
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn falch iawn o gydweithio â Cheltenham Festivals yn cyflwyno’u rhwydwaith o grwpiau llyfrau athrawon i Wasanaeth Cyflawniad Addysg De Ddwyrain Cymru (EAS) mewn pump awdurdod lleol (Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Torfaen).
Mae Reading Teachers = Reading Pupils (RTRP) yn gynllun sy’n cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â sefydliadau o’r un anian ledled y Deyrnas Unedig gan gynnwys Cyngor Llyfrau Cymru, Bradford Literature Festival, Centre for Literacy in Primary Education (CLPE), English and Media Centre, Just Imagine, National Literacy Trust, KEAP (The Writers’ Block), Peters, Seven Stories the National Centre for Children’s Books, The Reader, The Story Museum a Wigtown Festival Company.
Wedi’i sefydlu yn 2016, nod y rhwydwaith cenedlaethol o grwpiau darllen athrawon yw ysbrydoli darllen er pleser gan fod ymchwil yn dangos bod plant sy’n darllen er pleser yn profi lefelau uchel o les, yn cymryd rhan mewn dysgu ac yn llwyddiannus mewn bywyd.
Bydd Cyngor Llyfrau Cymru ac EAS yn cynnal rhaglen RTRP ysgolion cynradd sy’n agored i holl athrawon Cyfnod Allweddol 2. Gan fod y nofelau sy’n cael eu dewiswyd yn fwyaf addas ar gyfer disgyblion Blwyddyn 5/6, rhoddir blaenoriaeth i athrawon y blynyddoedd hyn. I gynnwys cymaint o ysgolion â phosib, mae llefydd yn gyfyngedig i ddau athro i bob ysgol.
Caiff y sesiynau eu harwain gan aelodau o’n tîm o arbenigwyr yn y Cyngor Llyfrau ac EAS. Mae’r grŵp AM DDIM, ac mae adnoddau’r grŵp yn cael eu rhannu yn ystod y flwyddyn ynghyd a dau gopi o’r pum llyfr.
Mae ceisiadau am y flwyddyn academaidd nesaf yn agor ddydd Llun 21 Mehefin 2021.
Dyddiadau Allweddol Cyngor Llyfrau Cymru 2021-2022 |
Arweinwyr y Grŵp | Catherine McMahon / Helen Jones, Ilid Haf |
Ardal | EAS – De ddwyrain Cymru |
Lleoliad y Cyfarfod | Llyfrgell Ysgol Gyfun Gwent Is Coed |
Amser y Cyfarfod | 4.30 – 6.00 pm |
Lansiad | Dydd Mawrth, Hydref 19eg 2021 |
Cyfarfod Grŵp 1 | Dydd Mawrth, Tachwedd 16eg 2021 |
Cyfarfod Grŵp 2 | Dydd Mawrth, Ionawr 18fed 2022 |
Cyfarfod Grŵp 3 | Dydd Mawrth, Mawrth 8fed 2022 |
Cyfarfod Grŵp 4 | Dydd Mawrth, Mai 3ydd 2022 |
Cyfarfod Grŵp 5 | Dydd Mawrth, Mehefin 14eg 2022 |
Diwrnod Rhannu | Dydd Mawrth, Mehefin 30ain 2022 |
Am ragor o wybodaeth am y cynllun ac i gofrestru i gymryd rhan, ewch i wefan Cheltenham Festivals.
Cefnogir y rhaglen hon gan Arts Council England, Thirty Percy, a’r Unwin Charitable Trust.

