirniadu Saesneg yn cynnwys y bardd ac Athro Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Lerpwl, Sandeep Parmar; Pennaeth Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Aberystwyth, Louise Holmwood-Marshall; a’r nofelydd ac Athro Emeritws Ysgrifennu Creadigol Coleg Birbeck, Prifysgol Llundain, Russell Celyn Jones.

Ar y Rhestr Fer Saesneg mae:

Gwobr Farddoniaeth Roland Mathias
Insistence, Ailbhe Darcy (Bloodaxe Books)
Salacia, Mari Ellis Dunning (Parthian Books)
Gen, Jonathan Edwards (Seren)

Gwobr Ffuglen Saesneg Prifysgol Aberystwyth
Arrest Me, for I Have Run Away, Stevie Davies (Parthian Books)
West, Carys Davies (Granta Books)
Sal, Mick Kitson (Canongate Books)

Gwobr Ffeithiol Greadigol Saesneg
Moneyland, Oliver Bullough (Profile Books)
The Light in the Dark: A Winter Journal, Horatio Clare (Elliott & Thompson)
Having a go at the Kaiser: A Welsh family at war, Gethin Matthews (Gwasg Prifysgol Cymru)

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Dyma gyfrolau sy’n annog darllenwyr i ystyried rhai o themâu mawr bywyd. Mae iechyd meddwl a hunaniaeth – boed yn bersonol neu’n genedlaethol – yn linyn cyswllt drwy’r cyfan. Mae Rhestr Fer 2019 yn cynrychioli amrywiaeth anhygoel llenyddiaeth gyfoes o Gymru.”

I ddarllen rhagor am y cyfrolau ar y Rhestr Fer a’u hawduron, ewch i:  www.llenyddiaethcymru.org.
Caiff enillwyr y gwobrau eu cyhoeddi mewn Seremoni Wobrwyo yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar nos Iau 20 Mehefin, lle bydd cyfanswm o  £12,000 yn cael ei rannu rhwng yr awduron llwyddiannus. Bydd enillydd pob categori yn derbyn gwobr o  £1,000, ac fe gyflwynir gwobr ychwanegol o  £3,000 i brif enillydd y wobr yn y ddwy iaith. Bydd yr enillwyr hefyd yn derbyn tlws sydd wedi’i greu yn arbennig gan yr artist Angharad Pearce Jones. Mae tocynnau i’r Seremoni Wobrwyo yn  £7.50 (gostyngiadau yn  £5), a gellir eu prynu ar-lein o wefan Canolfan y Celfyddydau.

Yn ogystal  â datgelu dewis y beirniaid yn y Seremoni Wobrwyo, bydd gwobrau yn cael eu dyfarnu i enillwyr Gwobr Barn y Bobl a’r People’s Choice Award. Mae modd pleidleisio nawr am eich ffefryn ymysg cyfrolau’r Rhestr Fer ar wefannau Golwg360:  www.golwg360.com  (Cymraeg) neu ar Wales Arts Review  www.walesartsreview.org (Saesneg).

Am ragor o wybodaeth am
Wobr Llyfr y Flwyddyn, ewch i:
www.llenyddiaethcymru.org/llyfr-y-flwyddyn

Fi a Joe Allen yn rhoi Cymru ar y Map… ond beth am Llyfr Glas Nebo?

Cyhoeddi enillydd gwobr Cyfraniad Oes gwyl Bedwen Lyfrau 2019

Enillydd Gwobr Cyfraniad Oes y Fedwen Lyfrau eleni yw’r bardd, llenor, addysgwr a’r pregethwr o Wrecsam, Aled Lewis Evans.

Er mai gyda ardal Maelor y cysylltir Aled yn bennaf erbyn hyn, bu’n byw ym Machynlleth, Llandudno, a’r Bermo wrth i waith ei dad fel postfeistr arwain y teulu o le i le. Mae’n gyn-ddisgybl yn Ysgol Morgan Llwyd ac yn gyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor. Ers cyhoeddi ei gyfrol gyntaf, Tre’r Ffin, ym 1983, cyhoeddodd naw cyfrol o farddoniaeth Gymraeg. Cyrhaeddodd y diweddaraf, Llinynnau, Restr Fer Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn. Fodd bynnag, mae Aled wedi meistroli amrywiaeth eang o ffurfiau llenyddol, yn straeon byrion, llyfrau taith, dramâu a berfformiwyd yn Theatr y Stiwt, Rhos, ac amryw o leoliadau eraill, a geiriau caneuon, gan gynnwys, Dyrchefir Fi, cyfieithiad hynod boblogaidd o You Raise Me Up. Cyhoeddodd nifer o gyfrolau yn Saesneg hefyd, gan gynnwys Driftwood, cyfrol o straeon byrion a monologau. Trwy ei gerddi ffraeth, personol, doniol a sylwgar llwyddodd i ddarlunio ardal y ffin mewn modd cadarnhaol a gobeithiol er enghraifft y clasur Over the Llestri. Mae wedi ymroi i addysgu hefyd, yn gyntaf fel athro yn Ysgol Morgan Llwyd ac yna fel tiwtor Cymraeg i oedolion yn Wrecsam a’r Wyddgrug.

