Enillwyr Gwobrau Tir na n-Og 2024

Cyhoeddwyd enwau enillwyr y Gwobrau Cymraeg yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn ym Meifod ar ddydd Mercher, 29 Mai 2024 a’r Wobr Saesneg mewn seremoni arbennig yng nghynhadledd CILIP ar ddydd Gwener, 17 Mai 2024.

Y tri llyfr a ddaeth i’r brig yng Ngwobrau Tir na n-Og 2024 oedd Jac a’r Angel gan Daf James (Y Lolfa), Astronot yn yr Atig gan Megan Angharad Hunter (Y Lolfa) a Where the River Takes Us gan Lesley Parr (Bloomsbury).

 

ENILLYDD CATEGORI CYMRAEG – CYNRADD

Jac a’r Angel gan Daf James, darluniwyd gan Bethan Mai (Y Lolfa)

Nofel ddoniol, annwyl a theimladwy. Mae Jac a’r Angel yn stori Nadoligaidd hwyliog. Bydd oedolion a phlant yn gallu mwynhau stori’r bachgen diniwed sy’n defnyddio ei ddychymyg i oresgyn galar a grymoedd tywyll bywyd.

Dywedodd Daf James: “Ers i fi fedru darllen yn blentyn, dwi wedi bod yn ymwybodol o wobrau Tir na n-Og, gan fod cynifer o’r awduron ro’n i’n eu mwynhau wedi ennill y wobr: awduron fel T. Llew Jones, J. Selwyn Lloyd, Irma Chilton, Gwenno Hywyn, Penri Jones, Jenny Nimmo… mae’r rhestr yn hirfaith! Mae’n wobr hollbwysig sy’n dathlu ac yn tynnu sylw haeddiannol at lyfrau plant a phobl ifanc, ac mae cael ymuno â rhestr o arwyr llenyddol fy mhlentyndod yn gwireddu breuddwyd fawr i mi.

Er mai dramodydd ydw i gan amlaf, llyfrau – nid dramâu – oedd fy angerdd llenyddol cyntaf. Roedd cael dianc i fyd y stori yn falm i’r enaid pan on i’n grwtyn bach ecsentrig, a dwi wedi ysu am gael sgwennu nofel ers hynny. Dod yn dad nath fy ysgogi i fwrw ati – ro’n i eisiau sgwennu stori i’m plant – ac felly dwi’n diolch o waelod calon iddyn nhw am fod yn ysbrydoliaeth; ond hefyd dwi’n ddiolchgar i’r awduron hynny a ddaeth o’m blaen, ac a wnaeth i fi gredu, fel Jac yn Jac a’r Angel, bod unrhyw beth yn bosib pan fo’r dychymyg ar dân.”

ENILLYDD CATEGORI CYMRAEG – UWCHRADD

Astronot yn yr Atig gan Megan Angharad Hunter (Y Lolfa)

Mae Rosie wedi gwirioni ar y gyfres deledu Yr Estronos ac ar ofodwyr, a phan mae llong ofod yn glanio yn yr ardd gefn, mae wrth ei bodd. Nofel yw hon am greu cyfeillgarwch, am deithio’n ôl ac ymlaen mewn amser, am dyfu i fyny mewn byd cymhleth ac anodd, ac am wthio ffiniau’r dychymyg i’r eithaf.

Dywedodd Megan Angharad Hunter: “Does ’na ddim geiria sy’n gallu esbonio gymaint ma’r anrhydedd hwn yn ei olygu i fi. Fel plentyn ac yn ystod fy arddegau, ro’n i wastad yn cadw llygad ar Wobrau Tir na n-Og felly mae ei hennill, a hynny am lyfr sy mor agos at fy nghalon – yn brofiad bendigedig o swreal.

Bysa llyfr fel Astronot yn yr Atig wedi bod yn gysur mawr i fi pan o’n i’n yr ysgol felly gobeithio y bydd hi’n gysur i blant Cymru heddiw hefyd, ac yn mynd â nhw ar antur gyffrous a dychmygus ar draws y gofod!

Mae Gwobr Tir na n-Og mor bwysig achos dydi llyfrau plant ddim yn cael hanner digon o sylw, yn enwedig rhai Cymraeg gwreiddiol, sy’n eironig iawn achos mae angen darllenwyr iau i sicrhau y bydd ’na ddarllenwyr Cymraeg sy’n oedolion yn nes ymlaen! Ma ’na lot o resyma pam dwi’n meddwl fod llyfrau plant yn bwysicach, o bosib, na rhai oedolion – ond dyma un ohonyn nhw.”

 

CATEGORI SAESNEG

Where the River Takes Us gan Lesley Parr (Bloomsbury)

Stori antur gyffrous wedi ei lleoli mewn cwm yng Nghymru yn y 1970au ac wedi’i chyhoeddi gan Bloomsbury.

Cyhoeddwyd enw’r enillydd mewn seremoni amser cinio, dydd Gwener 17 Mai yng Nghynhadledd CILIP Cymru Wales yng Nghaerdydd, gan y gantores, actor a chyflwynydd Miriam Isaac.

Dyma’r ail dro i Lesley ennill Gwobr Saesneg Tir na n-Og, yn dilyn llwyddiant ei nofel oedd wedi’i lleoli yn amser rhyfel, The Valley of Lost Secrets yn 2022. Mae ei nofel fuddugol y tro hwn wedi’i gosod yn 1974; cyfnod y streiciau, caledi a’r wythnos tri diwrnod, ond mae hefyd yn stori sy’n llawn hiwmor a chyfeillgarwch.

Dywedodd Lesely Parr: “Rydw i wrth fy modd bod Where the River Takes Us wedi ennill Gwobr Saesneg Tir na n-Og. Rwy’n mwynhau ysgrifennu am fy math i o Gymru – pobl gyffredin yn gwneud pethau anghyffredin gyda Chymreictod y dosbarth gweithiol yn gefnlen i’r cyfan. Mae derbyn cydnabyddiaeth ar y lefel hon – yn fy ngwlad fy hun – yn wobr arbennig iawn.”

 

CATEGORI DEWIS Y DARLLENWYR 2024

Gwobrau arbennig yw’r rhain wedi’u dewis o deitlau’r rhestr fer ymhob categori gan y plant a’r bobl ifanc a gymerodd ran yng Nghynllun Cysgodi Gwobrau Tir na n-Og.

Yr enillwyr yn y tri chategori oedd:

Categori Cymraeg yn y cynradd – Mari a Mrs Cloch gan Caryl Lewis, darluniwyd gan Valériane Leblond (Y Lolfa)

Categori Cymraeg yn yr uwchradd – Sêr y Nos yn Gwenu gan Casia Wiliam (Y Lolfa)

Categori Saesneg – Where the River Takes Us gan Lesley Parr (Bloomsbury)