Jess Fishlock, MBE

 

 

JESS FISHLOCK, MBE

Mae Jess Fishlock, MBE, pêl-droediwr proffesiynol o fri o Gymru, yn cynrychioli tîm cenedlaethol Cymru a thîm pêl-droed merched Seattle, OL Reign. Enillodd ei chyfraniadau sylweddol i bêl-droed merched a’r gymuned LHDTQ MBE iddi yn 2018.

Wedi’i geni a’i magu yng Nghaerdydd, dechreuodd taith bêl-droed Jess gyda chwarae’r gamp ochr yn ochr â’i chwaer, cyn ymuno â Merched Dinas Caerdydd pan oedd hi’n ddim ond saith oed. Yn 2017, creodd Jess hanes trwy ddod y chwaraewr Cymreig cyntaf, o blith chwaraewyr gwrywaidd a benywaidd, i sicrhau 100 o gapiau i’r tîm cenedlaethol.

Mae hi bellach yn byw yn Seattle gyda’i phartner a’i chyd-chwaraewr, Tziarra King. Er gwaethaf ei hymrwymiadau tramor, mae Jess yn ymweld â Chymru’n aml i gyflawni ei dyletswydd rhyngwladol a threulio amser gyda’i theulu.

 

  “Mae darllen a llyfrau wastad wedi bod yn rhan gyson o fy mywyd.”

Dwi wrth fy modd yn darllen. Gallwch chi ganiatáu i’ch ymennydd fod yn greadigol, sy’n llawer o hwyl, yn enwedig pan rydych chi’n ifanc. Eich dychymyg yw’r hyn sy’n eich galluogi i ddod o hyd i’ch ochr greadigol. Mae hefyd yn helpu gyda dysgu y tu hwnt i’r ysgol; roedd yn help mawr i mi pan oeddwn yn cael trafferth.

Mae darllen a llyfrau wedi bod yn rhan gyson o fy mywyd. Dwi ddim bob amser wedi ei werthfawrogi digon oherwydd ei fod wedi bod yn beth mor naturiol.

Roedd Mam yn arfer darllen llawer pan oedden ni’n ifanc, ac roedd pobl bob amser yn darllen i mi. Rwy’n meddwl mai dyna pam dwi’n darllen cymaint nawr. Byddai fy mrodyr a chwiorydd naill ai’n darllen straeon neu’n adrodd straeon yn seiliedig ar y llyfrau y bydden ni’n eu darllen.

 

“Mae gen i datŵ sy’n dangos yr effaith mae llyfrau wedi’i chael ar fy mywyd.”

Ysgrifennwyd rhai o fy hoff lyfrau pan yn blentyn gan Roald Dahl. James and The Giant Peach a The Witches oedd dau o fy ffefrynnau. Fe wnes i hefyd fwynhau cyfres Harry Potter, a llyfrau The Lord of The Rings.

Ni ddaeth y ffilmiau Harry Potter allan nes fy mod ychydig yn hŷn, felly pan oeddwn yn tyfu i fyny, y cyfan oedd gen i oedd fy nychymyg i geisio darlunio’r straeon a’r cymeriadau anhygoel hyn, ac fe helpodd fy ngwneud yn fwy creadigol. Mae cymaint o’r straeon a’r cymeriadau hynny wedi aros gyda fi. Mae cyfres Harry Potter bob amser yn gwneud i mi deimlo’n agos at fy nheulu.

Un o fy hoff ddyfyniadau gan Harry Potter yw “You are protected, in short, by your ability to love.” Geiriau Albus Dumbledore yn Harry Potter and The Half-Blood Prince yw’r rhain. Mae’r dyfyniad hwnnw wedi’i datŵio arna i, felly mae hynny’n dangos yr effaith y mae’r llyfrau hynny wedi’i chael ar fy mywyd.

Nawr, yn hytrach na llyfrau ffuglen, dwi’n mwynhau darllen am drosedd ac ochr seicolegol trosedd. Felly er fy mod i wedi gwyro ychydig ers plentyndod, dwi’n dal i fwynhau nofel dda pan dwi’n gallu!

 “Byddem yn gwneud cam â’n gwlad pe na baem yn caniatáu i’r llyfrau hyn fod ar gael yn rhwydd yn yr iaith Gymraeg.”

Mae hi mor bwysig i bobl ifanc fod yn darllen llyfrau Cymraeg. Cenedl fach ydyn ni ac mae angen i ni sicrhau bod ein hanes, ein diwylliant a’n hiaith mor hygyrch a gweladwy â phosibl. Byddem yn gwneud cam â’n gwlad pe na baem yn caniatáu i amrywiaeth o lyfrau fod ar gael yn rhwydd yn yr iaith Gymraeg.

Os na fyddwn yn cadw hanes, diwylliant, ac iaith Cymru trwy dudalennau llyfrau, byddan nhw’n diflannu’n raddol. Ni fydd unrhyw wlad arall yn ei wneud ar ein rhan ni. Nid ydym yn gwybod sut olwg fydd ar y dirwedd wleidyddol neu ddiwylliannol yn y dyfodol, felly mae’n rhaid i ni warchod ein hiaith nawr, drwy sicrhau bod gennym lyfrau Cymraeg.

