Gornest Lyfrau

Her ddarllen hwyliog sy’n sbarduno darllen er pleser i blant oed cynradd Cymru

Gornest Lyfrau

Beth yw Gornest Lyfrau?

Cystadleuaeth flynyddol  sydd yn annog darllenwyr ifanc Blynyddoedd 3–6 i ddarllen er pleser. Mae Gornest Lyfrau yn annog dysgwyr i drafod y llyfrau maen nhw’n eu darllen a pharatoi fideo creadigol, fel grŵp neu ddosbarth, yn seiliedig ar un o’r llyfrau sydd ar y rhestr ddarllen. 

Mae 3 chategori a rhestr ddarllen ar gael ar gyfer:  

  • Blynyddoedd 3 a 4 (cyfrwng Cymraeg) ac ysgolion trawsieithol  
  • Blynyddoedd 5 a 6 cyfrwng Cymraeg  
  • Blynyddoedd 3 – 6 cyfrwng Saesneg 

Sut mae’n gweithio?

Bydd angen i ysgolion ddewis un llyfr o’r rhestr i’w drafod ac un arall i’w gyflwyno fel hysbyseb. Cynhelir rownd sirol dan ofal y trefnwyr sirol, a bydd yr enillwyr sirol yn mynd ymlaen i’r rownd genedlaethol yn nhymor yr haf. 

Bydd yr ysgolion buddugol yn ennill tlws arbennig ynghyd ag un o’r gwobrau canlynol; 

  • Gwobr 1af – gwerth £200 o lyfrau 
  • 2ail wobr – gwerth £150 o lyfrau 
  • 3edd wobr – gwerth £100 o lyfrau 

Mae mwy o wybodaeth am y rowndiau sirol a chenedlaethol yn ein Canllaw Gornest Lyfrau, yn ogystal â Phecyn Gweithgareddau sydd ar gael i ysgolion trwy gysylltu â ni’n uniongyrchol  plant@llyfrau.cymru  neu’r trefnwyr sirol. 

Manteision Allweddol

Mae’n her ddarllen hwyliog sy’n:

  • annog plant i wirioni ar ddarllen a mwynhau llyfrau da
  • meithrin agweddau cadarnhaol a hirdymor tuag at ddarllen
  • cefnogi datblygiad llythrennedd emosiynol a meithrin sgiliau trafod, cyfathrebu a dadansoddi
  • cyd-fynd â gofynion y Cwricwlwm trwy gynnig amrywiaeth o weithgareddau i unigolion a grwpiau ar draws y Meysydd Dysgu a Phrofiad
  • hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o lyfrau, awduron a darlunwyr
  • dathlu safon eithriadol ym maes llenyddiaeth plant

Cofrestrwch i’r gystadleuaeth Gornest Lyfrau

Gall ysgolion gofrestru gyda’u trefnydd lleol erbyn 05 Rhagfyr 2024.

Os hoffech ragor o fanylion am eich trefnydd lleol, cysylltwch â plant@llyfrau.cymru