Bydd y wobr yn cael ei chyflwyno i Aled Lewis Evans yn ystod gwyl Bedwen Lyfrau 2019 ar ddydd Sadwrn, Mai 11eg am 2pm yng nghanolfan Saith Seren, Wrecsam. Bydd y Prifardd Hywel Griffiths yn ei holi am ei yrfa, yna bydd Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru yn cyflwyno tlws iddo. Dywedodd Aled Lewis Evans:

“Mae ennill y Wobr Oes yn anrhydedd mawr iawn i mi, ac yn cydnabod gwaith y blynyddoedd, gan obeithio y daw eto gyfrolau yn y dyfodol. Ysgrifennu yw’r un peth sydd yn aros yn sefydlog yn fy mywyd beth bynnag sy’n digwydd o’m cwmpas. Mae ennill y Tlws yn un o’r pethau mwyaf annwyl sydd wedi digwydd i mi, a diolchaf yn fawr iawn i’r cyhoeddwyr oll.”

Mae’n berfformiwr hefyd, ac mae’n un o’r genhedlaeth a wnaeth gymaint i boblogeiddio barddoniaeth fyw yng Nghymru. Mae hyn yn parhau gyda nosweithiau Viva Voce yn Wrecsam, ei waith fel darlledwr, a thrwy’r ffaith ei fod yn awdur nifer helaeth o ddarnau gosod ar gyfer eisteddfodau ledled Cymru.

Bu’n feirniad llên yn y Brifwyl ac ym Mhrifwyl yr Urdd, ac ef oedd cadeirydd Pwyllgor Llên Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011. Graddiodd mewn Theoleg yn 2002, ac mae’n bregethwr cynorthwyol yn cynnal gwasanaethau ar gyfer pob enwad ers 1999, gan deithio Gogledd a Chanolbarth Cymru ar y Sul yn gyson.

Trwy’r prysurdeb cynhyrchiol hyn i gyd, mae Aled yn mynd allan o’i ffordd i gefnogi ac annog beirdd a llenorion iau, yn ffurfiol trwy diwtora yng Nghanolfan Ysgrifennu Ty Newydd ac yn anffurfiol mewn nosweithiau a grwpiau darllen. Trwy ei holl waith gyda dysgwyr yr ardal yn enwedig, mae Aled yn sicrhau bod y Gymraeg a’i llenyddiaeth i’w chlywed ar hyd y gogledd ddwyrain.
ALED LEWIS EVANS – LLYFRAU A CHYHOEDDIADAU

Barddoniaeth Gymraeg i Oedolion
Tre’r Ffin 1983,
Sibrydion 1986 – Cyhoeddwyd er budd elusennau’r Urdd ac Arian Byw
Tonnau Barddas 1989
Sglefrfyrddio Barddas 1994
Mendio Gondola Barddas 1997
Llanw’n Troi Barddas 2000
Pac o Feirdd Carreg Gwalch 2003 efo 3 bardd arall.
teledu yma Barddas 2007
Amheus o Angylion Barddas 2011
Llinynnau Barddas 2017. shortlisted in the final 9 in Wales Book of The Year 2017

English publications/ Cyhoeddiadau yn Saesneg
Driftwood 2010 ( Gwasg y Bwthyn)
Someone else in the audience 2013 (Gwasg y Bwthyn)
Harvest Tide ( Cyhoeddwyd gan yr awdur.)

Straeon byrion Cymraeg / Short stories in Welsh.
Ga’ i ddarn o awyr las heddiw Gomer 1991
Aur yn y Gwallt Bwthyn 2004
(yn 10 uchaf gwerthiant llyfrau Cymraeg)

Rhyddiaith yn y Gymraeg/ Welsh language prose.
Rhwng Dau Lanw Medi Carreg Gwalch 1994
Y Caffi Bwthyn 2003 Dal
(Prif werthwr llyfrau Cymraeg Mai 2003)

Llyfrau eraill. (Dal ar gael)/ Other books that are still available.
Bro Maelor Carreg Gwalch 1996
Troeon Gwasg y Gair 1998
Cerddi Clwyd (gol) Gwasg Gomer 2005
Adlais Gwasg y Gair 2007
(yn neg uchaf gwerthiant llyfrau)
Llwybrau Llonyddwch 2015 ( Gomer)
(Cyrhaeddodd 10 uchaf gwerthiant Awst 2015)

English work featured in the following anthologies
Antholegau Saesneg.
A White Afternoon Parthian 1999
Bloodaxe Book of Twentieth Century Welsh Poetry in Translation(Bloodaxe 2002)
The Old Red Tongue An anthology of Welsh Literature. (Edited by Meic Stephens and Gwyn Griffiths)