Panel Pobl Ifanc

Croeso i dudalen Panel Pobl Ifanc Cyngor Llyfrau Cymru. Sefydlwyd y panel er mwyn sicrhau cyfle i amrywiaeth o leisiau ifanc rannu barn a syniadau am ddarllen er pleser yng Nghymru. Yn ystod mis Chwefror rhannwyd galwad agored er mwyn annog pobl ifanc rhwng 17 ac 21 oed i ymgeisio i fod yn aelod o’r panel. Cafwyd nifer da o geisiadau o safon eithriadol.

Cynhaliwyd ein cyfarfod cyntaf ym mis Gorffennaf 2023, dan arweiniad Llŷr Titus fel Cadeirydd. Arweiniodd Llŷr y trafodaethau’n gelfydd iawn er mwyn sicrhau bod aelodau’n cael cyfle teg i gyfrannu. Bydd y panel yn cwrdd tair gwaith y flwyddyn, unwaith wyneb yn wyneb a dwywaith dros Zoom.

Prif nod y cyfarfodydd yw adnabod themâu y mae’r aelodau yn dymuno eu gweld mewn llenyddiaeth i bobl ifanc, mynegi barn ar gyhoeddiadau cyfredol, ynghyd â rhannu eu dyheadau am gyhoeddiadau yn y dyfodol. Mae’n gyfle hynod o werthfawr i drafod ymgyrchoedd hyrwyddo darllen er pleser er mwyn annog eraill i ddarllen.

Dewch i gwrdd a’r panelwyr…