Caru Darllen Ysgolion: Canllawiau i Ysgolion

Fel rhan o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru ar gyfer ymgyrch Caru Darllen Ysgolion, mae Cyngor Llyfrau Cymru yn dosbarthu detholiad o lyfrau i bob ysgol gynradd wladol yng Nghymru.

Unwaith y byddwch wedi derbyn eich llyfrau, bydd angen dilyn y camau canlynol er mwyn eu dosbarthu ymhlith eich disgyblion. 

  1.  Arddangos y llyfrau ar fwrdd neu stondin mewn lleoliad addas ar gyfer eich ysgol, megis y neuadd, llyfrgell yr ysgol neu gornel ddarllen.
  2. Neilltuo amser i bob dosbarth gael pori yn yr arddangosfa a’r ystod o lyfrau.
  3. Galluogi’r disgybl i ddewis y llyfr y mae eisiau ei gadw.
  4. Rhoi llyfrnod Caru Darllen a cherdyn post i’r disgybl i’w gymryd adref.
  5. Wedi i bob disgybl ddewis ei lyfr, cadw unrhyw lyfrau sy’n weddill yn rhodd ar gyfer llyfrgell yr ysgol.
  6. Ewch i dudalen Caru Darllen Ysgolion yn www.llyfrau.cymru am syniadau, adnoddau ac argymhellion darllen.

 

Mae Cyngor Llyfrau Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn darparu’r ymgyrch Caru Darllen Ysgolion yng Nghymru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â: Shoned Davies – shoned.davies@llyfrau.cymru (Rheolwr Prosiect).