Datganiad Cyfredol

Pencampwyr Darllen Dros Gymru 2019

Roedd Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth dan ei sang gan blant o bob cwr o Gymru ar 25 a 26 Mehefin pan ddaethant yn eu cannoedd i ddathlu darllen yn rowndiau cenedlaethol Darllen Dros Gymru, cystadlaethau a drefnwyd gan Gyngor Llyfrau Cymru ar gyfer plant oed cynradd.   

Roedd 34 o dimau o ysgolion ledled Cymru yn ymgiprys am y teitl Pencampwyr Darllen Dros Gymru 2019.      

Rowndiau cenedlaethol y cystadlaethau yw penllanw’r gweithgareddau sy’n digwydd drwy Gymru dros sawl mis, gyda disgyblion yn cystadlu am yr anrhydedd o gynrychioli eu siroedd  yn Aberystwyth.

Trafod  llyfr  oddi ar restr ddarllen a chyflwyno perfformiad fydd yn denu eraill at ddarllen y llyfr oedd yr  her a osodwyd i’r disgyblion gyda Mair Heulyn Rees a Rhian Cadwaladr yn feirniaid.

Fel rhan o  raglen y dydd, cafodd y plant a’r athrawon gyfle i fwynhau sesiynau hwyliog dros ben yng nghwmni’r awdur a’r actor Meilyr Sion. Bu’n diddanu’r darllenwyr brwd gyda chyflwyniad o’i lyfr diweddaraf Hufen Afiach (Atebol). 

Yr actor Meilyr Sion gyda chriw o blant yng nghystadleuaeth Darllen Dros Gymru 2019 a drefnwyd gan y Cyngor Llyfrau

Dywedodd Rob Kenyon, athro o Ysgol Sant Baruc, Y Barri: “Mae’r plant wrth eu boddau yn cael cyfle i drafod y llyfrau ac i gyflwyno’r stori.  Mae’n rhoi cyd-destun go iawn i waith datblygu llythrennedd a hynny mewn ffordd hwyliog dros ben. Mae cael y cyfle i gyfarfod ag awdur go iawn yn goron ar y cwbl.”

Disgyblion Blynyddoedd 3 a 4 oedd yn cystadlu ar ddydd Mawrth 25 Mehefin. 

Ysgol Llannon,  Sir Gaerfyrddin, a gipiodd y brif wobr am gyfuniad o’r cyflwyniad gorau a’r trafod gorau. Yr ysgol yma  hefyd oedd enillwyr Tlws Coffa Anwen   Tydu am y cyflwyniad dramatig gorau, gan seilio’u perfformiad ar Llanast gan   Mari Lovgreen (Gomer).

 Ysgol y Garnedd, Gwynedd, ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth, a nhw hefyd   enillodd y tlws am y grŵp trafod orau. Aeth  y drydedd wobr i Ysgol y Wern, Caerdydd.  

Plant Ysgol Llannon, Sir Gaer, oedd enillwyr cystadleuaeth Darllen Dros Gymru 2019 ar gyfer blwyddyn 3 a 4

Tro disgyblion Blynyddoedd 5 a 6 oedd hi ddydd Mercher 26 Mehefin a bu cystadlu brwd am y Bencampwriaeth.     

Fe’i henillwyd eleni gan Ysgol Gymraeg Rhydaman,  Sir Gaerfyrddin,  gydag Ysgol Pen Barras, Sir Ddinbych, yn ail ac Ysgol Sant Baruc, Y Barri, yn drydydd.

Ysgol Pen Barras a gipiodd Dlws Coffa Anwen Tydu, gyda’u cyflwyniad yn seiliedig ar gyfrol Pren a Chansen (Gwasg Carreg Gwalch) gydag Ysgol Gymraeg Rhydaman yn derbyn y tlws am y grŵp trafod gorau.

Disgylion Ysgol Gymraeg Rhydaman, Sir Gaer, oedd buddugwyr blwyddyn 5 a 6 yng nghystadleuaeth Darllen Dros Gymru 2019

Dywedodd Helen Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen Cyngor Llyfrau Cymru: “Mae cystadleuaeth Darllen Dros Gymru yn gyfle arbennig i blant afael mewn copi o lyfr, ei ddarllen a gwir fwynhau’r cynnwys. Gall y plant ddefnyddio eu dychymyg, dadansoddi’r cynnwys a thrafod yr hyn sydd yn digwydd. Diolch i ‘r trefnwyr ymroddedig am eu gwaith caled yn y rowndiau sirol, ac i’r athrawon a’r cefnogwyr eraill sy’n sicrhau llwyddiant y digwyddiad hwn bob blwyddyn.”

 O ganlyniad i gefnogaeth hael nifer o gyhoeddwyr – Gomer, Carreg Gwalch, Y Lolfa a Chyhoeddiadau Rily – cafodd pob plentyn a gymerodd ran yn y rowndiau cenedlaethol ddewis llyfr yn rhad ac am ddim.

Enillwyr Tlws Coffa Anwen Tydu am y cyflwyniad gorau oedd Ysgol Pen Barras, Sir Ddinbych

Bu’n rhaid gohirio cystadleuaeth Darllen Dros Gymru yn 2020 yn sgil cyfyngiadau Covid-19 ond rydyn ni’n mawr obeithio at ailafael yn y digwyddiad mor fuan ag sy’n bosib.