Sefydlwyd y wobr hon er mwyn coffáu cyfraniad sylweddol ac unigryw Mary Vaughan Jones i faes llenyddiaeth plant yng Nghymru. Cyflwynir y wobr bob tair blynedd i berson am gyfraniad arbennig i faes llyfrau plant yng Nghymru dros gyfnod o flynyddoedd.
Dyfarnwyd y wobr yn 2021 i Menna Lloyd Williams, pennaeth cyntaf Adran Llyfrau Plant y Cyngor Llyfrau am gyfraniad sydd wedi bod yn allweddol i ddatblygiad llyfrau plant a phobl ifanc yng Nghymru.
Dyma rannu’r digwyddiad digidol arbennig hwn, gyda chyfraniadau gan Gwerfyl Pierce Jones, Geraint Lewis, Philip Pullman, Daniel Evans, Casia Wiliam ac aelodau Adran Bro Alaw, i ddathlu cyfraniad nodedig Menna Lloyd Williams i lyfrau plant.
AM MARY VAUGHAN JONES (1918 – 1983)
Ym 1983 bu farw Mary Vaughan Jones, un o brif gymwynaswyr llenyddiaeth plant yng Nghymru. Yn ystod ei gyrfa bu Mary Vaughan Jones yn dysgu yn Ysgol Gynradd Cwm Penanner (1940 – 43), Ysgol Lluest Aberystwyth (1943 – 49), Ysgol Baratoad Aber-mad (1949 – 53) ac yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth (1953 – 58). Ym 1958 derbyniodd swydd yn y Coleg Normal, Bangor fel darlithydd – swydd a lanwodd hyd 1972.
Roedd Mary Vaughan Jones yn athrawes ysbrydoledig, a bu ei chyfraniad fel darlithydd coleg o werth amhrisiadwy i addysg Gymraeg, ond mae’n debyg mai ei chyfraniad mwyaf gwerthfawr, er hynny, oedd ei chyfraniad cyfoethog a chyson i faes llenyddiaeth plant Cymru dros gyfnod o ddeng mlynedd ar hugain ymron, a hynny er gwaethaf brwydr boenus yn erbyn afiechyd cynyddol. Cyhoeddwyd tua deugain o’i llyfrau, a chyfrannodd yn rheolaidd i gylchgronau’r Urdd.
Y rhai sy’n gymwys i’w hystyried
Gellir ystyried unrhyw un sydd wedi cyfrannu’n helaeth i’r maes llyfrau plant yn y Gymraeg dros gyfnod o flynyddoedd, boed awdur, arlunydd, llyfrwerthwr, llyfrgellydd, swyddog, ayb.
Yn achos rhywun sydd wedi gwneud cyfraniad yn rhinwedd ei swydd yn bennaf, byddai’n ofynnol medru dangos bod y cyfraniad yn un cwbl arbennig, y tu hwnt i ofynion cyffredinol swydd gyflogedig.
Tlws Mary Vaughan Jones yw’r anrhydedd uchaf ym maes llyfrau plant yng Nghymru a dylid ei ystyried yn goron ar yrfa’r enillydd. Ni ddylid eithrio enillwyr gwobrau unigol, megis Tir na n-Og, wrth ystyried teilyngdod ar gyfer yr anrhydedd hwn.
ENILLWYR
1985 – Ifor Owen
1988 – Emily Huws
1991 – T. Llew Jones
1994 – W. J. Jones
1997 – Roger Boore
2000 – J. Selwyn Lloyd
2003 – Elfyn Pritchard
2006 – Mair Wynn Hughes
2009 – Angharad Tomos
2012 – Jac Jones
2015 – Siân Lewis
2018 – Gareth F. Williams
2021 – Menna Lloyd Williams