Grantiau i Gyhoeddwyr (deunydd Cymraeg)

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn cynnig grantiau tuag at gyhoeddi ystod eang o lyfrau a chylchgronau Cymraeg eu hiaith, i oedolion a phlant, yn cynnwys deunydd hamdden a theitlau llenyddol. Nid ydym yn ariannu gwerslyfrau a deunydd addysgol cyffelyb. Mae grantiau hefyd ar gael i gyhoeddwyr tuag at gomisiynu awduron, darlunwyr a ffotograffwyr a dylunwyr, cyflogi golygyddion creadigol, a thuag at rai cynlluniau marchnata.