Sut i Ymgeisio

 

Mae croeso i unrhyw un sydd am gael cyngor ynglŷn â’r drefn o ymgeisio am grantiau gysylltu â’r Adran Datblygu Cyhoeddi yn uniongyrchol, yn enwedig os ydych yn gyhoeddwr newydd sy’n ystyried mentro i’r maes. Nid yw’r Cyngor yn derbyn ceisiadau am grant yn uniongyrchol gan unigolion.

Os ydych yn awdur, yn ddarlunydd neu’n ddylunydd sy’n chwilio am gefnogaeth, mae angen i chi sicrhau cefnogaeth gan gyhoeddwr a fydd yn eu tro yn cyflwyno cais i’r Cyngor Llyfrau. 

Am sgwrs gychwynnol a ffurflenni cais, cysylltwch gyda grantiau.cymraeg@llyfrau.cymru.

 

Canllawiau ac Amodau

Darllenwch y canllawiau ac amodau perthnasol isod cyn mynd ati i lenwi’r ffurflenni cais. Os ydych yn ansicr am unrhyw beth, cysylltwch gyda grantiau.cymraeg@llyfrau.cymru.

.