Gruffudd

Gruffudd ab Owain ydw i, ac rwy’n ddisgybl Lefel A yn Ysgol Godre’r Berwyn, Y Bala, yn astudio Cymraeg, Mathemateg, Ffrangeg a Sbaeneg. Y tu hwnt i hynny, mae fy niddordebau’n cwmpasu seiclo a’r celfyddydau yn bennaf, ac ysgrifennu amdanynt. Rwy’n gyfrifol am flog Y Ddwy Olwyn, yn ddirprwy olygydd ar gylchgrawn Y Selar, ac yn ysgrifennu’n llawrydd i gyhoeddiadau eraill. Fy ngweledigaeth o fod ar y panel yw ceisio pontio’r gwagle sy’n gallu ymddangos rhwng llyfrau plant a llyfrau oedolion, sicrhau cynhaliaeth ac estyniad amrywiaeth, yn ogystal ag archwilio strategaethau i ymgysylltu’n well â phobl ifainc heddiw.