Anna

Fy enw yw Anna Nijo a dwi’n dod o Aberystwyth. Dwi’n mwynhau darllen yn fy amser hamdden, yn enwedig llyfrau ar gyfer oedolion ifanc a llyfrau trosedd. O’r herwydd, dwi’n ymwelydd cyson â‘r llyfrgell leol.

Trwy ymuno â‘r panel hwn, dwi’n gobeithio cynyddu nifer y bobl sy’n mwynhau darllen llyfrau, efallai drwy gefnogi ysgolion i annog eu myfyrwyr i ymgysylltu â llyfrgell yr ysgol neu’r llyfrgell leol.