Charlotte Harding

Charlotte Harding, Mam a Blogiwr. @witchywales

Blogiwr o Lynrhedynog (Ferndale) yw Charlotte ac mae hefyd yn vlogiwr, yn ddylanwadwr, ac mae ganddi ddau fab.

“Pe na bawn i wedi darllen y llyfrau hynny yn yr ysgol, fydden i ddim y person ydw i heddiw. Fe wnaeth llyfrau fy helpu trwy rai cyfnodau anodd yn fy mywyd.”

Mae darllen yn bwysig iawn, ac mae’n sgìl hanfodol mewn bywyd. Mae’n cael ei ddefnyddio bob dydd ac ym mhopeth a wnawn. Y rhan fwyaf o’r amser, nid yw pobl ifanc sy’n dweud nad oes ganddyn nhw ddiddordeb mewn darllen yn sylweddoli eu bod mewn gwirionedd yn darllen pethau ar eu ffonau am y rhan fwyaf o’r dydd, bob dydd!

Gellir dehongli stori mewn cymaint o wahanol ffyrdd, gydag un stori yn unig yn cael effeithiau amrywiol ar bob person unigol a’i fywyd. Rwy’n credu’n gryf y gall meithrin cariad at ddarllen a llyfrau fod yn ddwfn iawn ac yn rhywbeth sy’n newid bywyd, ond gall hefyd fod yn ffynhonnell wych o fwynhad ac addysg.

Gallwch ymgolli mewn llyfrau; gallwch chi ddod yn rhywun arall. Nid dim ond y geiriau yw llyfrau; mae’n ymwneud â sut maen nhw’n gwneud i chi deimlo fel person a sut mae pobl eraill yn ymateb i’r llyfrau – maen nhw’n dod â phobl at ei gilydd.

Pan oeddwn i’n iau roedd llyfrau yn rhan annatod o fy nghymuned. Doedd dim cymaint o ddewis ar y teledu, felly byddai pobl yn mynd i lyfrgelloedd lleol, yn cyfnewid llyfrau ac yna’n siarad amdanyn nhw gyda’u ffrindiau. Mae’n bwysig bod hyn yn parhau, ac mae’r sgwrs yn fwy na’r hyn a welwch ar y teledu neu ar YouTube.

Pan oeddwn i’n fach, cefais fy nenu at unrhyw beth hudolus – unrhyw beth a oedd yn dwyn fy nychymyg ac yn gadael i mi ddianc i fyd arall.

Pan oeddwn i’n saith oed, fe wnaeth fy rhieni ysgaru, felly am rai blynyddoedd, roedd yn gyfnod o addasu, ac roedd yn gallu bod yn unig. Roedd llyfrgell enfawr yn ystafell fyw fy mam ac roeddwn i’n arfer darllen llyfrau fel cyfres The Chronicles of Narnia gan C. S. Lewis – roedden nhw’n hynod ddiddorol gan eu bod nhw mor hudolus, ac roedd yn ddihangfa. Roeddwn i’n arfer hoffi straeon brawychus hefyd, fel cyfres straeon Goosebumps gan R. L. Stine. Fe wnes i fwynhau Judy Blume hefyd, It’s Not the End of the World – darllenais i hwnnw pan oeddwn i’n ddeuddeg oed, ac yn y llyfr, roedd rhieni’r ferch ifanc yn ysgaru. Roeddwn yn gallu uniaethu â’r hyn yr oedd hi’n mynd drwyddo gan fy mod wedi mynd trwy’r un profiad ac wedi teimlo emosiynau tebyg.

Pan oeddwn yn fy arddegau, roeddwn i’n arfer cael fy mwlio yn yr ysgol ac roeddwn i’n teimlo’n ynysig iawn – cefais gariad a chysur yn llyfrgell yr ysgol. Dyna lle magais i ddiddordeb mewn bioleg, iechyd meddwl, a hanes. Roeddwn wrth fy modd yn darllen am ymddygiad pobl, y meddwl a’r ffordd y mae pobl yn ymateb i drawma ac ysgogiadau. Rwy’n falch fy mod wedi treulio fy amser yn darllen y llyfrau hynny oherwydd pan ydych yn yr oedran hwnnw, rydych yn cymryd popeth i mewn, ac mae hyn wedi fy mharatoi ar gyfer fy nyfodol. Rwyf bellach yn gweithio ym maes iechyd meddwl amenedigol, ac mae’r llyfrau ddarllenais yn fy arddegau wedi helpu. Pe na bawn i wedi darllen y llyfrau hynny yn yr ysgol, fydden i ddim y person ydw i heddiw. Fe wnaeth y rhain fy helpu trwy rai cyfnodau anodd yn fy mywyd.

