Llŷr Titus – Cadeirydd Panel Pobl Ifanc

Mae Llŷr Titus yn sgwennwr llawrydd o Benrhyn Llŷn. Mae’n gweithio ym myd y theatr a theledu ac fel awdur a golygydd. Enillodd ei nofel Pridd wobr Llyfr y Flwyddyn 2023 a chafodd ei ail nofel i oedolion Anfadwaith ei chyhoeddi gan y Lolfa yng Ngorffennaf 2023. Mae’n frwd dros hybu darllen ac amrywiaeth mewn lllenyddiaeth o Gymru.