Cyfrif i lawr at Wobrau Tir na n-Og 2022

Rydym ni wedi dechrau cyfrif i lawr at Wobrau Tir na n-Og 2022 – y gwobrau sy’n dathlu’r goreuon ymhlith llyfrau plant bob blwyddyn. Mae’r beirniaid ar gyfer y gwobrau Cymraeg a Saesneg wedi darllen y llyfrau i gyd ac maen nhw wedi derbyn y dasg, amhosib bron, o greu rhestr fer ac wedyn dewis enillydd ym mhob un o’r tri chategori.

Dyma’r categorïau:

  • Llyfrau Cymraeg ar gyfer oedran ysgol gynardd (4–11)
  • Llyfrau Cymraeg ar gyfer oedran ysgol uwchradd (11–18)
  • Llyfrau Saesneg ar gyfer darllenwyr oedran cynradd ac uwchradd (4–18) gyda chefndir Cymreig dilys

Byddwn yn cyhoeddi’r rhestr fer ar gyfer pob categori ar 10 ac 11 Mawrth.

Mae’r gwobrau’n dathlu talentau awduron a darlunwyr sydd yn creu gweithiau gwreiddiol yn y Gymraeg neu sydd yn ysgrifennu am themâu neu gefndiroedd Cymreig dilys trwy gyfrwng y Saesneg.

Trwy’r gwobrau hyn, gall plant a phobl ifanc fwynhau a chael eu hysbrydoli gan straeon ac ysgrifennu o Gymru neu am Gymru. Nod y gwobrau ydy dathlu darllen er pleser ac ysbrydoli darllenwyr ifanc i ddewis llyfrau i’w darllen.

Caiff Gwobrau Tir na n-Og eu noddi gan ein cyfeillion yn CILIP Cymru, ac maen nhw wedi’u cynnal gan y Cyngor Llyfrau bob blwyddyn ers 1976. Dyna i chi bentwr o lyfrau gwych, ac os na allwch chi aros tan fis Mawrth pan gaiff y rhestr fer ei chyhoeddi, gallwch bori trwy restrau byrion blynyddoedd blaenorol i gael ysbrydoliaeth ar gyfer llyfrau i’w darllen yn y cyfamser!