CYFRIFOLDEBAU GOLYGYDDOL

NODIADAU AR GYFRIFOLDEBAU GOLYGYDDION Y GWEISG A’R CYNGOR LLYFRAU

Mae’n Hadran Olygyddol yn gweithio gyda gweisg ar draws Cymru. Mae’r telerau isod yn amlinellu pa gyfrifoldebau sy’n eistedd gyda’r Adran a pha gyfrifoldebau sy’n perthyn i’r gweisg.

Cyfrifoldeb golygyddion y gweisg yw:

  1. cyflwyno ffurflen ‘Rhaglen Gyhoeddi’r Wasg’ mewn da bryd gan nodi’r dyddiadau cyhoeddi tebygol a’r blaenoriaethau, a hefyd drosglwyddo yn ôl y gofyn wybodaeth ynghylch unrhyw newid i’r rhaglen
  2. comisiynu awdur: trafod â’r awdur ynghylch hyd a lled y comisiwn, a natur a chywair y testun yng nghyswllt gofynion y farchnad
  3. trefnu adroddiad(au) gan ddarllenydd/ddarllenwyr annibynnol yn ôl y gofyn
  4. ar ôl derbyn y testun: cwtogi/ychwanegu, aildrefnu/ailwampio’r deunydd yn ôl yr angen, gan ymgorffori’r gofynion marchnata; ailysgrifennu, o bosib, mewn rhai achosion
  5. golygu creadigol: addasu’r arddull a’r cywair yn ôl y gofyn
  6. ymdrin â materion hawlfraint; hefyd gwirio enwau, ffeithiau, dyddiadau, teitlau llyfrau a chaneuon, enwau brandiau etc. mewn testunau ffeithiol a ffuglen, a chysoni nodweddion ac enwau cymeriadau mewn ffuglen
  7. trefnu lluniau, mapiau, llyfryddiaeth, mynegai etc. os oes eu hangen
  8. penderfynu ar y math o gyfrol, ar y cyd â’r adran farchnata, o ran ei fformat, teip, papur, ledin
  9. gydag addasiadau, sicrhau nad oes dim testun wedi’i golli a bod y paragraffu, teip italig etc. yn unol â’r gwreiddiol
  10. sicrhau bod y paragraffu a’r atalnodi yn null y wasg wedi’u gwneud yn briodol (mewn rhai achosion gellid gofyn i’r awduron wneud hyn gan roi cyfarwyddiadau i’r perwyl hwnnw iddynt wrth gomisiynu’r gwaith)
  11. manylion a chynllun y clawr
  12. tudalennau blaen – cydnabyddiaethau, diolchiadau, cyflwyno, rhagair/cyflwyniad, cynnwys etc.
  13. broliant (hyd, cywair etc.) + manylion bywgraffyddol yr awdur
  14. sicrhau bod tudalennau’r gwaith terfynol wedi’u rhifo
  15. rhestr wirio i’w chyflwyno i olygyddion y Cyngor Llyfrau yn ôl yr angen + cyfarwyddiadau/ dymuniadau’r awdur, gan sicrhau y caniateir amser rhesymol i’r Adran Olygyddol gyflawni’r gwaith.

Mae gwasanaeth golygu copi / darllen proflenni Adran Olygyddol y Cyngor yn cynnwys:

  1. golygu teipysgrifau a dderbynnir gan y gweisg, gan roi sylw yn bennaf i gywirdeb ac ystwythder y mynegiant
  2. mewn rhai achosion, o bosib, awgrymu ychydig gwtogi/ychwanegu yn ôl y gofyn (trafod â golygydd y wasg)
  3. cywirdeb terfynol y testunau o ran iaith (gan ganiatáu ystwythder yn ôl gofynion y math o draethiad/deialog sydd dan sylw)
  4. cysoni ffurfiau berfol/arddodiaid etc.
  5. cysylltu â’r awdur yn ôl y gofyn, mewn cydweithrediad â golygydd y wasg
  6. technegol: mewnosod, priflythrennau, dyfynodau sengl/dwbl, atalnodi, geiriau/llinellau gweddwon, italeiddio, paragraffu, priflythrennau (bach/mawr), atalnod llawn ai peidio (Mr, Dr, Parch. etc.), cysylltnod/llinell en etc., camrannu geiriau, unioni, dilyniant/rhifau’r tudalennau, gofod rhwng geiriau/llinellau
  7. addasiadau: osgoi glynu’n rhy gaeth at y gwreiddiol a cheisio cael testun darllenadwy a dealladwy
  8. stori-a-llun: gofalu bod y testun yn cyd-fynd â’r ddelwedd a’i fod yn y man iawn; bod y testun yn ffitio’r gofod (e.e. os oes swigod siarad); bod pob gair wedi’i gyfieithu, yn arbennig ar luniau, mapiau etc.
  9. golygu terfynol, sef golygu copi/darllen proflenni: o bosib yr erys ambell gymal/brawddeg i’w hystwytho
  10. cywiro unrhyw gamgysodi
  11. cysoni llyfryddiaeth a mynegai yn ôl y gofyn
  12. golwg derfynol ar froliannau o ran cywirdeb
  13. o bosib y bydd nifer o’r pwyntiau sy’n gyfrifoldeb i olygyddion y gweisg yn brigo wrth olygu’n derfynol a bydd angen bod yn ymwybodol o hyn
  14. sicrhau bod gwaith a gwblhawyd yn cael ei ddychwelyd mewn da bryd fel nad amherir ar raglen gyhoeddi’r wasg