BookSlam, cystadleuaeth llyfrau Saesneg i blant cynradd.
Ymunwch gyda ni i ddathlu darllen, gan annog plant ledled Cymru i wirioni ar ddarllen a thrafod llyfrau Saesneg o Gymru.
Trwy gyfrwng y cystadleuaethau hwyliog yma rydym yn annog plant i gymryd diddordeb ym myd llyfrau a chryfhau eu sgiliau llythrennedd, dehongli, trafod a chyflwyno.
Mae’r gystadleuaeth yn creu cyffro am fyd llyfrau, ac wrth gymryd rhan mae’r disgyblion yn meithrin agweddau cadarnhaol a hirdymor tuag at ddarllen. Gall ddarllen er pleser gefnogi datblygiad empathi a chyfrannu at ddatblygiad iechyd a lles.
Dyma gystadleuaeth sydd yn
- agored i ddisgyblion blynyddoedd 3 i 6 cynnig detholiad eang o lyfrau ar y rhestr ddarllen i ennyn diddordeb trawstoriad o ddisgyblion
- cynnig hyblygrwydd i athrawon weithredu ar lefel dosbarth cyfan neu grwpiau MAT
- cyfrannu at ofynion y Siarter Iaith
- cydfynd â gofynion Cwricwlwm i Gymru
- cynnig profiadau gwerthfawr y tu allan i’r ysgol
Yn ogystal â bod yn hwyl, mae elfen gystadleuol y rhaglen yn:
- ysgogi plant o bob gallu i ddarllen a thrafod llyfrau
- rhoi cyfle i’r plant a’u hysgolion i ennill gwobrau hael.
Manylion y Gystadleuaeth
- Mae’r gystadleuaeth yn dechrau ar lefel sirol.
- Bydd pob sir yng Nghymru yn dethol un ysgol i gynrychioli’r sir yn y Rownd Genedlaethol.
- Pob tîm i ddewis UN llyfr o’r rhestr lyfrau i’w drafod ac UN llyfr gwahanol i’w gyflwyno ar ffurf hysbyseb hyrwyddo.
- Cysylltwch â’ch trefnydd sirol neu cllc.plant@llyfrau.cymru i gadarnhau’r trefniadau rhanbarthol.
Trafod:
- Ni fydd disgwyl i’r tîm fod wedi paratoi trafodaeth o flaen llaw ond mae disgwyl i bob aelod ymateb i gwestiynau penagored a sylwadau’r beirniad yn ogystal ag ymateb i sylwadau eu gilydd er mwyn dangos eu bod wedi mynd o dan groen y llyfr.
- Dewis UN llyfr o’r rhestr ddarllen.
- Uchafswm o 4 aelod ym mhob tîm.
- Hyd at 8 munud o sesiwn.
Hysbyseb hyrwyddo:
- Prif nod y perfformiad yw hyrwyddo’r llyfr er mwyn apelio at gynulleidfa o blant o’r un oedran er mwyn eu hannog i’w brynu a’i ddarllen.
- Pob tîm i ddewis UN llyfr gwahanol i’r un a ddewiswyd i’w drafod.
- Uchafswm o 8 aelod ym mhob tîm.
- Nid oes raid i’r aelodau sy’n cyflwyno’r llyfr fod yr un rhai â’r disgyblion fydd yn cymryd rhan yn y drafodaeth.
- Uchafswm o 6 munud o berfformiad hyrwyddo.
- Caniateir props a gwisgoedd.
Ni chaniateir cyflwyniadau Pwerbwynt na cheisiadau am oleuo arbennig.
- Dylid dechrau a gorffen perfformiad â llwyfan wag.
- Tynnir un marc am bob hanner munud dros yr 6 munud a ganiateir.
- Gellir defnyddio cerddoriaeth wedi’i recordio ar drac sain ond nid oes hawl gan athro/athrawes i fod ar y llwyfan yn cyfeilio.
- Rhoddir 50% o’r marciau am y trafod a 50% am y perfformiad.
Canllawiau Trafod
Am beth fydd y beirniad yn chwilio?
- Gwybodaeth drylwyr o’r llyfrau a ddarllenwyd.
- Y gallu i fynegi barn yn glir a chroyw.
- Trafod fel grŵp gan gytuno neu anghytuno â barn eraill yn y tîm.
- Y gallu i fynd dan groen y llyfrau, y stori a’r cymeriadau, lle mae hynny’n bosib neu’n briodol.
- Y gallu i ddangos mwynhad o elfennau’r llyfr oedd yn llwyddiannus.
- Y gallu i roi rhesymau gonest a theg dros farn neu safbwynt.
- Cyfraniad cyfartal a chytbwys gan bedwar aelod y tîm.
- Cyfeirio, lle bo hynny’n briodol, at ddarllen cyffredinol y tu allan i ffiniau’r gystadleuaeth.
- Y gallu i drafod cymeriadau a’u nodweddion a mynegi barn amdanynt.
Canllawiau Hysbyseb Hyrwyddo
Am beth fydd y beirniad yn chwilio?
- Cyflwyniad sy’n cyfleu naws y llyfr ac yn annog y gynulleidfa darged i fynd ati i ddarllen y llyfr dan sylw.
- Cyflwyniad bywiog gydag effeithiau dramatig amrywiol.
- Defnydd hyderus ac effeithiol o’r llwyfan eang.
- Y gallu i daflu lleisiau ac i gyfleu neges yn glir – lleisiau uchel, clir a hyderus.
- Symudiadau effeithiol gan ddefnyddio’r holl lwyfan.
- Y gallu i weithio fel tîm – cyfle i bob unigolyn gyfrannu at y cyflwyniad.
- Mae’r defnydd o wisgoedd a ‘phrops’ yn effeithiol ond nid ydynt yn orfodol