Bethany Davies

 

Mae Bethany Davies yn frwd dros y Gymraeg, yn grëwr cynnwys TikTok a hanesydd.

Mae’n byw yn Llanelli gyda’i gŵr, lle mae’n gwneud cynnwys digidol am ei hangerdd dros hanes, yr iaith Gymraeg, a diwylliant.

 

“Mae fy chwaeth mewn llyfrau wedi tyfu a datblygu gyda mi, dyna harddwch darllen, mae cymaint o wahanol genres a straeon y gallwch chi ymgolli ynddyn nhw.”

Roeddwn i’n ddarllenydd brwd pan oeddwn i’n tyfu i fyny. Rwy’n un o bump o blant, ac roedd fy mrodyr a chwiorydd yn caru Harry Potter. Oherwydd fy oedran, fe fethais i’r heip o gwmpas y llyfrau pan ddechreuodd y cyfan, ond oherwydd mai fi yw’r ieuengaf o bump, roedd brwdfrydedd fy mrodyr a chwiorydd wedi dylanwadu arna i.

Yn ystod fy arddegau, mwynheais ddarllen Perks of Being A Wallflower, Twilight, The Hunger Games, a The Fault in Our Stars – roedd y llyfrau hyn wir yn diffinio fy nghenhedlaeth i.

Yn dilyn hyn, dechreuais ddarllen y clasuron, yn arbennig Pride & Prejudice a Wuthering Heights. Mae fy chwaeth wedi tyfu a datblygu gyda mi, dyna harddwch darllen, mae cymaint o wahanol genres a chymaint o straeon y gallwch chi ymgolli ynddyn nhw.

Roedd llawer o lyfrau yr oeddwn yn eu darllen yn yr ysgol, yn enwedig yn fy mlynyddoedd iau, a helpodd fi i feithrin ymdeimlad o ‘rywbeth’ mwy na mi fy hun. Mewn cyfres fel The Hunger Games , dysgais i gydymdeimlo â’r cymeriadau, mewn naratif a oedd fel arall yn eithaf annirnadwy. Roedd y rhain yn sefyllfaoedd arallfydol, na ddylai fod yn berthnasol i ferch ddeuddeg oed yn Llanelli, ond oherwydd dynoliaeth y cymeriadau, roedden nhw.

Un o fy hoff gymeriadau llenyddol yw Hermione Granger. Rwy’n dwlu arni. Rwy’n tueddu i bwyso tuag at gymeriadau benywaidd cryf, sy’n dangos eu cryfder mewn amrywiaeth o ffyrdd. Nid yw cryfder bob amser yn cael ei ddangos mewn ffordd amlwg, gall fod yn hyder tawel. Dyna dwi’n ei garu am Katniss Everdeen, y prif gymeriad benywaidd yn llyfrau The Hunger Games. Mae hi’n arweinydd benywaidd cryf iawn, ond mae ganddi hefyd fregusrwydd sy’n ei gwneud hi’n berthnasol i ddarllenwyr, yn enwedig merched ifanc yn eu harddegau.

“Fe wnaeth darllen a llyfrau fy helpu i fuddsoddi yn fy niddordeb mewn hanes, a wnaeth fy annog i’w astudio yn y brifysgol a nawr, mae’n yrfa hefyd.”

Daeth fy nghariad at hanes o lyfrau. Sylwodd fy rhieni ar fy niddordeb mewn hanes yn ifanc iawn, a gwnaethant fy annog mewn unrhyw ffordd y gallent. Pan oeddwn i’n dysgu am Yr Holocost yn yr ysgol, fe wnaethon nhw brynu Dyddiadur Anne Frank i mi, er mwyn dyfnhau fy nealltwriaeth o’r pwnc. Erbyn i mi orfod penderfynu pa lwybr i’w ddewis ar ôl ysgol, roedd darllen a llyfrau wedi fy helpu i fuddsoddi yn fy niddordeb mewn hanes, a wnaeth fy annog i’w astudio yn y brifysgol a nawr, mae’n yrfa hefyd.

“Gall darllen trwy gyfrwng y Gymraeg eich helpu i gysylltu â’ch Cymreictod mewn ffordd sy’n cadarnhau bod yr iaith yn fyw ac yn ffynnu.”

Dechreuodd mam ddarllen i ni yn Gymraeg yn ifanc iawn, cymaint felly, daeth yn iaith gyntaf i mi. Dysgwr Cymraeg oedd fy mam ac roedd yn help iddi ddarllen llyfrau Cymraeg i ni, oherwydd byddai’n dysgu fel yr oeddem yn dysgu. Wrth ddarllen y llyfrau hyn teimlais gysylltiad nid yn unig â fy mam, ond hefyd â fy mrodyr a chwiorydd, a fy hunaniaeth Gymreig.

Roedd darllen llyfrau Cymraeg hefyd yn help yn ystod fy ngradd hanes, gan fy mod yn arbenigo ar hanes Cymru. Roeddwn i’n gallu cyfieithu adnoddau Cymraeg i’r Saesneg a defnyddio fy nealltwriaeth o’r Gymraeg mewn ffordd ymarferol iawn.

Ar lefel bersonol, mae darllen trwy gyfrwng y Gymraeg wedi fy helpu i gysylltu â’m Cymreictod mewn ffordd sy’n cadarnhau i mi fod yr iaith yn fyw ac yn ffynnu.

