Grantiau Sydd ar Gael

Llywodraeth Cymru sy’n ariannu’r grantiau cyhoeddi, â’r Cyngor Llyfrau yn eu gweinyddu.

Mae angen i gyhoeddwyr gyflwyno cais am gefnogaeth ac mae pob cais yn cael ei ystyried gan Is-bwyllgor Datblygu Cyhoeddi (Cymraeg) annibynnol y Cyngor Llyfrau.

Mae’r rhestr isod yn nodi’r ystod o grantiau gwahanol sydd ar gael i’r diwydiant. ac fe allwch chi gysylltu â’r Adran Datblygu Cyhoeddi i gael manylion pellach.

E-bostiwch y Swyddog Datblygu Cyhoeddi (Cymraeg) ar grantiau.cymraeg@llyfrau.cymru neu ewch i’r Adran ‘Sut i Ymgeisio’ ar gyfer y canllawiau manwl.

 

 

Grantiau Llyfrau Unigol

Grantiau i’r prif gyhoeddwyr i gynorthwyo i gynhyrchu llyfrau a fyddai o bosibl yn fwy cyfyng eu hapêl, gan gynnwys llyfrau ffeithiol a ffuglen, a gweithiau llenyddol, i oedolion a phlant. Gall cyhoeddwyr llai ddefnyddio’r grant hwn yn ogystal, i gyhoeddi llyfrau mwy poblogaidd.

 

Grantiau Rhaglen

Cyllideb bloc, i’r prif gyhoeddwyr, y ceisir amdani bob pedair blynedd, i gynorthwyo gyda chynhyrchu rhaglen amrywiol, boblogaidd o 8 llyfr o leiaf (un ai i blant neu oedolion). Rhaid i gyhoeddwr fod â gweinyddiaeth gadarn a phrofiad helaeth, ac wedi bod yn derbyn y Grantiau Llyfrau Unigol cyn y gall wneud cais i fod yn Gyhoeddwr Grant Rhaglen. Bydd yr alwad nesaf ar gyfer cyfnod 2029–2033 yn digwydd yn ystod 2026–27.

 

Taliadau i Awduron

Cyhoeddwyr sy’n ceisio am y grantiau hyn i’w galluogi i gynnig comisiynau a thaliadau cystadleuol i awduron am weithiau ag apêl eang iddynt, i oedolion a phobl ifanc. Dylai awduron drafod eu syniadau gyda’r cyhoeddwyr.

 

Taliadau i Ddarlunwyr a Ffotograffwyr a Dylunwyr

Cyhoeddwyr sy’n ceisio am y grantiau hyn i’w galluogi i gynnig comisiynau a thaliadau cystadleuol i ddarlunwyr, dylunwyr a ffotograffwyr i greu gwaith gwreiddiol ar gyfer llyfrau darluniadol i oedolion ac i blant. Dylid trafod unrhyw syniadau gwreiddiol gyda’r cyhoeddwyr.

Cefnogi Swyddi

Grantiau i gyhoeddwyr cydnabyddedig tuag at gost cyflogi golygyddion creadigol.

 

Grantiau Marchnata

Grantiau i gyhoeddwyr i noddi gweithgaredd marchnata a chynyddu gwerthiant llyfrau a dderbyniodd grant cyhoeddi.

 

Cylchgronau

Dyfernir y grantiau hyn bob pedair blynedd. Amcan y cynllun yw sicrhau cyhoeddi amrywiaeth o gylchgronau Cymraeg bywiog ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion sy’n cynnwys ysgrifennu da a lle bo hynny’n briodol, newyddiaduraeth safonol, adolygiadau a thrafodaethau ar nifer o bynciau amrywiol. Dyfernir y grantiau nesaf ym mis Hydref  2026 ar gyfer darpariaeth 2027–31.

 

Gwasanaeth Newyddion

Dyfernir y grant hwn bob pedair blynedd. Rhoddir grant i gynnal gwasanaeth newyddion digidol trwy gyfrwng y Gymraeg. Hyd at Fawrth 2026, cynhelir un gwasanaeth, sef Golwg360 gan Golwg Cyf. Mae cyfle ar hyn o bryd i gystadlu am gyfle i gynnig ail wasanaeth tebyg rhwng 2023 a 2026. (Gweler Tendrau)