Cyfarwyddiadau Cystadlu i Ysgolion

Mae cystadleuaeth darllen Bookslam wedi’i hanelu at ysgolion yng Nghymru sy’n dysgu’n bennaf drwy gyfrwng y Saesneg. Mae’n gystadleuaeth llawn hwyl sy’n gallu ysbrydoli plant i ddarllen ac i ysgrifennu – ac mae gwobrau hael i’w hennill hefyd! 

Mae gwybodaeth am sut i gystadlu yn Bookslam 2020-21 i’w cael isod neu ewch i’n tudalen Darllen Dros Gymru i gael manylion am ein cystadleuaeth llyfrau Cymraeg.