Mae pobl ar Tik Tok yn aml yn gofyn i mi ‘Sut alla i wella fy sgiliau Cymraeg?’ ac rwy’n gofyn iddynt ‘Beth yw eich hoff lyfrau?’ Wedyn, rwy’n argymell iddynt ddod o hyd i gyfieithiad Cymraeg o’r llyfrau hynny, a’u darllen ochr yn ochr â’r copiau Saesneg. Y ffordd yna, gallwch ddysgu geiriau ac ymadroddion mewn ffordd sy’n gyfarwydd ac yn hwyl.

Mae’r Gymraeg yn rhan mor annatod o’n cymdeithas. Mae’n biler i’n cymdeithas, yr iaith a siaradodd ein hynafiaid, ac mae’n rhan o’n treftadaeth ddiwylliannol. Fel hanesydd, mae hyn yn golygu cymaint i mi, gan ei fod yn ffordd o gysylltu â threftadaeth deuluol sydd wedi mynd ar goll. Er enghraifft, mae mam yn dod o deulu gyda llinach hir o siaradwyr Cymraeg, ond erbyn iddi gael ei geni, roedd yr iaith wedi diflannu o’r aelwyd a doedd y Gymraeg ddim yn rhan o’i bywyd. Cymerodd y cyfrifoldeb o ddysgu Cymraeg ei hun, ac roedd llyfrau yn bendant yn gymorth i’r broses honno.

 

“Mae’n fy nghysylltu â phwy ydw i, fy niddordebau, a chaniatáu amser tawel i mi fy hun.”

Rwy’n mwynhau darllen gyda’r nos – mae’n fy ymlacio ac mae’n fy nghadw i rhag mynd ar gyfryngau cymdeithasol, yn enwedig gan mai dyna fy ngwaith i. Er fy mod i wrth fy modd, mae mor dda cael yr amser segur hwnnw. Mae darllen yn fath o hunanofal i mi, rwy’n buddsoddi ynof fy hun. Mae’n fy nghysylltu â phwy ydw i, fy niddordebau a chaniatáu amser tawel i mi fy hun.

 

“Oherwydd fy mod yn anabl, mae darllen yn ffynhonnell o ddigymelldeb a gwefr.”

Mae cynrychiolaeth, hunaniaeth a siarad am faterion pwysig o fewn llyfrau yn hollbwysig. Rwy’n anabl, ac yn credu bod cynrychioli lleisiau ymylol, yn enwedig pan gaiff ei wneud yn barchus, mor effeithiol. Mae rhai pobl yn teimlo mor unig yn eu brwydrau, hyd yn oed os oes ganddyn nhw system gymorth wych. Gall cynrychiolaeth y cymunedau hyn mewn llyfrau gynnig yr haen ychwanegol honno o ddealltwriaeth a chefnogaeth. Rwyf hefyd yn gweld y gall eich helpu i roi mewn geiriau deimlad na allwch ei esbonio na’ch deall eich hun fel arall – weithiau rydych chi’n deall pethau’n fwy pan fydd yn digwydd i bobl neu gymeriadau eraill mewn llyfrau.

Rwyf wedi darllen llawer o lyfrau o ddau safbwynt a stori sy’n troi rhwng cymeriadau. Trwy’r rhain rydw i wedi dysgu llawer amdanaf fy hun a sut rydw i’n darllen sefyllfaoedd. Maen nhw wedi fy nysgu i fod ychydig yn fwy ystyriol o wahanol sefyllfaoedd ac i fod ychydig yn fwy meddwl agored, gan wybod y gallaf gael fy ngwirionedd ac y bydd gan bobl eraill eu rhai nhw hefyd.

Oherwydd fy mod yn anabl, nid wyf bob amser yn cael gwneud y pethau yr hoffwn eu gwneud, neu yn y ffordd yr hoffwn eu gwneud, felly mae darllen yn ffynhonnell o ddigymelldeb a gwefr pan fyddaf yn teimlo’n llonydd.

I deuluoedd neu blant sy’n ei chael hi ychydig yn anoddach cael llyfrau newydd, byddwn yn argymell edrych i mewn i’r hyn y gall eich cymuned ei gynnig. Efallai y bydd gan wahanol ardaloedd fentrau neu adnoddau gwahanol ar gael. Mae bod yn rhan o’ch llyfrgell leol yn ffordd wych o ddarllen llyfrau newydd yn barhaus a dod o hyd i fathau amrywiol o lyfrau. Byddwn hefyd yn argymell ymuno â chlwb llyfrau, nid oes rhaid iddo fod yn wyneb yn wyneb bob amser, gallwch chi hefyd wneud clwb llyfrau digidol. Cyfnewidiwch lyfrau gyda ffrindiau fel nad oes rhaid i chi brynu llyfrau newydd. Mae yna ffyrdd i ddarganfod llyfrau newydd a gwella eich llythrennedd sydd hefyd yn gost-effeithlon.

 

 

Rhestr Ddarllen Bethany

  • Cyfres The Hunger Games gan Suzanne Collins
  • The Diary of a Young Girl gan Anne Frank
  • Cyfres The Twilight gan Stephanie Meyer
  • Harry Potter and The Chamber of Secrets