Elen

Person sy’n ymddiddori mewn gwleidyddiaeth, cerddoriaeth a rygbi ydw i yn y bôn, er bod cael dianc i nofel dda yn bleser dwi’n dueddol o’i gymryd yn ganiataol. Fel person yn fy arddegau, mae fy mherthynas â llyfrau a darllen yn newid o hyd. Fy nod fel aelod o Banel Pobl Ifanc Cyngor Llyfrau Cymru 2023 yw arddangos a thrafod fy safbwyntiau ar ddyfodol llenyddiaeth o fy mhersbectif i fel person ifanc yn yr oes ddigidol. Dwi’n edrych ymlaen i ddadansoddi’r byd llenyddol gyda phobl ifanc eraill ar y panel, yn enwedig yn dilyn cyfnod hir o ddiffyg trafodaeth a rhyngweithio i bawb. Dwi wrth fy modd fy mod wedi cael fy newis i gynrychioli pobl ifanc ledled Cymru. Dwi’n gobeithio gallu gwneud cyfiawnder â phobl ifanc y wlad!