Y dyddiau hyn, dwi’n hoffi darllen straeon yn fy amser hamdden. Pan fydd y plant yn yr ysgol, byddaf yn eistedd ar y soffa ac yn darllen am awr, a dyna fy mwynhad – pan fyddaf yn gallu ymgolli yn y plot a’r cymeriadau. Rwyf hefyd yn mwynhau darllen a dysgu o lyfrau hunangymorth a llyfrau am iechyd meddwl, gan eu bod wedi fy helpu i ddelio â rhai o’m problemau fy hun.

Pan fyddwch chi’n darllen er mwynhad, rydych chi’n ymlacio, mae eich lefelau straen yn gostwng, ac rydych chi’n gallu canolbwyntio’n well – mae’n gwneud byd o les.

“Mae’n ymwneud â mwy na llyfrau. Mae’n ymwneud â rhyngweithio teuluol, egni a threulio amser gyda’ch gilydd.”

Ar ôl geni’r mab cyntaf, datblygais seicosis ôl-enedigol ac roedd bondio ag ef yn anodd. Felly, gwnes ymdrech i ddarllen llyfrau lluniau iddo yn ystod y cyfnod hwn, gan wneud hynny am rai blynyddoedd. O ganlyniad, mae ein cwlwm nawr yn anhygoel o gryf. Mae bellach yn mwynhau darllen ac yn gweld darllen yn gysur ac yn ffordd i fynegi ei hun. Mae’n mwynhau’r amser wrth syllu i fyw ein llygaid fel rhieni a sgwrsio gyda ni. Mae’n ymwneud â mwy na llyfrau. Mae’n ymwneud â rhyngweithio teuluol, egni a threulio amser gyda’ch gilydd.

O ran fy mab ieuengaf, sy’n fachgen actif ac yn hoffi chwaraeon a chelf, nid yw darllen yn gymaint o flaenoriaeth iddo, felly un o’r ffyrdd y gwnes i fagu ei ddiddordeb mewn llyfrau oedd trwy ddefnyddio hen chwedlau tylwyth teg traddodiadol, fel Yr Hugan Fach Goch neu Peter Pan, a gofyn iddo dynnu llun i mi o’r diweddglo. Roedd wrth ei fodd wrth iddo gael defnyddio ei ochr greadigol. Fe wnaethon ni hynny ar gyfer tua 10 o wahanol lyfrau ac roedd ganddo syniadau gwych – fe aeth ei ddychymyg yn drên.

Gyda’n meibion, roeddem wrth ein bodd yn darllen cyfres Harry and the Dinosaurs gan Ian Whybrow ac Amelia Reynolds Long, a Horrid Henry gan Francesca Simon. Rydyn ni hefyd wrth ein bodd â The Dinosaur that Pooped the Bed! gan Tom Fletcher; mae gennym ni rai llyfrau eraill gan Tom ond mae’r un yna’n gwneud i ni chwerthin cymaint, mae mor ddoniol.

Mae fy mab hynaf bellach yn mwynhau cyfres Diary of a Wimpy Kid gan Jeff Kinney, a gan ei fod yn mynd i fod yn 11 cyn bo hir, fe brynon ni How to Grow Up and Feel Amazing!: The No-worries Guide for Boys gan Dr Ranj, ac mae wedi bod yn wych. Mae’n ei guddio y tu ôl i’w wely oherwydd nid yw eisiau i’w fam wybod ei fod yn darllen am dyfu a datblygu. Does dim rhaid iddo fod yn bwnc chwithig bellach; gallwch brynu’r llyfr i’ch bechgyn a’i osod ar eu gwely a chaniatáu iddynt ei ddarllen a throi ato pan maen nhw’n barod, heb iddynt deimlo embaras. Mae’n rhoi’r cyfle i fy mab ddod ataf fi neu ei dad a gofyn cwestiynau, gan y bydd yn teimlo’n fwy grymus i siarad am y pynciau hyn oherwydd bod y llyfr wedi eu normaleiddio iddo.