 

“Y lle gorau y gall pobl ddysgu a deall y pynciau hyn yw o fewn llyfrau ac yn yr ysgol.”

Mae gwelededd gwahanol gymunedau a hunaniaethau o fewn llyfrau mor bwysig. Cefais drafferth yn yr ysgol gyda bwlio a dod i delerau â fy rhywioldeb. Dwi’n meddwl pe bai llyfrau wedi bod ar gael i mi bryd hynny, i’m helpu i ddeall yr hyn roeddwn yn ei feddwl a’i deimlo, yna efallai na fyddwn wedi mynd trwy’r hyn yr es i drwyddo. Dwi’n eiriolwr dros hyd yn oed fwy o amlygrwydd i’r gymuned LHDTQ+ mewn llyfrau i blant fel ffordd o frwydro yn erbyn anwybodaeth.

Mae gan ysgolion gyfrifoldeb i addysgu dysgwyr am y byd o’u cwmpas, a’u harfogi â gwybodaeth am bobl o bob cefndir; mae hyn yn cynnwys cynrychioli pobl o’r gymuned LHDTQ+ mewn llenyddiaeth neu hyd yn oed werslyfrau ysgol.

Yn y gymdeithas fodern, gall plant a phobl ifanc gael gafael ar gymaint o wybodaeth yn ifanc, yn enwedig ar gyfryngau cymdeithasol. Fodd bynnag, mae cyfryngau cymdeithasol yn cynhyrchu llawer o wybodaeth anghywir am gymunedau amrywiol, felly mae’n bwysig bod modd gwrthweithio’r wybodaeth anghywir hon a’i deall yn iawn mewn llyfrau ac yn yr ysgol.

 

“Dwi ddim yn meddwl fy mod i erioed wedi darllen llyfr heb ddysgu rhywbeth, hyd yn oed os mai dim ond prifddinas gwlad ydyw.”

Pryd bynnag dwi’n darllen, hyd yn oed fel oedolyn, dwi’n dal i deimlo fy mod i bob amser yn dysgu. Dyna harddwch darllen, byddwch bob amser yn dod ar draws rhywbeth newydd. Wrth i mi fynd yn hŷn, dwi’n dysgu llawer am yr ymennydd, sut mae’r meddwl yn gweithio, a dwi wedi defnyddio llyfrau i helpu gyda fy mherfformiad wrth chwarae. Dwi hefyd wrth fy modd yn dysgu geiriau newydd, darganfod eu hystyr, a’u hychwanegu at fy ngeirfa. Dwi ddim yn meddwl fy mod i erioed wedi darllen llyfr heb ddysgu rhywbeth, hyd yn oed os mai dim ond prifddinas gwlad ydyw!

Pe bawn i’n ysgrifennu llyfr am fy mywyd, byddwn i eisiau i ddarllenwyr ddeall, er gwaethaf y prysurdeb a’r adleoli cyson oherwydd fy ngyrfa bêl-droed, bod fy mywyd wedi bod yn rhyfeddol o normal. Byddwn i eisiau i bobl ddeall yr heriau dwi wedi’u hwynebu, er mwyn iddyn nhw allu gwneud y cysylltiad â’r pethau dwi’n credu ynddyn nhw, a’r pethau dwi’n angerddol amdanyn nhw. Er y byddai gan bobl ddiddordeb mewn darganfod mwy am fy mywyd fel pêl-droediwr, fe fyddwn i hefyd eisiau i’m llyfr ddatgelu mwy am bwy ydw i, a beth sydd wedi fy arwain ar hyd ambell lwybr yn ystod fy mywyd.

 

 “Efallai eich bod chi’n meddwl mai llyfr yw’r peth olaf sydd ei angen arnoch chi yn ystod argyfwng costau byw, ond fe allai fod y peth gorau i fuddsoddi ynddo ar hyn o bryd.”

Yn ystod cyfnod ariannol anodd, mae pobl yn dal i allu dod o hyd i lyfrau trwy wneud y gorau o’u llyfrgelloedd lleol. Mae’n ffordd wych o gael gafael ar lyfrau am ddim.

Yma yn Seattle, mae fy ffrindiau a minnau yn cyfnewid llyfrau ar-lein, fel y gallwn barhau i ddarganfod llyfrau newydd.

Pan fydd amseroedd yn anodd, peidiwch â rhoi’r gorau i ddarllen. I blant, gall llyfr, boed yn ffuglen wyddonol neu’n stori garu, neu’n fyd hollol wahanol o fewn ei dudalennau, fod yn lle diogel. Efallai eich bod chi’n meddwl mai llyfr yw’r peth olaf sydd ei angen arnoch chi yn ystod argyfwng costau byw, ond gallai fod y peth gorau i fuddsoddi ynddo ar hyn o bryd.
Mae ganddo’r gallu i fynd â chi i fyd arall.

Byddwn yn cynghori pobl ifanc i ddarllen, yn yr ysgol a thu hwnt. Er gwaethaf datblygiadau technolegol cyson, mae darllen yn parhau i fod yn sylfaenol i ddysgu, ac mae hefyd yn llawer o hwyl!