Blwyddlyfrau Llyfrau Plant

Blwyddlyfr

Rydym wedi curadu dewis anhygoel o lyfrau i blant ac oedolion ifanc ar gyfer ein Blwyddlyfrau; maen nhw’n cynnig toreth o gyfleoedd newydd a chyffrous i ddarllen ac yn arddangos teitlau newydd a gyhoeddwyd yng Nghymru – yn Gymraeg, yn Saesneg ac yn ddwyieithog. 

O lyfrau bwrdd lliwgar i nofelau heriol ar gyfer oedolion ifanc, mae rhywbeth yma ar gyfer pob oedran a diddordeb, ynghyd â rhestr gynhwysfawr o adnoddau sydd ar gael i helpu dysgwyr ar eu taith addysgol.  

Mae’r amrywiaeth yn cynnwys teitlau a gyhoeddwyd yng Nghymru gyda’n cymorth ni, ac yn adlewyrchu holl ystod gwahanol ddiddordebau a chwaeth darllenwyr ifanc. Gallwch hefyd gael mynediad atynt mewn fformat e-lyfr oddi ar y platfform digidol pwrpasol ffolio.cymru 

Mae yna, wrth gwrs, lawer mwy o lyfrau ar gael i blant ac oedolion ifanc nag a gynhwysir yn y Blwyddlyfr. Gallwn rannu gyda chi fanylion yr holl deitlau o Gymru sydd ar gael, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych ddiddordeb. 

Cymerwch gip ar ein gwefan gwales.com lle gallwch hefyd ddod o hyd i gyfoeth o adolygiadau i’ch helpu i ddewis. Mae’r holl deitlau ar gael i’w prynu drwy eich llyfrwerthwr lleol, gyda llawer o siopau’n cynnig gwasanaeth i archebu llyfrau ar-lein a’u derbyn drwy’r post, neu wasanaeth clicio a chasglu.  

Gobeithiwn yn fawr y byddwch yn mwynhau pori drwy’r Blwyddlyfrau ac yn cael ysbrydoliaeth i barhau ar eich taith ddarllen. 

@LlyfrDaFabBooks #carudarllen #lovereading 

2024

Blwyddlyfr Plant 2024

2024

Blwyddlyfr Pobl Ifanc 2024

2023

Blwyddlyfr Plant 2023

Flipsnack Blwyddlyfr Plant 2023

2023

Blwyddlyfr Pobl Ifanc 2023

Flipsnack Blwyddlyfr Pobl Ifanc 2023

2022

Blwyddlyfr Llyfrau Plant 2022

Flipsnack Blwyddlyfr Llyfrau Plant 2022

2021

Blwyddlyfr Llyfrau Plant 2021

Flipsnack Blwyddlyfr Llyfrau Plant 2021

2020

Blwyddlyfr Llyfrau Plant 2020