Charlie

Helȏ. Fy enw i yw Charlie Evans ac rwy’n byw yn Ynys Môn. Rwy’n 17 mlwydd oed ac yn astudio Lefel A Cymraeg, Hanes, a Ffrangeg. O fis Hydref ymlaen, byddaf yn astudio Ffrangeg ym Mhrifysgol Rhydychen, gan ymddiddori, gobeithio, mewn llenyddiaeth sy’n amlygu problemau cymdeithasol. Rwy’n hoff iawn o nofelau Ffrengig a Chymraeg, gan gynnwys nofelau Philipe Besson, Manon Steffan Ros a Saunders Lewis. Fel aelod o’r Panel Pobl Ifanc, rwy’n gobeithio tanlinellu’r diffyg cynrychiolaeth sydd mewn llenyddiaeth Gymraeg. Hoffwn sicrhau bod lleisiau ifanc wrth wraidd hyrwyddo llenyddiaeth. Rwyf wir yn edrych ymlaen at gydweithio â’r panel.