Gwen

Fy enw i yw Gwen ac rwy’n y flwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Bangor yn astudio Y Gyfraith a’r Gymraeg. Rwy’n dod yn wreiddiol o Aberystwyth ond bues i yn y chweched dosbarth yn Ysgol Glantaf yng Nghaerdydd. Yn yr oes ohoni mae darllenwyr ifanc brwd yn brin ac efallai fod hyn yn rhannol o ganlyniad i dwf mewn cyfryngau cymdeithasol. Fy nod felly, fel rhan o’r panel, yw defnyddio’r platfformau hyn er budd hybu darllen a sicrhau bod llyfrau gwefreiddiol Cymraeg yn cael eu gwerthfawrogi gan ein cenhedlaeth.