Enillydd Gwobr Cyfraniad Oes y Fedwen Lyfrau eleni yw’r bardd, llenor, addysgwr a’r pregethwr o Wrecsam, Aled Lewis Evans.

Er mai gyda ardal Maelor y cysylltir Aled yn bennaf erbyn hyn, bu’n byw ym Machynlleth, Llandudno, a’r Bermo wrth i waith ei dad fel postfeistr arwain y teulu o le i le. Mae’n gyn-ddisgybl yn Ysgol Morgan Llwyd ac yn gyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor. Ers cyhoeddi ei gyfrol gyntaf, Tre’r Ffin, ym 1983, cyhoeddodd naw cyfrol o farddoniaeth Gymraeg. Cyrhaeddodd y diweddaraf, Llinynnau, Restr Fer Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn. Fodd bynnag, mae Aled wedi meistroli amrywiaeth eang o ffurfiau llenyddol, yn straeon byrion, llyfrau taith, dramâu a berfformiwyd yn Theatr y Stiwt, Rhos, ac amryw o leoliadau eraill, a geiriau caneuon, gan gynnwys, Dyrchefir Fi, cyfieithiad hynod boblogaidd o You Raise Me Up. Cyhoeddodd nifer o gyfrolau yn Saesneg hefyd, gan gynnwys Driftwood, cyfrol o straeon byrion a monologau. Trwy ei gerddi ffraeth, personol, doniol a sylwgar llwyddodd i ddarlunio ardal y ffin mewn modd cadarnhaol a gobeithiol er enghraifft y clasur Over the Llestri. Mae wedi ymroi i addysgu hefyd, yn gyntaf fel athro yn Ysgol Morgan Llwyd ac yna fel tiwtor Cymraeg i oedolion yn Wrecsam a’r Wyddgrug.

Bydd y wobr yn cael ei chyflwyno i Aled Lewis Evans yn ystod gwyl Bedwen Lyfrau 2019 ar ddydd Sadwrn, Mai 11eg am 2pm yng nghanolfan Saith Seren, Wrecsam. Bydd y Prifardd Hywel Griffiths yn ei holi am ei yrfa, yna bydd Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru yn cyflwyno tlws iddo. Dywedodd Aled Lewis Evans:

“Mae ennill y Wobr Oes yn anrhydedd mawr iawn i mi, ac yn cydnabod gwaith y blynyddoedd, gan obeithio y daw eto gyfrolau yn y dyfodol. Ysgrifennu yw’r un peth sydd yn aros yn sefydlog yn fy mywyd beth bynnag sy’n digwydd o’m cwmpas. Mae ennill y Tlws yn un o’r pethau mwyaf annwyl sydd wedi digwydd i mi, a diolchaf yn fawr iawn i’r cyhoeddwyr oll.”

Mae’n berfformiwr hefyd, ac mae’n un o’r genhedlaeth a wnaeth gymaint i boblogeiddio barddoniaeth fyw yng Nghymru. Mae hyn yn parhau gyda nosweithiau Viva Voce yn Wrecsam, ei waith fel darlledwr, a thrwy’r ffaith ei fod yn awdur nifer helaeth o ddarnau gosod ar gyfer eisteddfodau ledled Cymru.

Bu’n feirniad llên yn y Brifwyl ac ym Mhrifwyl yr Urdd, ac ef oedd cadeirydd Pwyllgor Llên Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011. Graddiodd mewn Theoleg yn 2002, ac mae’n bregethwr cynorthwyol yn cynnal gwasanaethau ar gyfer pob enwad ers 1999, gan deithio Gogledd a Chanolbarth Cymru ar y Sul yn gyson.

Trwy’r prysurdeb cynhyrchiol hyn i gyd, mae Aled yn mynd allan o’i ffordd i gefnogi ac annog beirdd a llenorion iau, yn ffurfiol trwy diwtora yng Nghanolfan Ysgrifennu Ty Newydd ac yn anffurfiol mewn nosweithiau a grwpiau darllen. Trwy ei holl waith gyda dysgwyr yr ardal yn enwedig, mae Aled yn sicrhau bod y Gymraeg a’i llenyddiaeth i’w chlywed ar hyd y gogledd ddwyrain.
ALED LEWIS EVANS – LLYFRAU A CHYHOEDDIADAU

Barddoniaeth Gymraeg i Oedolion
Tre’r Ffin 1983,
Sibrydion 1986 – Cyhoeddwyd er budd elusennau’r Urdd ac Arian Byw
Tonnau Barddas 1989
Sglefrfyrddio Barddas 1994
Mendio Gondola Barddas 1997
Llanw’n Troi Barddas 2000
Pac o Feirdd Carreg Gwalch 2003 efo 3 bardd arall.
teledu yma Barddas 2007
Amheus o Angylion Barddas 2011
Llinynnau Barddas 2017. shortlisted in the final 9 in Wales Book of The Year 2017

English publications/ Cyhoeddiadau yn Saesneg
Driftwood 2010 ( Gwasg y Bwthyn)
Someone else in the audience 2013 (Gwasg y Bwthyn)
Harvest Tide ( Cyhoeddwyd gan yr awdur.)

Straeon byrion Cymraeg / Short stories in Welsh.
Ga’ i ddarn o awyr las heddiw Gomer 1991
Aur yn y Gwallt Bwthyn 2004
(yn 10 uchaf gwerthiant llyfrau Cymraeg)

Rhyddiaith yn y Gymraeg/ Welsh language prose.
Rhwng Dau Lanw Medi Carreg Gwalch 1994
Y Caffi Bwthyn 2003 Dal
(Prif werthwr llyfrau Cymraeg Mai 2003)

Llyfrau eraill. (Dal ar gael)/ Other books that are still available.
Bro Maelor Carreg Gwalch 1996
Troeon Gwasg y Gair 1998
Cerddi Clwyd (gol) Gwasg Gomer 2005
Adlais Gwasg y Gair 2007
(yn neg uchaf gwerthiant llyfrau)
Llwybrau Llonyddwch 2015 ( Gomer)
(Cyrhaeddodd 10 uchaf gwerthiant Awst 2015)

English work featured in the following anthologies
Antholegau Saesneg.
A White Afternoon Parthian 1999
Bloodaxe Book of Twentieth Century Welsh Poetry in Translation(Bloodaxe 2002)
The Old Red Tongue An anthology of Welsh Literature. (Edited by Meic Stephens and Gwyn Griffiths)