“Dylai llyfrau gynrychioli pawb yng Nghymru ac annog pawb i’w derbyn nhw.”

Rwy’n meddwl ei bod mor bwysig bod llyfrau’n adlewyrchu Cymru – yr holl bobl, diwylliannau a chefndiroedd gwahanol sy’n byw yn ein gwlad. Dylai llyfrau gynrychioli pawb yng Nghymru ac annog pawb i’w derbyn nhw. Mae’n hanfodol hefyd bod yr iaith Gymraeg a’i diwylliant yn weladwy mewn llyfrau, fel y gallwn gadw ein hiaith yn fyw ac annog pobl ifanc i barhau i’w siarad.

Gyda’r argyfwng costau byw, rydym yn cymryd camau i sicrhau bod darllen yn parhau i fod yn rhan hanfodol o’n bywyd teuluol, a bod ein meibion yn datblygu eu sgiliau darllen.

Byddwn yn mynd i’r siopau elusen i brynu llyfrau. Fe wnaethon ni gael ein llyfrau Diary of a Wimpy Kid o gyfnewidfa lyfrau fawr yn Sain Ffagan lle aethon ni â hen lyfrau nad oedden ni’n eu darllen bellach, ac yna eu cyfnewid am lyfrau ail-law eraill. Mae yna hefyd siop fach yn Aberdâr sy’n cyfnewid llyfrau, ac rydym hefyd yn defnyddio’r llyfrgell leol.

Os yw’r bechgyn yn ymddwyn yn dda, bob rhyw ddeufis rydyn ni’n mynd i siop lyfrau hyfryd ym Mhontypridd lle mae ganddyn nhw adran blant ac rydyn ni’n gadael iddyn nhw ddewis llyfr. Maen nhw’n mwynhau cael llyfrau newydd sbon. Mae mor wych eu gweld yn gwirioni ar lyfrau.

O fewn fy ngrŵp ffrindiau, rydyn ni bob amser yn cyfnewid ac yn rhannu llyfrau. Os oes yna lyfr rydyn ni i gyd ei eisiau yn y grŵp ond ei fod yn eithaf drud, bydd pawb yn cyfrannu i’w brynu ac yna’n cymryd tro i’w ddarllen.

Rwy’n teimlo’n angerddol am rannu buddion llyfrau a darllen gyda rhieni a phlant eraill, ac am godi ymwybyddiaeth o sut y gall agor llyfr gyfrannu at ddatblygu sgiliau darllen ac ysgrifennu gwell, ehangu eu dychymyg, cyfoethogi eu geirfa, ynghyd â chynnig ystod o fuddion iechyd a lles.

Rhestr ddarllen Charlotte a deunydd darllen arall a argymhellir o Gymru:

Diary of a Wimpy Kid gan Jeff Kinney

Dyddiadur Dripsyn: Trwbwl Dwbwl gan Jeff Kinney (Addasiad Owain Siôn, Rily)

How to Grow Up and Feel Amazing!: The No-worries Guide for Boys gan Dr Ranj

Dysgu am Dyfu a Theimlo’n Wych: Llawlyfr i Fechgyn gan Dr Ranj (Addasiad Catrin Wyn Lewis, Rily)

Ti a dy Gorff gan Adam Kay (Addasiad gan Eiry Miles, Rily)

Horrid Henry gan Francesca Simon

Henri Helynt yn Codi’r Meirw gan Francesca Simon (Addasiad gan Siân Lewis, CAA)

The Dinosaur that Pooped the Bed! gan Tom Fletcher

Cyfres Harry and the Dinosaurs gan Ian Whybrow

There’s a Dragon in Your Book gan Tom Fletcher (Penguin)

Cyfres Chwedlau’r Copa Coch gan Elidir Jones (Atebol)

Am fwy o ysbrydoliaeth am beth i’w ddarllen nesaf, beth am bori drwy ein rhestrau darllen – fan hyn.

Dod o hyd i lyfrau yn fy ardal i

Beth am ymweld â’ch llyfrgell leol www.gov.uk/local-library-services neu siop lyfrau www.booksaremybag.com neu www.gwales.com/shopfinder i ddarganfod eich llyfr nesaf?