Prif Weithredwr

Penodwyd Helgard Krause yn Brif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru ym mis Ebrill 2017.

Yn wreiddiol o dde’r Almaen ac yn amlieithog, mae gan Helgard gyfoeth o brofiad ym maes cyhoeddi academaidd, proffesiynol, darluniadol a masnachol.

Dechreuodd ei gyrfa gyhoeddi yn y diwydiant llyfrau gyda chwmni Routledge, gan weithio am flwyddyn yn Rwsia. Bu’n Bennaeth Gwerthu a Hawliau ar gyfer cyhoeddwyr Rockport / RotoVision yn Brighton cyn ymuno gyda’r Cyngor Llyfrau fel Swyddog Gwerthiant Rhyngwladol i ddechrau ac yna’n Bennaeth Gwerthu a Marchnata.

Yn 2010, cafodd Helgard ei phenodi yn Brif Weithredwr Gwasg Prifysgol Cymru (sydd yn eiddo i Brifysgol Cymru). Mae’r Wasg yn cyhoeddi bron i chwe deg o deitlau newydd y flwyddyn yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac yn canolbwyntio ar amrywiaeth o bynciau o Hanes i Astudiaethau Ewropeaidd.

Mae’n aelod o’r Gymdeithas Ddysgedig Cymru ac yn 2020, cafodd wahoddiad i ymuno â Gorsedd y Beirdd am ei chyfraniad i’r celfyddydau .

Manylion cyswllt

castellbrychan@llyfrau.cymru | (+44) 1970 624151