Datblygu Cyhoeddi

Datblygu Cyhoeddwyr

Nod yr Adran hon yw cefnogi cyhoeddwyr i gynnal a datblygu rhaglenni cyhoeddi amrywiol a safonol. Mae hyn yn digwydd yn bennaf trwy ddosbarthu grantiau ond hefyd trwy drefnu hyfforddiant a chyfleoedd i gydweithio, creu partneriaethau ehangach, a chomisiynu ymchwil.

Gweinyddir y grantiau a ddaw gan Lywodraeth Cymru i’r cyhoeddwyr, a thrwy’r cyhoeddwyr i awduron, darlunwyr, dylunwyr a golygyddion.

Arweinir gwaith yr Adran gan ddau banel o arbenigwyr allanol, y naill yn canolbwyntio ar y grantiau i gyhoeddwyr llyfrau Saesneg o Gymru a’r llall ar gyhoeddiadau Cymraeg.

Blaenoriaeth y grantiau yw sicrhau amrywiaeth o lyfrau o Gymru ac am Gymru i gynulleidfa mor eang a phosibl. Cefnogir llyfrau ffuglen a ffaith, i oedolion a phlant fel ei gilydd ym mhob genre posibl.

Yn ogystal â chefnogi llyfrau mae’r Adran yn cefnogi amrywiaeth o gylchgronau a chyhoeddiadau ar-lein yn y ddwy iaith ac yn cefnogi swyddi golygyddol yn y tai cyhoeddi.

Drwy gydweithio a chefnogi’r cyhoeddwyr y nod yw sicrhau bod cynnyrch o Gymru yn gallu sefyll ysgwydd yn ysgwydd a chynnyrch unrhyw wlad arall ac yn cyrraedd eu potensial llawn o ran gwerthiant ac imapct.

Gwybodaeth bellach am y grantiau a’r cymorth i gyhoeddwyr.

Manylion cyswllt