Cystadlaethau

Faint o’r cymeriadau isod gallwch chi eu henwi yn y parti isod? A phwy enillodd ein cystadleuaeth arbennig ar gyfer Diwrnod y Llyfr 2021? 

Poster lliwgar yn llawn lluniau o gymeriadau o lyfrau plant Cymraeg

Ar gyfer Diwrnod y Llyfr 2021, fe wnaethom drefnu cystadleuaeth ar y cyd â’r awdur a’r darlunydd talentog Huw Aaron.

Yr her oedd ceisio adnabod cymaint o gymeriadau o lyfrau a rhaglenni plant â phosib o’r poster uchod a ddyluniwyd gan Huw. Fe wnaeth e’r llun yn wreiddiol ar gyfer ei lyfr Ble Mae Boc: Ar Goll yn y Chwedlau a gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Tachwedd 2020.  

Mae’n braf cyhoeddi fod Casi Gwyndaf, 6 oed, wedi ennill ac yn derbyn pentwr o lyfrau werth £50 yn ogystal â darn o waith celf gwreiddiol gan Huw Aaron ei hun.

Yn ail oedd Gwenllian Mair Rhys, 11 oed o Ysgol Llanilar sy’n derbyn pentwr o lyfrau werth £25.

Yn y categori ysgolion, Ysgol Melin Gruffudd, Caerdydd, ac Ysgol Gymraeg Aberystwyth ddaeth i’r brig gyda’r naill yn ennill llyfrau gwerth £150 a’r llall llyfrau gwerth £75.

Wrth lansio’r gystadleuaeth, dywedodd Huw Aaron: “Mae gen i lun o barti arbennig iawn ar gyfer y gystadleuaeth, lle mae’r gwesteion i gyd yn gymeriadau o lyfrau plant a theledu Cymru – rhai newydd, rhai o’m mhlentyndod, a rai sy’n hen iawn erbyn hyn! Mae ’na 150 i’w henwi – ond bydd angen help mam a dad (ac efallai Mam-gu neu Taid!) i adnabod nhw i gyd. Pob lwc!”

Os hoffech chi cael tro ar enwi rhai o’r cymeriadau, mae Huw wedi creu tudalen ar wefan allanol lle mae modd i unrhyw un roi cynnig arni am hwyl:

https://www.sporcle.com/games/ComicMellten/enwch-cymeriadau-llenyddiaeth-plant

Os hoffech gael copi o’r poster, gallwch ei lawrlwytho yma neu gysylltwch gyda ni ar cllc.plant@llyfrau.cymru.