‘Yn 2019, roedd yn union 20 mlynedd ers sefydlu Sialens Ddarllen yr Haf. Hon yw’r ymgyrch flynyddol fwyaf yn y DU i hyrwyddo darllen ymysg plant rhwng 4 ac 11 oed. Ei nod yw eu hannog i ymweld â’u llyfrgelloedd lleol a’u hysbrydoli i ddarllen er mwyn pleser. Elusen ‘The Reading Agency sy’n trefnu’r her flynyddol ar draws y DU. Mae pob un o’r awdurdodau llyfrgell yng Nghymru yn cymryd rhan ac mae’r ymgyrch yn cael ei chefnogi yma gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru.